|
|
25/03/2021
|
|
When:
|
25th March 2021 12:00-13:00pm
|
|
Where:
|
United Kingdom
|
|
Presenter:
|
People's Collection Wales
|
|
Contact:
|
Amy Staniforth
amy.staniforth@cilip.org.uk
|
Online registration is closed.
|
|
« Go to Upcoming Event List
|
|
|

Creu, rhannu a mesur effaith cynnwys digidol Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Mae darparu diwylliant a threftadaeth i gynulleidfa ar-lein yn dod yn fwy a mwy pwysig yn 2021.
Mae CILIP Cymru Wales (CCW), Grŵp Metadata a Darganfod CILIP (MDG), Grŵp Astudiaethau Lleol CILIP a Chasgliad y Werin Cymru (CyWC) yn gwahodd llyfrgellwyr ledled Cymru i sesiwn ar-lein, a ddarperir gan CyWC, ar sut i rannu eu cynnwys digidol ar-lein, ei ail-bwrpasu trwy fentrau Hwb a'r Archif Cof, a mesur effaith ddigidol eu heitemau a chasgliadau - i gyd trwy safle CyWC.
Dilynir y sesiwn hon gyda hyfforddiant rhithwir a chefnogaeth bwrpasol i helpu llyfrgelloedd yng Nghymru i roi eu heitemau a'u casgliadau ar-lein.
Amlinelliad o'r Sesiwn:
Mae'r sesiwn yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb.
Bydd y sesiwn hon yn darparu trosolwg ddefnyddiol i'r holl weithwyr llyfrgell a gwybodaeth broffesiynol yng Nghymru gan obeithio gwella ymgysylltiad defnyddwyr â chasgliadau digidol. Bydd y sesiwn yn arbennig o ddefnyddiol i staff llyfrgelloedd ac archifau cyhoeddus sydd â chasgliadau o ddiddordeb lleol.
|
|
|