CILIP CYMRU WELCOMES CILIP COUNCIL UK TO WALES

Welsh Language version 

The UK Council of the Chartered Institute of Library and Information Professionals (CILIP) held their first ever meeting in Cardiff on the 17th June as guests of CILIP Cymru/Wales. It was the first time the new Council had met outside of London. A highlight of the visit was dinner with the Welsh Assembly Government Minister for Heritage, Rhodri Glyn Thomas, AM, the night before the meeting.

“We were very pleased to welcome Council to Wales”, commented Rhys Bebb Jones, Chair of CILIP Cymru. “It gave us an opportunity to show a lively professional community within Wales actively engaged in the political and cultural life of the Welsh nation and contributing effectively to the overall CILIP agenda”.

The meeting with the Minister provided an opportunity to discuss the role of libraries in cultural tourism and cross domain working between libraries, museums and archives.

Rhodri Glyn Thomas said, “CILIP is a key partner in delivering the Welsh Assembly Government’s Libraries for Life programme, which aims to deliver a modern library service for Wales. I was pleased to take this opportunity to explore new opportunities for partnership working and to thank them for their contribution in the past. Co-operation in developing a highly skilled workforce, especially in delivering training in areas such as mentoring new professionals, has ben a model of best practice within the sector.”

In reflecting upon the visit Leader of Council Judy Broady-Preston, stated:

“I am delighted that the first meeting of CILIP Council to take place outside London has ben held here in Cardiff. It demonstrates the UK-wide remit of CILIP, and has enabled us to have a productive exchange of views on curent professional topics with Rhodri Glyn Thomas, Minister for Heritage, and professional colleagues in Wales, especially those from CILIP Cymru/Wales.”


Press contacts:

Rhys Bebb Jones, Chair of CILIP Wales
Email: rhys.jones@llgc.org.uk
Tel: 01970 632992
(Prepared to discuss in English and Welsh)

Judy Broady-Preston, Leader of CILIP Council
Email: jbp@aber.ac.uk
Tel: 01970 622185

Mandy Powell, Development Officer, CILIP Wales
Email: mdp@aber.ac.uk
Tel: 07837 032 536

Guy Daines, Director, Policy & Advocacy, CILIP
Email: guy.daines@cilip.org.uk
Tel: 020 7255 0632
Mobile: 07746 796387

- ends -

Notes to editors:

1. Rhodri Glyn Thomas AC / AM is the Welsh Assembly Government Minister for Heritage and National Assembly member for Carmarthen East and Dinefwr.
Rhodri Glyn Thomas was born in 1953 in Wrexham and was educated at Ysgol Bodhyfryd and Ysgol Morgan Llwyd in Wrexham and at Aberystwyth University where he studied Welsh. He later gained a BD degree in Theology at Bangor University and a MTh degree at Lampeter University reading American Theology.
Before entering full-time politics Rhodri was a Minister of Religion as well as a Director of a language consultancy company, a Chair of CND Cymru and Welsh spokesperson for the Forum of Private Business.

2. CILIP Cymru / CILIP Wales: the Chartered Institute of Library and Information Professionals (CILIP) Wales is a Branch of the UK Chartered Institute of Library and Information Professionals. CILIP Wales asserts that high quality library and information provision is a fundamental requirement for an informed, democratic, and bilingual society in Wales and through its members it seeks to make such provision available to all.
www.dil.aber.ac.uk/cilip_w/index.htm

3. CILIP: the Chartered Institute of Library and Information Professionals is the leading professional body for librarians, information specialists and knowledge managers. It forms a community of around 36,000 people engaged in library and information work, of whom approximately 21,000 are CILIP members and about 15,000 are regular customers of CILIP Enterprises.

CILIP speaks out on behalf of the profession to the media, government and decision makers, and provides practical support for members throughout their entire careers, helping them with their academic education, professional qualifications, job hunting and continuing professional development. For more information about CILIP go to www.cilip.org.uk

4. CILIP Council is the governing body of CILIP consisting of twelve elected Trustees, including the Leader of Council and a Deputy Leader of Council. For more information see: http://www.cilip.org.uk/aboutcilip/howcilipworks/council


CILIP: the Chartered Institute of Library and Information Professionals
7 Ridgmount St, London WC1E 7AE.

Tel: 020 7255 0500
Textphone: 020 7255 0505
Fax: 020 7255 0501
Email: media@cilip.org.uk

Newyddion oddi wrth CILIP

20 Mehefin 2008

I'w gyhoeddi yn syth (a fuasech yn ei gynnwys mewn rhestri arlein os gwelwch yn dda)


CILIP CYMRU/WALES YN CROESAWU CYNGOR CILIP DG I GYMRU

Cynhaliwyd cyfarfod Mehefin o Gyngor Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP) y Deyrnas Gyfunol (DG) yng Nghaerdydd ar 17eg Mehefin ar wahoddiad CILIP Cymru/Wales. Hwn oedd yr achlysur cyntaf i’r Cyngor CILIP newydd gynnal un o’u cyfarfodydd y tu allan i Lundain. Un o’r uchafbwyntiau fu cyfarfod gyda Rhodri Glyn Thomas, AC, Gweinidog dros Dreftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, am ginio ar y nos Lun cyn cyfarfod Cyngor CILIP drannoeth.

“Yr ydym yn falch iawn o groesawu Cyngor CILIP i Gymru” meddai Rhys Bebb Jones, Cadeirydd CILIP Cymru/Wales. “Bu’n gyfle i ddangos y gymuned broffesiynol egnïol sydd yng Nghymru a’i rhan allweddol ym mywyd gwleidyddol a diwylliannol y genedl Gymreig a’i chyfraniad gwerthfawr i agenda CILIP”.

Bu’r cyfarfod gyda’r Gweinidog yn gyfle i drafod rhan llyfrgelloedd mewn hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol ynghyd â’r cydweithio sydd ar draws sectorau rhwng llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas “Y mae CILIP yn bartner allweddol i wireddu rhaglen Llyfrgelloedd am Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd yn anelu tuag at ddatblygu gwasanaeth llyfrgell gyfoes i Gymru. Yr oeddwn yn falch o’r cyfle i drafod cyfleon cydweithio newydd a diolch iddynt am eu cyfraniad blaenorol. Y mae cydweithio i ddatblygu gweithlu sydd â’r sgiliau gorau, yn arbennig trwy gynnig cyfleoedd hyfforddi mewn meysydd megis mentora aelodau proffesiynol newydd, yn enghraifft o arferion gorau'r sector hwn.”

Dywedodd Judy Broady-Preston, Arweinydd Cyngor CILIP yn ei sylwadau yn dilyn yr ymweliad “Yr wyf yn hynod o falch i gyfarfod cyntaf Cyngor CILIP y tu allan i Lundain fod wedi ei chynnal yma yng Nghaerdydd. Y mae’n dangos swyddogaeth CILIP ar draws y DG, gan roddi’r cyfle i ni gyfnewid safbwyntiau ynglyn â materion proffesiynol gyda Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth, a’n cydweithwyr proffesiynol yng Nghymru, yn arbennig yn CILIP Cymru/Wales.”

Cysylltiadau:

Rhys Bebb Jones, Cadeirydd CILIP Cymru/Wales
rhys.jones@llgc.org.uk
01970 632992
(Yn barod i drafod yn Gymraeg a’r Saesneg)

Judy Broady-Preston, Arweinydd Cyngor CILIP
jbp@aber.ac.uk
01970 622185

Mandy Powell, Swyddog Datblygu CILIP Cymru/Wales
mdp@aber.ac.uk
07837 032 536

Guy Daines, Cyfarwyddwr, Polisi ac Adfocatiaeth, CILIP
guy.daines@cilip.org.uk
020 7255 0632
07746 796387

diwedd –

Nodiadau

1. Rhodri Glyn Thomas AC / AM yw Gweinidog dros Dreftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Ganed Rhodri Glyn Thomas yn Wrecsam yn 1953 a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Bodhyfryd ac Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam ac ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu’n astudio’r Gymraeg. Enillodd yn ddiweddarach radd BD mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, a gradd MTh ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan, lle bu’n astudio Diwinyddiaeth Americanaidd.

Cyn ei ethol yn wleidydd llawn amser, bu’n Weinidog yr Efengyl yn ogystal ag yn Gyfarwyddwr cwmni ymgynghori ar iaith, yn Gadeirydd CND Cymru ac yn llefarydd Cymreig ar ran y Fforwm Busnesau Preifat.

2. CILIP Cymru/Wales
Cangen yw Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP) Cymru/Wales o Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth y DG.
Mae CILIP Cymru/Wales yn mynnu bod darpariaeth o safon uchel ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth yn angen sylfaenol ar gyfer cymdeithas wybodus, ddemocrataidd a dwyieithog yng Nghymru, a thrwy ei haelodau mae CILIP yn anelu i sicrhau y bydd y ddarpariaeth hon ar gael i bawb.
http://www.dil.aber.ac.uk/cilip_w/index.htm

3. CILIP: Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth yw’r prif sefydliad proffesiynol ar gyfer llyfrgellwyr, arbenigwyr a rheolwyr gwybodaeth. Y mae’n arwain cymuned o tua 36,000 o bobl sydd yn gweithio ym maes llyfrgellyddiaeth a gwybodaeth, gyda thua 21,000 ohonynt yn aelodau CILIP a thua 15,000 yn gwsmeriaid rheolaidd o CILIP Enterprises.

Y mae CILIP yn gyfrifol am gynrychioli’r proffesiwn wrth drafod gyda’r cyfryngau, llywodraethau a’r rhai’n sy’n gwneud penderfyniadau, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol i’w haelodau yn ystod eu gyrfa trwy eu cynorthwyo yn eu haddysg academaidd, eu cymwysterau proffesiynol, chwilio am swydd a pharhau gyda’u datblygiad proffesiynol.
http://www.cilip.org.uk


4. Cyngor CILIP yw corff llywodraethol CILIP sy’n cynnwys deuddeg o Ymddiriedolwyr etholedig gydag un ohonynt yn Arweinydd y Cyngor ac un arall yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Cysylltwch am wybodaeth bellach gyda http://www.cilip.org.uk/aboutcilip/howcilipworks/council
Updated: 23 July 2008
Registered charity no. 313014
VAT Registration No GB 233 1573 87
© Copyright CILIP 2008
CILIP, 7 Ridgmount Street, London WC1E 7AE
Tel: +44 (0)20 7255 0500 Fax: +44 (0)20 7255 0501