|
Please scroll down for English
John Naughton & Phil Bradley @ CCB CILIP Cymru Wales
18 Mai 2023 10:00-11: 30
Ymunwch â CILIP Cymru Wales ar 18 Mai i gyfarfod â'r pwyllgor a darganfod sut rydym wedi bod yn cefnogi'r proffesiwn yng Nghymru.
Mae’n bleser gennym drefnu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhwng sesiynau gan ddau o brif awduron technoleg y DU, yr Athro John Naughton a Phil Bradley a fydd yn siarad â ni am yr hyn y gallai Deallusrwydd Artiffisial (AI) ei olygu mewn gwirionedd
(neu beidio!) a sut y gall y sectorau llyfrgell a gwybodaeth ymagweddu tuag ato.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae’n agored i bawb. Bydd papurau ar gyfer y cyfarfod ar gael ar dudalen Dogfennau Pwyllgor y wefan ac rydym yn croesawu
cynigion i'w hystyried. Anfonwch gynigion at secretary.wales@cilip.org.uk erbyn dydd Gwener 28 Ebrill.
Ac ...rydym angen eich help. Mae angen i'n pwyllgor adlewyrchu'r proffesiwn gwybodaeth ledled Cymru. A allech chi ein helpu i gynllunio digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn neu wella ein cyfathrebu? Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa o'r rhwydweithio
sy'n gysylltiedig â bod ar bwyllgor cenedlaethol? Rydyn ni'n cyfarfod - ar-lein yn bennaf - 6 gwaith y flwyddyn. Anfonwch unrhyw gwestiynau a ffurflenni cais at ein hysgrifennydd Beth yn secretary.wales@cilip.org.uk
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch yn gynnar.
Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg.
Rhaglen
Dydd Iau 18fed o Mai 2023
|
|
10:00-10:30 (YB) -
Yr Athro John Naughton, Deallusrwydd Artiffisial? Wel, *mi* fyddai hynny’n syniad da
|
|
|
10:30-11:00 (YB) - CCB CILIP Cymru Wales
- 10:30 Croeso
- 10:35 Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2022 a materion yn Codi
- 10:40 Materion Ariannol a Cronfa Kathleen Cooks
- 10:45 Enwebiadau Pwyllgor
- 10:50 Ystyried unrhyw gynnig a dderbyniwyd
|
|
|
11:00-11:30 (YB)
Phil Bradley, Gwneud i Ddeallusrwydd Artiffisial weithio i chi Weithiau mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ystyried yn fygythiad i bobl ac i'w swyddi. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am weithwyr proffesiynol gwybodaeth.
Gall offer Deallusrwydd Artiffisial ein cynorthwyo yn ein gwaith o ddydd i ddydd trwy ganiatáu i ni fod yn fwy creadigol, cael gwared ar rywfaint o'r 'gwaith caled' a rhyddhau ein hamser i gynorthwyo ein defnyddwyr yn well. Bydd
y sesiwn hon yn edrych ar rai o'r ffyrdd a'r offer y gallwn eu defnyddio – ar hyn o bryd - yn ein gwaith bob dydd.
|
Speakers
Yr Athro John Naughton
Mae John Naughton yn Athro Emeritws Dealltwriaeth y Cyhoedd o Dechnoleg yn y Brifysgol Agored, yn gyd-sylfaenydd Canolfan Minderoo ar gyfer Technoleg a Democratiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, Cyfarwyddwr Rhaglen Cymrodoriaeth Gwasg Wolfson
a cholofnydd Technoleg yr Observer.
Phil Bradley
Mae Phil wedi bod yn ymgynghorydd rhyngrwyd ers bron i 30 mlynedd. Mae'n adnabyddus am ei lyfrau ar agweddau ar y rhyngrwyd, yn enwedig chwilio, yn ogystal â’i gyrsiau a'i sgyrsiau. Mae Phil wedi bod yn Llywydd CILIP ddwywaith. Ymddeolodd yn 2021,
ond yna carlamodd technoleg Deallusrwydd Artiffisial yn ei flaen ac roedd gan Phil gymaint o ddiddordeb a chwilfrydedd yn y maes nes iddo ailddechrau gweithio. Mae bellach yn treulio ei amser yn chwarae gydag offer newydd ac addysgu gweithwyr
proffesiynol gwybodaeth am ymarferoldeb Deallusrwydd Artiffisial a sut y gallwn ei ddefnyddio er budd i ni.
John Naughton & Phil Bradley @ CILIP Cymru Wales AGM
18 Mai 2023 10:00-11:30
Join CILIP Cymru Wales on 18 May to meet the committee and find out how we’ve been supporting the profession in Wales.
We are delighted to sandwich our AGM between sessions from two of the leading UK technology writers, Professor John Naughton and Phil Bradley who will talk to us about what Artificial Intelligence (AI) might really mean (or not mean!) and how the library
and information sectors can approach it.
This is a free event and open to all. Papers for the meeting will be available on our Committee Documents webpage and we welcome motions for consideration. Please
send motions to secretary.wales@cilip.org.uk by Friday 28th April.
And...we need your help. We need our committee to reflect the information profession across Wales. Could you help us plan events for the year or improve our communications? Do you know someone who would benefit from the networking involved in being on
a national committee? We meet - mainly online - 6 times a year. Please send our secretary Beth any questions and application forms at secretary.wales@cilip.org.uk
Spaces are limited so please book early.
This event will be in English.
Programme
Thursday 18th May 2023
|
|
10:00-10:30 (AM) -
Professor John Naughton, Artificial Intelligence? Now that *would* be a good idea
|
|
|
10:30-11:00 (AM) - CILIP Cymru Wales AGM
- 10:30 Welcome
- 10:35 Minutes of the AGM 2022 and matters arising
- 10:40 Finances and the Kathleen Cooks Fund
- 10:45 Committee Nominations
- 10:50 To consider any motions received
|
|
|
11:00-11:30 (AM)
Phil Bradley, Making AI work for you AI is sometimes perceived as a threat to people and to their jobs. However, this isn't the case for information professionals. AI tools can aid and assist us in our day to day work
by allowing us to be more creative, remove some of the 'drudge work' and free up our time to better aid our users. This session will look at some of the ways and the tools that we can use - now - in our daily work.
|
Speakers
Professor John Naughton
John Naughton is Emeritus Professor of the Public Understanding of Technology at the Open University, a co-founder of the Minderoo Centre for Technology and Democracy at Cambridge University, Director of the Wolfson Press Fellowship Programme
and the Technology columnist of the Observer.
Phil Bradley
Phil has been an internet consultant for almost 30 years. He is well known for his books on aspects of the internet, particularly search, his courses and his talks. Phil has been twice President of CILIP. He went into retirement in 2021, but then
AI technology came along and he was so interested and intrigued by it he started work again. He now spends his time playing with new tools and teaching information professionals about the practicalities of AI and how we can use them to our
best advantage.
|