|
This session will be delivered in Welsh
Sesiwn wybodaeth Dangos ar-lein ar gyfer gweithwyr rheng flaen
Ydych chi’n weithiwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr yng Nghymru? Ydych chi'n cwrdd â phobl, o ddydd i ddydd a allai elwa ar gael eu cyfeirio at gyngor a chymorth lleol ynghylch budd-daliadau a materion ariannol?
Hoffech chi deimlo’n fwy hyderus wrth ddechrau sgyrsiau ac wrth ddeall yn well y mathau o broblemau a all fod gan bobl? Os felly, dyma’r sesiwn i chi.
Dyma sesiwn ar-lein am ddim a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth i chi ddangos i bobl o ble y gallant gael y cymorth y gall fod ei angen arnyn nhw ac y mae ganddyn nhw hawl i’w gael. Mae’n cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y system fudd-daliadau
a chymorth arall sydd ar gael. Bydd yn dangos i chi sut y gallwch helpu pobl i oresgyn y rhwystrau a all eu hatal rhag manteisio ar eu hawliau. Bydd yn rhoi cysylltiadau ag asiantaethau eraill a all helpu pobl i hawlio a chael y cymorth sydd ei angen
arnyn nhw.
Os oes galw digonol, yna gellid ychwanegu sesiynau ychwanegol yn gynharach.
Mae Dangos yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru.
Mae’n darparu sesiynau gwybodaeth ar-lein am ddim i weithwyr rheng flaen ac mae’n rhoi pecyn gwybodaeth iddyn nhw, yn ogystal â mynediad at gyrsiau e-ddysgu am fudd-daliadau lles.
Please click the below 'Cofrestru" button and then click "Select A Date" and opt for the event on:
Dydd Mercher 22 Medi 14.00 to 17.00
and follow the booking instructions.
Cofrestru
|