About Us | Contact Us | Print Page | Sign In | Join now
CILIP Cymru Wales Cynhadledd 2022 Conference
Tell a Friend About This EventTell a Friend
CILIP Cymru Wales Cynhadledd 2022 Conference

19/05/2022 to 20/05/2022
When: 19/05/2022
Where: Ar-lein / Online
---
United Kingdom
Contact: Amy Staniforth
amy.staniforth@cilip.org.uk


Online registration is closed.
« Go to Upcoming Event List  

Cynhadledd CILIP Cymru Wales Conference 2022



Hafan Rhaglen Siaradwyr Prisio Arddangoswyr Cofrestrwch English

Cynhadledd CILIP Cymru

‘Dyfodol Posibl: Cynaliadwy, Cydweithredol, Blaengar’

Dewch i gael eich ysbrydoli gan ddilyniant cymunedol: gwella eich profiad llyfrgell ar ôl y pandemig yng Nghynhadledd CILIP Cymru / CILIP Wales Conference 2022. Ymunwch â ni yn ein cynhadledd rhithwir* wrth i ni archwilio enghreifftiau o fywyd go iawn y gymuned llyfrgell, gyda ffocws ar sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Grymuswch eich tîm a’ch gwasanaethau, dysgwch gan eraill sut i wella ymgysylltiad, cofleidiwch fentrau hinsawdd a chynaliadwyedd, ac uwchsgilio eich tîm. I helpu i wella hygyrchedd, rydym yn cynnal hon fel cynhadledd ar-lein gyda digwyddiad rhwydweithio/cymdeithasol i unrhyw un sydd am ddal i fyny yn bersonol ym Mangor ar 19eg Mai 2022.

Diolch i Lywodraeth Cymru, mae'n bleser gan CILIP Cymru Wales gynnig bwrsariaethau i llyfrgellwyr cyhoeddus i ymuno â ni yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales 2021. Ffurflen gais Bwrsariaeth

Yn ogystal, mae'n bleser gan CILIP Cymru Wales gynnig bwrsariaethau i aelodau CILIP sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghymru i ymuno â ni yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales 2021. Rydym yn croesawu ceisiadau bwrsariaeth arbennig gan arbenigwyr llyfrgell a gwybodaeth yng Nghymru o gefndiroedd pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, y rhai sy'n uniaethu fel LGBTQ+, pobl sydd â phrofiad o anabledd a'r rhai sy'n niwro-amrywiol. Ffurflen gais Bwrsariaeth

Byddwch yn rhan o'r sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen i chi ymuno â ni.

Twitter @CILIPinWales #CILIPW22.

Lou Peck

* Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Yn wreiddiol, roeddem yn cynnal y gynhadledd hon fel un hybrid - ond ers hynny rydym wedi penderfynu cynnal hon fel rhith-gynhadledd a gefnogir gan rwydweithio corfforol/cymdeithasol ym Mangor. Pam ydym ni wedi gwneud hyn? Mae amser wedi bod yn prysuro ac roeddem am sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'ch profiad o'r gynhadledd ond yn dal i gynnig lleoliad personol mewn awyrgylch mwy hamddenol.

Mae'r rhwydweithio/cymdeithasol yn cael ei noddi gan The International Bunch ac ni fydd unrhyw gost i'r rhai sydd am fynychu. Bydd sawl un o’r pwyllgor yn bresennol a byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint ohonoch â phosib yn ymuno â ni – dewiswch yr adran ‘Ar-lein gyda chymdeithas bersonol ym Mangor’ er mwyn i ni allu cadarnhau’r niferoedd, ac anfonir rhagor o wybodaeth atoch.

Cysylltwch yn uniongyrchol ag unrhyw ymholiadau a byddaf yn hapus i helpu - chair.wales@cilip.org.uk

Pob lwc, Lou

Lou Peck, Cadeirydd CILIP Cymru Wales



Siaradwyr
Kate Robinson

Mae Kate wedi gweithio mewn llyfrgelloedd ers yr 1980au, gan gyfrannu’n wreiddiol at ystod o sectorau gan gynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus, llyfrgelloedd aelodau preifat a’r diwydiant hysbysebu. Hi yw Llyfrgellydd y Brifysgol ar gyfer Prifysgol Caerfaddon a Llywydd presennol CILIP. Yn gyn-gadeirydd Bwrdd Cofrestru ac Achredu Proffesiynol CILIP, mae hi bellach yn cadeirio Pwyllgor Datblygu Sector CILIP ac yn Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Ryngwladol Llyfrgelloedd Prifysgolion, yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn Gymrawd CILIP.

Durre Shahwar

Awdur ac ymchwilydd yw Durre Shahwar. Mae hi’n artist Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, sy’n gydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae ei gwaith yn gorgyffwrdd â’r ffiniau rhwng gwahanol ffurfiau ac awto-ffug ac mae wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion a blodeugerddi amrywiol. Hi yw cyd-olygydd Just So You Know (Parthian Books) a chyd-sylfaenydd y grŵp meic agored ‘Where I’m Coming From’.

Dr Owain Roberts

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gydag MPhys mewn Ffiseg a PhD mewn Ffiseg Arbrofol, symudodd Owain Rhys Roberts i weithio ar brosiect digido mawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dros y 12 mlynedd diwethaf mae wedi dal nifer o rolau yn y Llyfrgell gan gynnwys Rheolwr Trawsnewid Busnes (Newid) a Chydymaith Ymchwil mewn Casgliadau Digidol gan gyfrannu at lawer o brosiectau ymchwil digidol rhyngwladol yn ymwneud â chasgliadau digidol. Cyn cael ei benodi i'w rôl bresennol roedd yn Bennaeth Mynediad a Rhaglenni Cyhoeddus gyda chyfrifoldeb am wasanaethau i'r cyhoedd, ymgysylltu a digido. Mae’n aelod o bwyllgor CILIP Cymru ac yn aelod o fwrdd Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF). Mae hefyd yn aelod o Rwydwaith Cyfarwyddwyr Cyswllt Llyfrgelloedd Ymchwil y DU.

Martina McChrystal

Martina McChrystal yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llyfrgell ym Mhrifysgol Glasgow. Mae ei gyrfa mewn llyfrgelloedd a chynllunio cymunedol yn ymestyn dros 35 mlynedd yn y sectorau cyhoeddus ac academaidd. Arweiniodd Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Dinas Caeredin o 2013-15, a chyn hynny bu’n ymwneud â sefydlu model llywodraethu lleol newydd y Ddinas yng Ngogledd Caeredin. Penodwyd Martina gan Ddirprwy Brif Weinidog yr Alban i gadeirio Grŵp Cynghori Strategaeth Llyfrgelloedd Ysgol Genedlaethol Llywodraeth yr Alban, a arweiniodd at gyhoeddi strategaeth yr Alban ar gyfer Llyfrgelloedd Ysgol – ‘Llyfrgelloedd Bywiog – Ysgolion Llewyrchus’ yn 2018.

Gwasanaethodd Martina fel Llywydd CILIP yn yr Alban yn 2020 a gweithiodd yn agos gyda bwrdd a thîm Ymddiriedolwyr CILIPS i gefnogi cymuned llyfrgelloedd yr Alban trwy gydol y flwyddyn gyntaf o’r pandemig byd-eang.

Mystery Beck

Mae Mystery Beck yn hyfforddwr ac yn arweinydd gweithdy ac yn Llyfrgellydd Cyfadran ym Mhrifysgol Portsmouth.





Rhaglen

Dydd Iau, 19fed o Fai 2022

11:30-11:40 (YB) - Croeso a threfniadau’r Gynhadledd:

Lou Peck: Cadeirydd, CILIP Cymru Wales

11:40-12:00 (YB) - Anerchiad agoriadol:

Kate Robinson: Llywydd, CILIP

Llyfrgelloedd amgylcheddol gynaliadwy – mentrau cynaliadwyedd CILIP
Eisiau gwella arferion amgylcheddol cynaliadwy eich llyfrgell? Yn yr anerchiad agoriadol hwn, bydd Llywydd CILIP Kate Robinson yn archwilio’r rhan ganolog y mae llyfrgellwyr a gweithwyr proffesiynol gwybodaeth yn ei chwarae wrth helpu eu sefydliadau a’u defnyddwyr i weithio tuag at gymdeithas fwy cynaliadwy. Bydd Kate yn rhannu uchafbwyntiau mentrau cynaliadwyedd CILIP gan gynnwys y Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd newydd.

12:00-12:45 (YP) - Araith Allweddol 1:

Sut ydych chi'n cysylltu â chynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol? Bydd Durre yn dweud wrthym sut i gysylltu ac ymgysylltu trwy ysgrifennu natur a dulliau gwerthfawr eraill.

Durre Shahwar: Awdur ac Ymchwilydd

Cynnal cysylltiadau
Yn y cyweirnod hwn mae Durre yn sôn am ei gwaith yn ymgysylltu â chymunedau a dangynrychiolir yn hanesyddol, ei hymchwil ar fenywod o liw a natur, a’i phrosiect Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol – cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd darlleniad o’i gwaith hefyd – ac yna sesiwn holi-ac-ateb.

12:45-13:45 (YP) - AMSER CINIO

13:45-14:30 (YP) - Sesiwn A Cynaliadwyedd ar Waith:

Sut allwch chi ddod o hyd i enghreifftiau go iawn o lyfrgelloedd sydd wedi rhoi dulliau gweithredu cynaliadwy ar waith? Yn y sesiwn hon, cawn wybod am ddau sefydliad sydd wedi gosod egwyddorion cynaliadwyedd ar flaen ac ynghanol eu gweithrediadau.

Kathleen Milne: Llyfrgelloedd Ynysoedd y Gorllewin, Comhairle nan Eilean Siar

Bannau Hinsawdd yn yr Alban
Yn yr Alban mae dros 30 o sefydliadau amgylcheddol, treftadaeth a diwylliannol wedi cydweithio i greu canolfannau Bannau Hinsawdd. Yn y sesiwn hon bydd Llyfrgelloedd Ynysoedd y Gorllewin yn rhannu eu stori wrth ymgysylltu â chymunedau i ystyried effaith heriau hinsawdd.

Kester Savage and Joanne Hindes: Cyfoeth Naturiol Cymru

Ein lle mewn sefydliad sy’n gofalu am adnoddau naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgorffori egwyddorion cynaliadwy yn ei holl waith. Yn y sesiwn hon byddwn yn dysgu sut y mae gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yn cyd-fynd â nodau cynaliadwyedd ehangach y sefydliad a'r heriau a wynebir wrth roi cynaliadwyedd ar flaen ac ynghanol eu gwaith.

Cadeirydd: Helen Blockwell, Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell, Llywodraeth Cymru

14:30-14:45 (YP) - EGWYL

14:45-15:30 (YP) - Sesiwn B Arfer cynaliadwy mewn llyfrgelloedd:

Sut mae llyfrgelloedd yn gweithio tuag at arferion cynaliadwy? Yn y sesiwn hon rydym yn dysgu am strategaethau, prosiectau a phartneriaeth.

Blerina Hashani, Rheolwr Polisi Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd, Y Llyfrgell Brydeinig.

Tuag at Lyfrgell werdd: ymateb y Llyfrgell Brydeinig i newid hinsawdd
Mae'r Llyfrgell Brydeinig wedi bod yn gweithio tuag at ddyfodol hinsawdd mwy disglair ers dros ddegawd. Yn y sesiwn hon cawn hanes taith y Llyfrgell tuag at ddatgarboneiddio a’u rôl fel partner sefydlu’r Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd.

Marjan Baas-Harmsma: Prifysgol Bangor, gyflenwi gan Christine Brennan: President, Caia Software & Solutions

Cael effaith – datrysiadau storio oddi ar y safle ym Mhrifysgol Bangor (prosiect CAIA)
Cael effaith trwy wneud y mwyaf o’r gofod sydd ar gael: Sut i gadw golwg ar ddeunydd print mewn cyfleuster storio oddi ar y safle. Mae'r tri llyfrgell campws ym Mhrifysgol Bangor yn uno i greu un llyfrgell. Mae llawer o'r stoc print yn cael ei symud i uned storio oddi ar y safle er mwyn delio â phroblemau gofod, cadw eitemau unigryw a diogelu casgliadau o ddiddordeb arbennig. Yn hytrach na defnyddio system ddosbarthu gonfensiynol, mae Prifysgol Bangor yn defnyddio meddalwedd a datrysiadau Caia, datrysiad storio modern sy'n rhoi addewid 100% y gellir dod o hyd i ddeunydd a gwneud y mwyaf o'r gofod sydd ar gael.

OCLC: pam bod cynaliadwyedd a chydweithio yn bwysig i ni

Cadeirydd: Alan Vaughan Hughes, Is-Gadeirydd CILIP Cymru Wales

15:30-16:00 (YP) - AMSER TE

16:00-17:00 (YP) - Gweithdy 1

Yn ddiweddar mae llesiant a thraweffaith wedi dod yn dermau cyfarwydd iawn. Ers 2015 mae Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn rhoi dyletswydd ar nifer o gyrff cyhoeddus i ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy. Y bwriad yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno sut mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi mynd at i weithredu yn y modd hwn ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr i adlewyrchu ar y modd y mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol i’w cyd-destun hwythau.

Owain Rhys Roberts: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

17:00 (YP) - Cloriannu a Chloi

Lou Peck (Cadeirydd, CILIP Cymru Wales)



Dydd Gwener, 20fed o Fai 2022

09:15-09:30 (YB) - Croeso a threfniadau’r Gynhadledd:

Alan Vaughan Hughes: Is-gadeirydd, CILIP Cymru Wales

09:30-10:15 (YB) - Araith Allweddol 2:

Sut gallwch chi arloesi a chydweithio i ymestyn cyrhaeddiad ein casgliadau a’n gwasanaethau?

Martina McChrystal, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llyfrgell ym Mhrifysgol Glasgow

Agor y Drysau: Yr Alban yn symud Ymlaen mewn cydweithrediad
Mae Prifysgol Glasgow, un o'r llyfrgelloedd prifysgol hynaf a mwyaf yn Ewrop, yn dal ystod eang o gasgliadau unigryw ac o bwysigrwydd rhyngwladol. Bydd Martina yn disgrifio tirlun ariannu’r Alban sy’n galluogi cydweithio rhwng llyfrgelloedd ar draws sectorau, y datblygiadau arloesol o ran gwasanaethau hybrid y mae ei chydweithwyr yn Glasgow wedi’u rhoi ar waith ac yn archwilio rhai prosiectau cydweithredol diweddar ar draws yr Alban y maent wedi cymryd rhan ynddynt.

10:15-11:15 (YB) - Sesiwn C Sgiliau Cynaliadwy:

Sut ydych chi'n sicrhau bod eich set sgiliau yn parhau i fod yn berthnasol, yn effeithiol ac yn drosglwyddadwy? Yn y sesiwn hon byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei wneud er mwyn helpu i wella eich set sgiliau trwy hyfforddiant arbenigol, partneriaeth a chydweithio.

Katrina Hall and Nia Morris, ar ran Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru

Sgiliau chwilio lefel uchel
Mae chwilio lefel uchel am adnoddau meddygol ac iechyd yn sgil allweddol i Lyfrgellwyr GIG Cymru. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella sgiliau a gwasanaethau chwilio am lenyddiaeth i sicrhau safoni ac ansawdd ar draws y sefydliad, a chanlyniad hynny drwy sefydlu tîm bach o chwilwyr arbenigol i gefnogi gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Alison Harding, Prifysgol Cymru Dewi Sant

Dathlu ein daucanmlwyddiant gyda phrosiectau cynaliadwy a chydweithredol
Sefydlwyd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1822. Fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant cychwynnodd Archifau’r Sefydliad ar nifer o brosiectau cynaliadwy a chydweithredol i amlygu’r casgliadau, yn ogystal ag archwilio ymhellach yr unigolion a’r grwpiau hynny a chwaraeodd ran allweddol yn stori’r Sefydliad. Bydd y cyflwyniad yn archwilio'r prosiectau hyn a'r partneriaethau a ddatblygwyd drwy'r gwaith hwn.

Ian Rennie and Ceri Powell, Grŵp Llandrillo Menai

Ailddyfeisio gwasanaethau ar-lein i bontio'r bwlch digidol
Yn ystod y cyfnod cloi, sefydlodd Gwasanaeth Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu Grŵp Llandrillo Menai dîm technoleg llyfrgell i gefnogi dysgwyr a staff. Creodd y tîm safle sgiliau astudio dwyieithog, canllawiau pwnc ar-lein a chydlynu prosiect i gyflenwi dros fil o ddyfeisiau i fyfyrwyr i hwyluso dysgu gartref. Enillodd y fenter arian yng Ngwobrau Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru yn 2021.

Kristine Chapman, Amgueddfa Cymru

Lansio Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Gymraeg, 2022

Cadeirydd: Cheryl Hesketh, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

11:15-11:45 (AM) - AMSER TE

11:45-12:45 (YB-YP) - Gweithdy 2: y grefft o gydweithio

Mae llawer o’r straeon a’r astudiaethau achos a rannwyd yn y gynhadledd hon yn amlygu pa mor bwysig yw’r grefft o gydweithio i yrru prosiectau a mentrau llwyddiannus. Yn y gweithdy hwn, bydd Mystery Beck yn archwilio’r grefft o gydweithio, gan fynd i’r afael â’r cwestiynau allweddol y mae angen inni eu hystyried er mwyn cydweithio'n effeithiol.

Pam ddylem ni gydweithio?
Pa gwestiynau y dylem eu gofyn wrth i ni geisio cydweithio? Pwy ddylai gael eu cynnwys a sut ydyn ni'n mynd atyn nhw?
Pa declynnau allwn ni eu defnyddio i gefnogi cydweithredu?
Sut rydym yn rheoli, cynnal ac adolygu ein hymdrechion cydweithredol?

Mae Mystery Beck yn hyfforddwr, arweinydd gweithdai a Llyfrgellydd Cyfadran ym Mhrifysgol Portsmouth.

12:45-13:00 (YP) - Cloi a diwedd y gynhadledd

Alan Vaughan Hughes (Is-gadeirydd, CILIP Cymru Wales)

Prisio


Digwyddiad rhwydweithio/cymdeithasol i unrhyw un sydd am ddal i fyny yn bersonol ym Mangor ar 19fed Mai 2022

DIM

Cofrestrwch

Ar-Lein Myfyriwr/digyflog

Members login in for student discount. Non members and unwaged can contact us for discount code.

Cofrestrwch

Ar-lein - Aelod CILIP - Cynrychiolydd Llawn

Yn cynnwys presenoldeb llawn yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 19fed a dydd Gwener, Mai 20fed.

£60 + TAW

Cofrestrwch

Ar-lein - Aelod CILIP – Mai 19fed neu Mai 20fed

Presenoldeb yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 19fed neu ddydd Gwener, Mai 20fed.

£36 + TAW

Cofrestrwch

Ar-lein - Heb fod yn aelod o CILIP - Cynrychiolydd Llawn

Yn cynnwys presenoldeb llawn yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 19fed a dydd Gwener, Mai 20fed.

£74 + TAW

Cofrestrwch

Ar-lein - Heb fod yn aelod o CILIP – dydd Iau Mai 19fed neu dydd Gwener Mai 20fed

Presenoldeb yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 19fed neu ddydd Gwener, Mai 20fed.

£44 + TAW

Cofrestrwch





Home Programme Speakers Pricing Exhibitors Register

CILIP Wales Conference

‘Possible Futures: Sustainable, Collaborative, Progressive’

Be inspired by community progression: enhance your library experience post pandemic at the CILIP Cymru Cynhadledd / CILIP Wales Conference 2022. Join us at our online* conference as we explore real-life examples from the library community, with a focus on ensuring that we are fit for the future.

Empower your team and services, learn from others how to improve engagement, embrace climate and sustainability initiatives, and upskill your team. Helping improve accessibility, we are running this as an online conference with a networking/social event for anyone wanting to catch up in person in Bangor on 19th May 2022.

Thanks to the Welsh Government, CILIP Cymru Wales is delighted to offer bursaries to public librarians to join us at CILIP Cymru Wales Conference 2022. Bursary application form.

In addition, CILIP Cymru Wales is delighted to offer bursaries to CILIP members living, working or studying in Wales to join us at CILIP Cymru Wales Conference 2022. We particularly welcome bursary applications from the library, information and knowledge specialists in Wales from black and minority ethnic backgrounds, those who identify as LGBTQ+, people with experience of disability and those who are neurodiverse. Bursary application form.

We look forward to seeing you.

Follow us on Twitter @CILIPinWales or using the #CILIPW22.

Lou Peck

* UPDATE: Originally, we were running this conference as hybrid - however we have since taken the decision to run this as a virtual conference supported by a physical networking/social in Bangor. Why have we done this? Time has been ticking away and we wanted to ensure that we optimised your experience of the conference but still offered an in person setting in a more relaxed atmosphere.

The networking/social is being sponsored by The International Bunch and will be of no cost to those who want to attend. Several of the committee will be in attendance and we would love as many of you as possible to join us - just choose the 'Online with in person social at Bangor' so we can confirm numbers, and you will be sent more information.

Please do reach out directly with any queries and I will happily help - chair.wales@cilip.org.uk

All the best, Lou

Lou Peck, CILIP Cymru Wales Chair



Speakers
Kate Robinson

Kate has worked in libraries since the 1980s, originally contributing to a range of sectors including public libraries, private members’ libraries and the advertising industry. She is the University Librarian for the University of Bath and current President of CILIP. A previous chair of CILIP’s Professional Registration and Accreditation Board, she now chairs CILIP’s Sector Development Committee and is a Member of the Board of Directors of the International Association of University Libraries, a Fellow of the Royal Society of Arts and a Fellow of CILIP.

Durre Shahwar

Durre Shahwar is a writer and researcher. She is a Future Wales Fellowship artist, a collaboration between Arts Council Wales and Natural Resources Wales. Her work overlaps the boundaries between different forms and autofiction and has been published in various journals and anthologies. She is the co-editor of Just So You Know (Parthian Books) and the co-founder of ‘Where I’m Coming From’ open mic collective.

Dr Owain Rhys Roberts

After graduating from Aberystwyth University with an MPhys in Physics and a PhD in Experimental Physics, Owain Rhys Roberts moved to work on a mass digitisation project at the National Library of Wales. Over the last 12 years he has held many roles within the Library including as Business Transition (Change) Manager and a Research Associate in Digital Collections contributing to many international digital research projects relating to digital collections. Before being appointed to his current role he was Head of Access and Public Programmes with responsibility for public facing services, engagement and digitisation. He is a member of the CILIP Wales committee and is a board member of the Welsh Higher Education Libraries Forum (WHELF). He is also a member of the Research Libraries UK Associate Director Network.

Martina McChrystal

Martina McChrystal is Director of Library Services at the University of Glasgow. Her career in libraries and community planning spans over 35 years in public and academic sectors. She led the City of Edinburgh’s Library and Information Service from 2013-15, and prior to that was involved in setting up the City’s new local governance model in North Edinburgh. Martina was appointed by the Deputy First Minister of Scotland to chair the Scottish Government’s National School Library Strategy Advisory Group, which resulted in the publication of Scotland’s strategy for School Libraries – ‘Vibrant Libraries- Thriving Schools’ in 2018.

Martina served as President of CILIP in Scotland in 2020 and worked closely with CILIPS Trustee board and team to support the Scottish library community throughout the first year of a global pandemic.

Mystery Beck

Mystery Beck is a trainer and workshop leader and a Faculty Librarian at the University of Portsmouth.





Programme

Thursday, 19th May 2022

11:30-11:40 (AM) - Welcome and housekeeping:

Lou Peck: Chair, CILIP Cymru Wales

11:40-12:00 (AM) - Opening address:

Kate Robinson: President, CILIP

Environmentally sustainable libraries - CILIP's sustainability initiatives
Looking to improve your library’s sustainable environmental practices? In this opening address, CILIP President Kate Robinson explores the central role that librarians and information professionals play in helping their organisations and users work towards a more sustainable society. Kate shares highlights of CILIP’s sustainability initiatives including the new Green Libraries Partnership.

12:00-12:45 (PM) - Keynote 1:

How do you connect with underrepresented audiences? Durre tells us how to connect and engage through nature writing and other valuable approaches.

Durre Shahwar: writer and researcher

Sustaining connections
In this keynote Durre talks about her work engaging with historically underrepresented communities, her research on women of colour and nature, and her Future Wales Fellowship project – a collaboration between Arts Council Wales and Natural Resources Wales. There will also be a reading of her work – followed by Q&A.

12:45-13:45 (PM) - LUNCH TIME

13:45-14:30 (PM) - Session A Sustainability in action:

How can you find real-life examples of libraries that have implemented sustainable approaches? In this session, we discover two organisations that have placed sustainability principles at the front and centre of their operations.

Kathleen Milne: Western Isles Libraries, Comhairle nan Eilean Siar

Climate Beacons in Scotland
In Scotland over 30 environmental, heritage and cultural organisations have collaborated to create Climate Beacon hubs. In this session Western Isles Libraries share the story of their role in engaging communities to consider the impact of climate challenges.

Kester Savage and Joanne Hindes: Natural Resources Wales

Our place in an organisation that cares for the natural resources of Wales
Natural Resources Wales has embedded sustainable principles in all its work. In this session we learn how library and information services fit into the wider sustainability goals of the organisation and the challenges faced in putting sustainability in front and centre of their work.

Chair: Helen Blockwell, Head of Library Services at the Welsh Government

14:30-14:45 (PM) - BREAK

14:45-15:30 (PM) - Session B Sustainable practice in libraries:

How are libraries working towards sustainable practices? In this session we learn about strategies, projects and partnerships.

Blerina Hashani: Public Policy and Campaigns Manager, The British Library

Towards a green Library: the British library’s response to climate change
The British Library has been working towards a brighter climate future for over a decade. In this session we hear the story of the Library’s journey towards decarbonisation and their role as a founding partner of the Green Libraries Partnership.

Marjan Baas-Harmsma: Bangor University, delivered by Christine Brennan: President, Caia Software & Solutions

Making an impact by optimising space: How to keep track of print material in an offsite storage facility (the CAIA project)
The three campus libraries at Bangor University are merging into a single library. Much of the print stock is being relegated to an offsite storage unit to deal with space issues, preserve unique items and safeguard collections of special interest. Instead of using a conventional classification system, Bangor University uses Caia software and solutions, a modern storage solution that promises 100% discoverability and optimisation of available space.

OCLC: why sustainability and collaboration matter to us

Chair Alan Vaughan Hughes, Vice-chair CILIP Cymru Wales

15:30-16:00 (PM) - TEA TIME

16:00-17:00 (PM) - Workshop 1 Everything about well-being:

Well-being and impact have become very familiar terms in recent times. Since 2015 many public bodies in Wales have a duty under the Well-being of Future Generations (Wales) Act to carry out sustainable development. This is about improving the way that we can achieve our economic, social, environmental and cultural well-being. This workshop presents how this has been considered and applied at The National Library of Wales and gives participants the opportunity to reflect and consider how this can be applied to their own context.

Dr Owain Rhys Roberts: National Library of Wales

17:00 (PM) - Wrap up and close

Lou Peck (Chair, CILIP Cymru Wales)



Friday, 20th May 2021 (AM)

09:15-09:30 (AM) - Welcome and housekeeping:

Alan Vaughan Hughes: Vice-chair, CILIP Cymru Wales

09:30-10:15 (AM) - Keynote 2:

How can you innovate and collaborate to extend the reach of our collections and services?

Martina McChrystal, Director of Library Services at the University of Glasgow

Opening the Doors: Scotland moving Forward in collaboration
The University of Glasgow, one of the oldest and largest university libraries in Europe, holds an extensive range of unique and internationally significant collections. Martina describes the Scottish funding landscape that enables cross sectoral library collaboration, the hybrid service innovations that her colleagues at Glasgow have implemented and explores some recent Scotland-wide collaborative projects they have participated in.

10:15-11:15 (AM) - Session C Sustainable skills:

How are you ensuring your skillset remains relevant, impactful and transferable? In this session we focus on what you can do to help improve your skillset through specialist training, partnership and collaboration.

Katrina Hall and Nia Morris, on behalf of NHSWLKS

High level search skills
High level searching of medical and health related resources is a key skill for NHS Wales Librarians. In this session, we explore the work being done to improve literature searching skills and services to ensure standardisation and quality across the organisation, and the resulting formation of a small team of expert searchers supporting the work of Health Education & Improvement Wales.

Alison Harding, University of Wales Trinity Saint David

Celebrating the story of where higher education began in Wales
St David’s College, Lampeter was established in 1822. As part of the bicentenary celebrations the Special Collections and Archives embarked on several sustainable and collaborative projects to both highlight the collections, as well as explore further those individuals and groups who played key parts in the narrative of the Institution. This presentation will explore these projects and the partnerships developed through this work.

Ian Rennie and Ceri Powell, Grŵp Llandrillo Menai

Reinventing online services to bridge the digital divide:
During lockdown the Library and Learning Technology Service at Grŵp Llandrillo Menai established a library technology team to support both learners and staff. The team created a bilingual study skills site, online subject guides and coordinated a project to supply over a thousand devices to students to facilitate learning from home. The initiative won silver in the Welsh Library Team of the Year Awards in 2021.

Kristine Chapman, National Museum Wales

Launch of the Welsh Library Team of the Year Award, 2022

Chair: Cheryl Hesketh, Conwy County Borough Council

11:15-11:45 (AM) - BREAK

11:45-12:45 (AM-PM) - Workshop 2: The art of collaboration

Many of the stories and case studies shared at this conference highlight just how important the art of collaboration is to ensuring successful projects and initiatives. In this workshop, Mystery Beck explores the art of collaboration, addressing the key questions we need to consider in order to collaborate effectively.
Why should we collaborate?
What questions should we ask as we seek to collaborate?
Who should be involved and how do we approach them?
What tools can we use to support collaboration?
How do we manage, maintain and review our collaborative efforts?

Mystery Beck is a trainer and workshop leader and a Faculty Librarian at the University of Portsmouth

12:45-13:00 (PM) - Wrap up and close of conference

Alan Vaughan Hughes (Vice-chair, CILIP Cymru Wales)



Pricing


Networking/social event for anyone wanting to catch up in person in Bangor on 19th May 2022

FREE

Register

Online Student/Unwaged

Members login in for student discount. Non members and unwaged can contact us for discount code.

Register

ONLINE - CILIP Member - Full Delegate

Includes full conference attendance on Thursday 19th May and Friday 20th May.

£60 + VAT

Register

ONLINE - CILIP Member - 19th May or 20th May

Conference attendance on Thursday 19th May or Friday 20th May.

£36 + VAT

Register

ONLINE - Non CILIP Member - Full Delegate

Includes full conference attendance on Thursday 19th May and Friday 20th May.

£74 + VAT

Register

ONLINE - Non CILIP Member - 19th May or 20th May

Conference attendance on Thursday 19th May or Friday 20th May.

£44 + VAT

Register

This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.