|

Mae Casgliad y Werin Cymru wedi datblygu Pecyn Cymorth Dad-drefedigaethu er mwyn hybu dulliau mwy cynhwysol a myfyriol o gasglu a rhannu hanes. Ei nod yw meithrin hyder i rannu deunyddiau sy’n ymwneud â hanesion cymhleth neu hanesion nad ydynt yn cael
eu cynrychioli’n ddigonol.
Mae’r pecyn cymorth yn mynd y tu hwnt i hil. Mae hefyd yn mynd i’r afael â rhagfarn sy’n gysylltiedig â rhywedd, anabledd, rhywioldeb, dosbarth, crefydd, a mwy. Mae’n annog cyfranwyr i feddwl yn feirniadol am sut y caiff hanesion eu cyflwyno, ac yn eu
helpu i adnabod rhagfarn, ychwanegu cyd-destun, a chynnwys lleisiau sydd ar goll. Nid yw’n ceisio sensora nac ailysgrifennu’r gorffennol; yn hytrach, mae’n ceisio hybu dull o adrodd stori mewn modd tryloyw ac ystyriol.
Mae CILIP Cymru
a Casgliad y Werin Cymru eich gwahodd i ymuno â ni am weminar am ddim.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
Pam y cafodd y pecyn cymorth ei ddatblygu
Beth sydd ynddo a sut y mae wedi’i drefnu
Sut y gellir ei ddefnyddio, gan gynnwys enghreifftiau
Cyfle i ofyn cwestiynau
Bydd y gweminar hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Cyflwynwyr
Berian Elias Mae Berian Elias yn gweithio i raglen Casgliad y Werin Cymru, ac wedi’i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae ei rôl fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i unigolion,
grwpiau a sefydliadau i ddogfennu, digideiddio a rhannu deunyddiau sy’n adlewyrchu hanes a threftadaeth Cymru.
Jessica Roberts Mae Jessica Roberts yn gweithio i raglen Casgliad y Werin Cymru, ac wedi’i leoli yn Amgueddfa Cymru. Mae’n gyfrifol am hyrwyddo’r rhaglen a’i gwasanaethau, rheoli ymgyrchoedd, a chefnogi partneriaid i rannu straeon
sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth hanes a threftadaeth Cymru.

People's Collection Wales have developed a Decolonisation Toolkit to support inclusive and reflective approaches to collecting and sharing history. It aims to build confidence in sharing materials that engage with complex or underrepresented histories.
The toolkit goes beyond race. It also addresses bias related to gender, disability, sexuality, class, religion, and more. It encourages contributors to think critically about how histories are presented, helping them identify bias, add context, and
include missing voices. It doesn't aim to censor or rewrite the past, but to support transparent and thoughtful storytelling.
CILIP Wales and People's Collection Wales
invite you to
join us for a free webinar.
The session will
include:
Why the toolkit was developed
Toolkit content and structure
How it can be used, including examples
An opportunity to ask questions
This webinar will be presented in English.
Presenters
Berian Elias Berian Elias works for the People’s Collection Wales programme, and is based at the National Library of Wales. His role as a Community Engagement Officer is focused on providing training and support
for individuals, groups and organisations to document, digitise and share materials that reflect Welsh history and heritage.
Jessica Roberts Jessica Roberts is the Marketing Officer for the People’s Collection Wales programme, based at Amgueddfa Cymru. She is responsible for promoting the programme and its services, managing campaigns, and supporting partners
to share stories that reflect the richness and diversity of Welsh history and heritage.
|