This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
#PleidleisiwchLlyfrgelloedd yn yr etholiadau lleol a chenedlaethol 2022
Anogwch eich ymgeiswyr yn etholiadau Mai 5 i gefnogi #PleidleisiwchLlyfrgelloedd
Ar ddydd Iau y 5ed o Fai, cynhelir etholiadau lleol a chenedlaethol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i benodi bron i 7,000 o gynrychiolwyr etholedig newydd.
Mae CILIP yn gofyn i’n haelodau estyn allan i’ch ymgeiswyr lleol a’u hannog i #PleidleisiwchLlyfrgelloedd i gydnabod yr effaith gymdeithasol ac economaidd enfawr y mae gwasanaethau llyfrgell lleol yn ei ddarparu i’w cymunedau.
Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
Cefnogi dysgu ffurfiol, anffurfiol a gydol oes
Gwella darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol lleol
Helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cydlynol
• Rhoi mynediad i bobl at sgiliau bywyd, gan gynnwys sgiliau digidol a llythrennedd
Darllenwch fwy am effaith llyfrgelloedd yn ein herthygl ar gyfer The Bookseller.
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol llyfrgell a gwybodaeth
Os ydych yn byw a gweithio yng Nghymru neu Loegr, gweler isod am rai ffyrdd syml y gallwch ein helpu i gyfleu'r neges i ymgeiswyr yn eich ardal.
Os ydych yn byw a gweithio yn Yr Alban, gweler ymgyrch ar wahân #LibrariesAreEssential dan arweiniad CILIP yr Alban.
Yn gyntaf. Defnyddiwch arf chwilio Democracy Club I ddarganfod pwy sy’n sefyll yn eich ardal, yna:
Os oes gennych 1 munud
Anfonwch neges Twitter neu neges at eich ymgeiswyr lleol (rydym wedi awgrymu rhai negeseuon ar y templed isod, ond mae croeso i chi addasu'r rhain i'ch ardal chi). Os gwelwch yn dda defnyddiwch yr hashnod #PleidleisiwchLlyfrgelloedd fel y gallwn gadw golwg ar weithgarwch.
Rhowch wybod i ni os ydych wedi gallu estyn allan at eich ymgeiswyr lleol. Rydym yn gobeithio cadw golwg ar weithgarwch ac mae'n ddefnyddiol iawn gwybod sut mae pobl yn ymateb.
Ystyriwch wneud cyfraniad
Mae gwaith ymgyrchu ac eiriolaeth CILIP yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl o danysgrifiadau aelodaeth. Rydym yn croesawu unrhyw roddion sy’n ein helpu i ehangu cyrhaeddiad ac effaith ein
gwaith.
Tweet
Mae #Llyfrgelloedd wedi cael effaith cadarnhaol enfawr ar gymunedau, cymdeithas a’r economi lleol. Rwy’n galw ar ymgeiswyr #EtholiadauLleol2022 i ddangos eu cefnogaeth i #PleidleisiwchLlyfrgelloedd https://www.cilip.org.uk/page/PleidleisiwchLlyfrgelloedd
Tweet
Ar y 5ed o Fai eleni, gadewch i ni ddathlu pŵer llyfrgelloedd lleol. Rhannwch ac aildrydarwch i ddangos eich cefnogaeth I ymgyrch @CILIPinfo #PleidleisiwchLlyfrgelloedd https://www.cilip.org.uk/page/PleidleisiwchLlyfrgelloedd #EtholiadauLleol2022
Find your local candidates
Ar gyfer ymgeiswyr
Rydym yn gwybod, fel rhywun sy’n sefyll etholiad ym mis Mai eleni, eich bod yn poeni’n fawr am y lle yr ydych yn byw ynddo a’r etholaeth yr ydych yn gobeithio ei chynrychioli.
Mae llyfrgelloedd yn nodwedd boblogaidd o’r cymunedau hynny ac rydym yn falch o gael effaith yn erbyn ystod eang o flaenoriaethau lleol gan gynnwys:
Cefnogi dysgu ffurfiol, anffurfiol a gydol oes
Gwella darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol lleol
Helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cydlynol
Rhoi mynediad i bobl at sgiliau bywyd, gan gynnwys sgiliau digidol a llythrennedd
Gallwch ddarganfod mwy am y gwaith arloesol sy'n digwydd ar draws llyfrgelloedd yn ein herthygl ar gyfer The Bookseller ar y ‘Library Dividend'
Dangoswch eich cefnogaeth i ymgyrch #PleidleisiwchLlyfrgelloedd
Rydym am i ymgeiswyr llywodraeth leol ddangos eich cefnogaeth i'ch llyfrgelloedd cyhoeddus drwy addo eich cefnogaeth iddynt #PleidleisiwchLlyfrgelloedd.