|
Please scroll down for English
Paned a Llyfr
Awydd ehangu eich gorwelion darllen? Ymunwch ag YLG Cymru ar gyfer Paned a Llyfr, sgwrs anffurfiol am lyfrau ar y trydydd dydd Iau o bob mis.
Ymunwch â ni ar ddydd Iau 28 Hydref ar gyfer rhifyn Calan Gaeaf o Paned a Llyfr. Byddwn yn rhannu rhai straeon gwirioneddol arswydus o fyd ffuglen plant, a byddem wrth ein boddau i glywed eich barn chi hefyd! Mae croeso i bawb ymuno yn y drafodaeth ond mae croeso i chi hefyd eistedd a gwrando yn unig, os yw'n well gennych. Ac os oes rhai ohonoch yn chwilio am esgus i wisgo i fyny, mae croeso i chi ymuno â ni mewn gwisg yn ‘ysbryd’ y tymor! Ond does dim gorfodaeth i wneud hynny! Mae gennym gopi o nofel cyfnod canol wych Padraig Kenny, The Monsters of Rookhaven, i'w hennill ar y noson ac wrth gwrs, bydd digon o baneidiau a sgwrsio am lyfrau.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb!
Mae hwn yn gyfle yn bennaf i ddarllenwyr a llyfrgellwyr Cymru ddod at ei gilydd a rhannu meddyliau am y llyfrau y maen nhw'n eu darllen, er ein bod ni'n hapus i groesawu unrhyw un sy’n caru llyfrau o ymhellach i ffwrdd. Bydd trafodaeth yn cael ei harwain
gan aelod o Bwyllgor YLG Cymru, a gofynnwn i'r cyfranogwyr ymddwyn yn gwrtais a pharchus tuag at ei gilydd, y llyfrau, a'u crewyr. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at eich atal o'r cyfarfod ar unwaith.
Book and a Brew
Fancy broadening your reading horizons? Join YLG Wales for Book and a Brew, an informal book chat on the third Thursday of every month.
Join us on Thursday 28th October for the Hallowe’en edition of Book and a Brew. We’ll be sharing some genuinely spooky tales from the world of children’s fiction, and we’d love to hear your thoughts! Attendees are welcome to join the discussion but you’re equally welcome to simply sit and listen, if you prefer. Those of you who love an excuse to dress up, please feel free to join us in costume but there is no obligation to do so! We have a copy of Padraig Kenny’s fantastic middle grade novel The Monsters of Rookhaven up for grabs on the night and of course, there’ll be plenty of tea and book talk.
This event is free and open to all!
This is primarily an opportunity for Welsh readers and librarians to come together and share thoughts about the books they’re reading, although we are happy to welcome booklovers from further afield. Discussion will be led by a member of the YLG Wales
Committee, and we ask participants to remain polite and respectful of each other, the books, and their creators. Failure to do so will result in your immediate removal from the meeting.
|