|
Cynhadledd CILIP Cymru Wales Conference 2021


Hafan
Rhaglen
Siaradwyr
Prisio
Arddangoswyr
Cofrestrwch
English
Cynhadledd CILIP Cymru
Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar ein cynhadledd rithwir gyntaf i gydnabod a dathlu gweithwyr proffesiynol gwybodaeth yng Nghymru. Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn un ryfedd i bawb. Rydym eisiau helpu i ddangos hyder fel sector, ymrwymiad i amrywiaeth,
ac effaith a dylanwad ar draws cymunedau, Cymru a thu hwnt. Mae ein cynhadledd yn 2021 yn cynnwys rhestr gyffrous o siaradwyr a fydd yn eich ysbrydoli i gael mwy o effaith.
Diolch i Lywodraeth Cymru, mae'n bleser gan CILIP Cymru Wales gynnig bwrsariaethau i llyfrgellwyr cyhoeddus i ymuno â ni yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales 2021. Ffurflen gais Bwrsariaeth
Yn ogystal, mae'n bleser gan CILIP Cymru Wales gynnig bwrsariaethau i aelodau CILIP sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghymru i ymuno â ni yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales 2021. Rydym yn croesawu ceisiadau bwrsariaeth arbennig gan arbenigwyr llyfrgell
a gwybodaeth yng Nghymru o gefndiroedd BAME, y rhai sy'n uniaethu fel LGBTQ+, pobl sydd â phrofiad o anabledd a'r rhai sy'n niwro-amrywiol. Ffurflen gais Bwrsariaeth
Byddwch yn rhan o'r sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.
Edrychwn ymlaen i chi ymuno â ni ar-lein.
Follow us on Twitter @CILIPinWales or using the #CILIPW21 .
Rhaglen
Dydd Iau, 20fed o Fai 2021 (YP) Llunio Cymru fodern
|
|
12:00-13:15 (YP) - Holi ac Ateb gydag awduron gwobr llyfrau plant Tir na n-Og
Bydd Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, yn cyflwyno sesiwn arbennig yn dathlu rhestrau byr gwobrau Tir na n-Og 2021 gyda ffilmiau arbennig a thrafodaeth banel gydag awduron y rhestrau byr, a sesiwn holi ac ateb gyda Hywel James, cadeirydd y panel Cymraeg, a Jo Bowers, cadeirydd y panel Saesneg. Bydd y drafodaeth yn cynnwys cwestiynau am y llyfrau ar y rhestrau byr, arwyddocâd Cymru fel lleoliad yn y llyfrau a dylanwad llyfrgelloedd arnyn nhw fel darllenwyr ac awduron, a phwysigrwydd llyfrgelloedd wrth hybu eu llyfrau.
Mae’r sesiwn am ddim i bawb.
|
|
|
13:30-13:40 (YP) - Croeso a threfniadau’r Gynhadledd:
Lou Peck (Cadeirydd, CILIP Cymru Wales)
|
|
|
13:40-14:20 (YP) - Sesiwn 1 Araith Allweddol:
Sally Meecham: : Prif Swyddog Gweithredol dros dro ar gyfer Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru
Sam Hall: Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol
Digidol yng Nghymru: gwella bywydau pawb trwy gydweithredu, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell
|
|
|
14:20-14:30 (YP) - Egwyl Fer
|
|
|
14:30-15:30 (YP) - Sesiwn 2: Llyfrgelloedd am Oes
Sioned Jacques:
Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd
Cadeirydd
- Anoush Simon:
Uwch Ddarlithydd, Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth
Credyd Cynhwysol a Chynhwysiant Digidiol mewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Mae'r papur hwn, a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd mewn cydweithrediad â Dr Alyson Tyler, yn canolbwyntio ar gynhwysiant digidol a llyfrgelloedd
cyhoeddus yng Nghymru, yn rhannol o safbwynt datblygiadau diweddar mewn Credyd Cynhwysol. Mae'n tynnu sylw at rai o ganfyddiadau astudiaeth gwmpasu ddiweddar i effaith Credyd Cynhwysol ar wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus
ac anghenion defnyddwyr, ac mae’n trafod sut y mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn addasu i newidiadau personol, cymdeithasol a thechnegol a beth allai tueddiadau yn y dyfodol agos ei olygu i wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus.
- Bethan Hughes a Kerry Pillai:
Prif Lyfrgellydd, Llyfrgelloedd Sir Ddinbych, Rheolwr Gweithrediadau: Nwyddau a Phobl, Llyfrgelloedd Abertawe a Chydlynydd Prosiect Estyn Allan
Cynllun Estyn Allan Project Mae Estyn Allan yn gywaith cydweithredol rhwng pob un o’r 22 gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru, dan arweiniad SCL Cymru, sydd wedi darparu rhaglen hyfforddiant technegol a chreadigol
dwys i staff rhengflaen ar greu gweithgareddau llyfrgell digidol dwyieithog, i gynnal a lledaenu cynulleidfaoedd llyfrgelloedd. Bydd cadeirydd a chydlynydd y prosiect yn rhannu gweithgaredd y prosiect a’i effaith ar y staff,
a’i botensial ar gyfer y model newydd o ddarpariaeth gwasanaeth cymysg.
- Jennie Roe
Llyfrgellydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Llyfrgelloedd GIG Cymru a'r pandemig Mewn pandemig byd-eang, mae'r angen i ledaenu gwybodaeth ddibynadwy o ansawdd da yn gyflym i'r rhai ar y rheng flaen o'r pwys mwyaf. Mae'r sgwrs hon yn edrych ar rai o'r ffyrdd
y bu Gwasanaeth Llyfrgelloedd GIG Cymru yn gweithio i gwrdd â’r gofyn hwn a rhai o'r heriau a wynebwyd.
- Auriol Miller:
Cyfarwyddwr, Sefydliad Materion Cymreig
Defnyddio'r Hyn Rydym yn ei Wybod a Meddwl Ymlaen: Data, democratiaeth a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol Sut y gall Deall Lleoedd Cymru, gwefan ddwyieithog
sy'n cyflwyno gwybodaeth am yr economi, cyfansoddiad demograffig a gwasanaethau lleol dros 300 o leoedd yng Nghymru mewn fformat cyflym a hwylus, helpu pobl ledled Cymru i lunio dyfodol y lleoedd lle maen nhw'n byw
ac yn gweithio ynddynt ar ôl y pandemig. A pham bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd gwell o wrando ar leisiau dinasyddion a dechrau trwy archwilio straeon y Bartneriaeth Dysgu Byw.
|
|
|
15:30-15:45 (YP) - Egwyl Fer
|
|
|
15:45-16:45 (YP) - Sesiwn 3: Lleisiau Cymuned
Susie Ventris-Field:
Prif Swyddog Gweithredol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Cadeirydd
- Sara Huws:
Swyddog Ymgysylltu Dinesig, Prifysgol Caerdydd
Gwneud Gwahaniaeth: Ymgyrchu a Llyfrgelloedd Sesiwn sy’n edrych ar ffyrdd dychmygus, chwareus ac ymarferol o ddefnyddio ymgyrchu mewn llyfrgelloedd.
- Kristine Chapman:
Prif Lyfrgellydd, Yr Amgueddfa Genedlaethol, Cynrychiolydd Bwrdd WHELF ac aelod o’r gweithgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Lleisiau Eithriedig @WHELF – sesiwn adborth Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar weithgareddau Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WHELF, o'r ffurfiad cychwynnol hyd at gynhadledd rithwir diweddar Lleisiau
Eithriedig.
- Norena Shopland:
Awdur ac ymchwilydd
Hanesion Cudd LGBTQ+ Awgrymiadau a chyngor i wella cyflwyniad teitlau LGBTQ+ mewn llyfrgelloedd. Pa deitlau i'w cynnwys a sut i'w hysbysebu yn ystod dyddiau a misoedd dathlu.
|
|
|
16:45-17:00 (YP) - Cloriannu a Chloi
Lou Peck (Cadeirydd, CILIP Cymru Wales)
|
Dydd Gwener, 21ain o Fai 202 (YB) Cymru a'r Byd
|
|
8:30-9:15 (YB) - Brecwast Rhwydweithio Cyn y Gynhadledd:
Cyfarfod CILIP a CILIP Cymru: Lou Peck, Paul Corney, Nick Poole, ac aelodau pwyllgor
|
|
|
9:30-9:40 (YB) - Croeso a threfniadau’r Gynhadledd:
Alan Hughes (Is Gadeirydd, CILIP Cymru Wales)
|
|
|
9:40-10:20 (YB) - Sesiwn 1: Araith Allweddol
Saskia Scheltjens: Pennaeth Gwasanaethau Ymchwil, Rijksmuseum
O Agored i FAIR: celfyddyd treftadaeth ddiwylliannol ddigidol yn y byd Mae data treftadaeth ddiwylliannol ddigidol llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi gweld newidiadau cyffrous yn ystod y degawd diwethaf yn enwedig
gyda'r drafodaeth am fynediad agored i'w casgliadau. Bydd y prif anerchiad hwn yn ymhelaethu ar y siwrnai hon a'r heriau sydd o'n blaenau, gan drafod y pwnc o safbwynt y Rijksmuseum, un o'r hyrwyddwyr data agored cynnar ym myd
Open GLAM.
|
|
|
10:20-10:30 (YB) - Egwyl Fer
|
|
|
10:30-11:30 (YB) - Sesiwn 2: Cymru Ddigidol
Andrew Green:
Cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, awdur a blogiwr
Cadeirydd
- Scott Waby:
Pennaeth Gwasanaethau Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Diweddariad Digidol gan LlGC Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn digideiddio ei chasgliadau ers dros 20 mlynedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r gyllideb i ddigido ein casgliadau ar raddfa fawr wedi
lleihau yn ddifrifol. Yn y sgwrs hon, byddaf yn edrych ar y camau a gymerwyd gennym i sicrhau mynediad at ein casgliadau, a dangos sut y gwnaeth gweithio o bell ein galluogi i wneud ein gweithdrefnau yn fwy effeithiol.
- Daniel Dyboski-Bryant:
Cyd-sylfaenydd Educators in VR, a Chyfarwyddwr Addysg Rithwir a Llwyfannau yn Virtual World Society.
Realiti Rhithwir mewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Sut y gallech chi a'ch llyfrgell, neu eich sefydliad archwilio, integreiddio ac elwa o dechnolegau Realiti Rhithiol a Realiti Estynedig? Byddaf yn rhannu rhai enghreifftiau,
adnoddau a meddyliau a fydd, gobeithio, yn eich argyhoeddi bod hon nid yn unig yn llai o her na’r disgwyl, ond hefyd doethineb dilyn strategaeth o ddechrau ymgysylltu â hi yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach; ac ar ben hynny
gall fod yn antur fendigedig hefyd!
- Mererid Boswell:
Cyngor Llyfrau Cymru
Cyflenwi e-lyfrau Cymraeg mewn marchnad fasnachol
Sut yr anogodd y Cyngor Llyfrau gyhoeddwyr i greu 1,000 o e-lyfrau Cymraeg newydd yn ystod cyfnod COVID, a model dosbarthu i'w werthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd a dosbarthu i weddill y farchnad (tra’n cadw llyfrwethwyr
yn hapus na fyddai e-lyfrau yn cystadlu yn erbyn eu marchnad).
- Amy Staniforth & Kate Lomax:
CILIP ac Artefacto
Ar Gof a Chadw: casglu profiadau COVID-19 y proffesiwn yng Nghymru Sut a pham y gwnaethom adeiladu archif gyfranogol yn ystod y cyfnod clo cyntaf - gofod ar-lein lle gallai gweithwyr llyfrgell o bob math ddal a rhannu
eu straeon yn ystod Covid 19.
|
|
|
11:30-11:45 (YB) - Egwyl Fer
|
|
|
11:45-12:35 (YB) - Sesiwn 3: Cymru yn y Byd
Martin Pollard:
Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Cadeirydd
- Wyn Thomas:
Llyfrgellydd Prifysgol, American University of Phnom Penh, Cambodia
O Sir Gaerfyrddin i Gambodia Yng Nghambodia roedd cyswllt agos rhwng gwybodaeth a throsglwyddo gwybodaeth â chrefydd a brenhiniaeth. Roedd y temlau a'r llys brenhinol yn storfeydd gwybodaeth, testunau crefyddol a
chroniclau. Collwyd llawer yn ystod teyrnasiad gwaedlyd y Khmer Rouge, cyfundrefn oedd â’i bryd ar ddinistrio addysg a dysg. Ar ôl 1979 mae llawer wedi'i ailadeiladu ond mae'n broses araf a ddechreuodd o ddim byd ac sy'n
wynebu llawer o heriau a materion gwahanol iawn i’r hyn a geir yn y byd gorllewinol.
- Sarah Sparham:
Llyfrgellydd Carchardai, CEM Northumberland
Clowch nhw lan! Mae gan garchardai lyfrgelloedd cudd. Bydd y sgwrs hon yn archwilio diwrnod ym mywyd Llyfrgellydd Carchardai o Gymru, o lythrennedd ac addysg i sefydlu gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol.
Cewch glywed am effaith ein proffesiwn mewn cymuned anweledig. A ddylem ni wneud mwy na dim ond eu cloi nhw lan?
-
Sian Williams:
Pennaeth Casgliadau Arbennig a Llyfrgellydd, Prifysgol Abertawe
Weithwyr y Byd, Unwch!: Llyfrgell Glowyr De Cymru ac effaith fyd-eang Partneriaethau â Llyfrgell Glowyr y De Cymru ar draws llyfrgelloedd a sefydliadau cymunedol yn Awstralia ac UDA dros y 40 mlynedd diwethaf, gan archwilio
cydweithredu yn y gorffennol, y presennol a'r potensial ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.
-
Alan Vaughan Hughes:
Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd
Anturiaethau Rhyngwladol Llyfrgellydd Cymru: O Gaernarfon i Lyfrgell y Gyngres, Ljubljana, Istanbwl, Paris a Madrid Gwibdaith sydyn o amgylch cydweithredu rhyngwladol. Bydd y sgwrs hon yn cyffwrdd â phrosiectau metadata
gyda Llyfrgell y Gyngres, cydweithrediad digidol ag Europeana, cyfranogiad yn Rhaglen Arweinwyr sy’n Dod i’r Amlwg LIBER, a phrosiect llythrennedd digidol gydag alltudion academaidd Syria yn Istanbwl.
|
|
|
12:35-12:50 (YP) - Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru
Tracey Stanley:
Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd a Llyfrgellydd y Brifysgol (Prifysgol Caerdydd)
Cadeirydd
Bydd y sesiwn fer hon yn adrodd ar enillwyr y llynedd ac yn agor y gystadleuaeth yn ffurfiol ar gyfer 2021!
|
|
|
12:50-13:00 (YP) - Cloriannu a Chloi
Lou Peck: (Cadeirydd, CILIP Cymru Wales)
|
Siaradwyr
Mererid Boswell
Wedi cymhwyso fel cyfrifydd siartredig gyda KPMG, bu Mererid yn archwilydd yng Nghaerdydd, ac yna yn gweithio i Mudiad Meithrin, Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bywgraffiad byr
Mae bellach yn arwain adran gorfforaethol y Cyngor Llyfrau, sydd yn cwmpasu popeth o werthu, cyfrifo, rheoli a pwysigrwydd data.
Daniel Dyboski-Bryant
Roedd Daniel yn Arweinydd Prosiect Technolegau Trochi yng Ngholeg Menai lle bu’n gyfrifol am sefydlu a rhedeg Lab Trochi Realiti Rhithwir a rhaglen hyfforddi Coleg Rhithwir gyda Staff o sawl Llyfrgell yng ngogledd Cymru.
Bywgraffiad byr
Kristine Chapman
Prif Lyfrgellydd, Yr Amgueddfa Genedlaethol, Cynrychiolydd Bwrdd WHELF ac aelod o’r gweithgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Bywgraffiad byr
Alan Hughes
Alan Vaughan Hughes yw Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bywgraffiad byr
Mae prif ddiddordebau Alan yn cynnwys arweinyddiaeth, rhwydweithiau cydweithredol byd-eang a chenedlaethol, rhyngweithio dinesig â chynnwys treftadaeth, darganfod adnoddau a phopeth digidol.
Sara Huws
Sara Huws yw Swyddog Ymgysylltu Dinesig Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Bywgraffiad byr
Mae hi’n gyd-sefydlydd East End Women’s Museum, unig amgueddfa hanes menywod Lloegr, ac ar hyn o bryd mae’n astudio doethuriaeth mewn ymgyrchu a chasgliadau.
Kerry Pillai
Rheolwr Gweithrediadau: Nwyddau a Phobl, Llyfrgelloedd Abertawe a Chydlynydd Prosiect Estyn
Bywgraffiad byr
Jennie Roe
Mae Jennie Roe yn Llyfrgellydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Bywgraffiad byr
Norena Shopland
Awdur/hanesydd yw Norena Shopland sy'n arbenigo yn hanes cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.
Bywgraffiad byr
Llyfr diweddaraf Norena yw A Practical Guide to Searching LGBTQIA Historic Records (Routledge, Tachwedd 2020).
Anoush Simon
Mae Anoush Simon yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth.
Bywgraffiad byr
Mae diddordebau ymchwil Anoush yn cynnwys effaith technoleg ar gymdeithas, y gymdeithas wybodaeth, cynhwysiant digidol cymdeithasol.
Sarah Sparham
Magwyd Sarah Sparham yn Sir Benfro a hi yw Llyfrgellydd y Carchar yn CEM Northumberland.
Bywgraffiad byr
Dechreuodd ei gyrfa llyfrgell fel llyfrgellydd ysgol yn newyddiaduron Lloegr. Wrth symud i ogledd-ddwyrain Lloegr, flynyddoedd lawer yn ôl, mae hi wedi gweithio i lyfrgelloedd cyhoeddus Northumberland, Sefydliad Troseddwyr
Ifanc EM Castington a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion Northumberland.
Amy Staniforth
Amy yw Rheolwr Cysylltiadau CILIP Cymru Wales, yn cefnogi'r pwyllgor gwirfoddolwyr wrth iddo gyflenwi cynnig CILIP i aelodau yng Nghymru.
Bywgraffiad byr
Mae Amy yn Rheolwr Cysylltiadau am dri diwrnod yr wythnos ac yn llyfrgellydd metadata ym Mhrifysgol Aberystwyth am ddau ddiwrnod arall yr wythnos.
Wyn Thomas
Ganed a maged yn Sir Gar, graddiodd o Goleg Brifysgol Dewis Sant, Coleg Llyfgrgellwyr Cymu, Y Brifysgol Gregoraidd, Rhufain a Prifysgol Paris Lodron, Salzburg.
Bywgraffiad byr
Bu’n llyfrgella yng Nghymru (Coleg y Drindod, Caerfyrddin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru), Lloegr, Yr Eidal, Awstria ac ar hyn o bryd ef yw Llyfrgellydd y Brifysgol Americanaidd yn Phnom Pen, Cambodia.
Scott Waby
Pennaeth Gwasanaethau Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bywgraffiad byr
Sian Williams
Mae Sian yn Bennaeth Casgliadau Arbennig a Llyfrgellydd ym Mhrifysgol Abertawe
Bywgraffiad byr
Prisio
Pawb - Cyfarfod â'r Awduron - Gwobrau Llyfr Plant Tir na n-Og 2021
Yn cynnwys: Agoriad y Gynhadledd: Dathlu rhestr fer Gwobr Llyfr Plant Tir na n-Og 2021 12:00 (PM)
AM DDIM (ond mae’n rhaid i chi gofrestru)
Aelod CILIP - Cynrychiolydd Llawn
Yn cynnwys presenoldeb llawn yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 20fed a dydd Gwener, Mai 21ain.
£15 + TAW
Aelod CILIP – prynhawn Mai 20fed neu bore Mai 21ain
Presenoldeb yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 20fed neu ddydd Gwener, Mai 21ain.
£10 + TAW
Heb fod yn aelod o CILIP - Cynrychiolydd Llawn
Yn cynnwys presenoldeb llawn yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 20fed a dydd Gwener, Mai 21ain.
£30 + TAW
Heb fod yn aelod o CILIP – prynhawn Mai 20fed neu bore Mai 21ain
Presenoldeb yn y gynhadledd ar ddydd Iau, Mai 20fed neu ddydd Gwener, Mai 21ain.
£20 + TAW
Arddangoswyr
Mae CILIP Cymru Wales yn falch o gyhoeddi y bydd ein cynhadledd, a gafodd ei gohirio yn 2020, yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor, ar Mai 19eg-20fed, 2022.
Rydym yn falch iawn hefyd o allu adrodd y byddwn yn cynnal cynhadledd flynyddol eleni ar-lein ar o’r 20fed i’r 21ain o fis Mai 2021. Mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn hefyd yn lansio ein Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn ac yn dathlu
Gwobrau llyfrau plant Cymru Tir Na n-Og yr ydym yn eu noddi eleni.
Hoffem gynnig cyfle i arddangoswyr noddi cynhadledd ar-lein eleni a chael eich logo ar ein tudalennau gwe am £100 + TAW
Mae hwn yn amser pwysig i weithwyr proffesiynol llyfrgell a gwybodaeth ac rydym yn darganfod bod cydweithwyr yn ymgysylltu â ni fwy nag erioed trwy ein digwyddiadau ar-lein. Rydym bellach yn gallu cyrraedd llawer o'n sector (a'r sectorau
archifau, amgueddfeydd a chyhoeddi cysylltiedig) ledled Cymru a thu hwnt ac rydym yn gyffrous iawn ein bod ni'n gallu dod â phobl ynghyd i ysbrydoli a dysgu oddi wrth ein gilydd eleni.
Felly mae croeso mawr i chi ymuno â ni ac os hoffech noddi Cynhadledd CILIP Cymru Wales 2021 am £100, yna atebwch trwy anfon e-bost at Drysorydd CILIP Cymru Wales, Dylan Hughes, a gellir
hefyd anfon unrhyw ymholiadau at Dylan neu Amy, Rheolwr Cysylltiadau CILIP Cymru Wales


Home
Programme
Speakers
Pricing
Exhibitors
Register
CILIP Wales Conference
Join us as we embark on our very first virtual conference to recognise and celebrate information professionals in Wales. This last year has been a strange one for everyone. We want to help demonstrate confidence as a sector, commitment to
diversity, and impact and influence across communities, Wales and beyond. Our 2021 conference is packed with an exciting list of speakers to help inspire you to make a bigger impact.
Thanks to the Welsh Government, CILIP Cymru Wales is delighted to offer bursaries to public librarians to join us at CILIP Cymru Wales Conference 2021. Bursary application form.
In addition, CILIP Cymru Wales is delighted to offer bursaries to CILIP members living, working or studying in Wales to join us at CILIP Cymru Wales Conference 2021. We particularly welcome bursary applications from the library, information
and knowledge specialists in Wales from BAME backgrounds, those who identify as LGBTQ+, people with experience of disability and those who are neurodiverse. Bursary application form.
We look forward to seeing you online.
Follow us on Twitter @CILIPinWales or using the #CILIPW21.
Programme
Thursday, 20th May 2021 (PM) Shaping Modern Wales
|
|
12:00-13:15 PM - Celebrating the Tir na n-Og Children’s Book Award 2021 shortlists
Helgard Krause, CEO of the Books Council of Wales will introduce a special session celebrating the Tir na n-Og 2021 Children's Book Award shortlists which will showcase specially created films and a panel discussion with the shortlisted authors, followed by a live Q&A with the Chairs of Judges Hywel James and Jo Bowers. The panel discussion will include questions about the authors’ shortlisted books, the significance of Wales as a setting in their work, the influence of libraries on them as readers and writers, and the importance of
libraries in promoting their books. This session is free to all.
|
|
|
13:30-13:40 (PM) - Welcome and housekeeping:
Lou Peck: (Chair, CILIP Cymru Wales)
|
|
|
13:40-14:20 (PM) - Session 1 Keynote:
Sally Meecham: CEO for the Centre for Digital Public Services in Wales
Sam Hall: Chief Digital Officer for Local Government
Digital in Wales: improving the lives of everyone through collaboration, innovation and better public services
|
|
|
14:20-14:30 (PM) - Comfort Break
|
|
|
14:30-15:30 (PM) - Session 2: Libraries for Life
Sioned Jacques:
Cardiff Hubs and Libraries
Chair
- Anoush Simon:
Senior Lecturer, Department of Information Studies, Aberystwyth University
Universal Credit and Digital Inclusion in Public Libraries This paper, researched and written in collaboration with Dr Alyson Tyler, focuses on digital inclusion and public libraries in Wales, partly
from the perspective of recent developments in Universal Credit. It highlights some of the findings from a recent scoping study into the impact of Universal Credit on public library services and user needs,
and discusses how public libraries are adapting to personal, social and technical changes and what near-future trends might mean for public library services.
- Bethan Hughes and Kerry Pillai:
Principal Librarian, Denbighshire Libraries, Operations Manager: Product and People, Swansea Libraries and Estyn Allan Project Co-ordinator
Cynllun Estyn Allan Project Estyn Allan (literally Reaching out) is a collaborative project involving all 22 public library services in Wales, led by SCL Cymru, delivering an intense technical and creative
training programme for frontline staff in delivering bilingual digital library activities, to retain and extend library audiences. The project’s chair and co-ordinator will share the project’s activity and impact
on the trainees and its potential for the new blended model of service delivery.
- Jennie Roe
Clinical Librarian, Swansea Bay University Health Board
NHS Wales libraries and the pandemic In a world pandemic the need for the fast dissemination of good quality, reliable information to those on the front line is of paramount importance. This talk takes
a look at some of the ways in which the NHS Wales Library Service worked to meet this requirement and some of the challenges it faced.
- Auriol Miller:
Director, Institute of Welsh Affairs
Using What We Know and Thinking Ahead: Data, democracy and future decision-making How Understanding Welsh Places, a bilingual website that
presents information on the economy, demographic make-up and local services of more than 300 places in Wales in a quick and easy format, can help people across Wales to shape the post-pandemic future of
the places where they live and work. And why we need to find better ways to listen to citizens’ voices and could start by exploring the Live Learning Partnership’s stories.
|
|
|
15:30-15:45 (PM) - Comfort Break
|
|
|
15:45-16:45 (PM) - Session 3: Community Voices
Susie Ventris-Field:
CEO, Welsh Centre for International Affairs
Chair
- Sara Huws:
Civic Engagement Officer, Cardiff University
Making a Difference: Library Activism A session looking at imaginative, quirky and practical ways of using activism in libraries.
- Kristine Chapman:
Principal Librarian, National Museum Wales, WHELF Board Rep & member of the working group for Equality, Diversity & Inclusion
Excluded Voices @WHELF feedback session This talk will focus on the activities of the WHELF Equality, Diversity & Inclusion Group, from the initial formation up to the recent Excluded Voices virtual conference.
- Norena Shopland:
Author and researcher
Hidden LGBTQ+ Histories Tips and suggestions to improve the presentation of LGBTQ+ titles in libraries. What titles to include and how to advertise them during celebratory days and months.
|
|
|
16:45-17:00 (PM) - Wrap Up and Close
Lou Peck: (Chair, CILIP Cymru Wales)
|
Friday, 21st May 2021 (AM) Wales and the World
|
|
8:30-9:15 (AM) - Pre-conference Networking Breakfast:
Meet CILIP and CILIP Cymru: Lou Peck, Paul Corney, Nick Poole, and committee members
|
|
|
9:30-9:40 (AM) - Welcome and housekeeping:
Alan Hughes: (Vice Chair, CILIP Cymru Wales)
|
|
|
9:40-10:20 (AM) - Session 1: Keynote
Saskia Scheltjens: Head of Research Services, Rijksmuseum
From Open to FAIR : the art of digital cultural heritage in the world Digital cultural heritage data from libraries, archives and museums have seen exciting changes in the last decade with the discussion about
open access to their collections. This keynote will elaborate on this journey and the challenges ahead, told from the perspective of the Rijksmuseum, one of the early open data champions in the Open GLAM world.
|
|
|
10:20-10:30 (AM) - Comfort Break
|
|
|
10:30-11:30 (AM) - Session 2: Digital Wales
Andrew Green:
Former National Librarian, author and blogger
Chair
- Scott Waby:
Head of Digitisation Services, National Library of Wales
Digital Update from NLW The National Library of Wales has been digitising its collections for over 20 years. However, in recent years, the resources and funding available for mass digitisation have significantly
reduced. In this talk I will look at some of the actions we have taken to ensure we can continue to provide access to our collections, and how we have used remote working during the global pandemic to make efficiencies
in our workflows. I will look at the actions we took to ensure work could continue, and show how remote working enabled us to record a record year of productivity.
- Daniel Dyboski-Bryant:
Co-Founder of Educators in VR, and Director of Virtual Education and Platforms at Virtual World Society
Virtual Reality in Public Libraries How might you and your library, or organisation explore, integrate and benefit from Virtual and Augmented Reality technologies? I'll share some examples, resources
and thoughts which I hope will convince you that this is not only less of a challenge than you might be thinking, but is probably a wise strategy to start engaging with sooner rather than later; oh, and it can
be a wonderful adventure too!
- Mererid Boswell:
Books Council of Wales
Delivering Welsh e-books in a commercial market
How the Books Council encouraged publishers to create 1,000 new Welsh language e-books during COVID, and a delivery model to sell direct to the public and aggregate to the rest of the market (whilst keeping
bookshops satisfied that e-books would not rival their market).
- Amy Staniforth & Kate Lomax:
CILIP & Artefacto
For the Record: collecting COVID-19 experiences of the profession in Wales How and why we built a participatory archive during the first lockdown - an online space where library workers of all different
types could capture and share their stories during Covid 19.
|
|
|
11:30-11:45 (AM) - Comfort Break
|
|
|
11:45-12:35 (AM-PM) - Session 3: Wales in the World
Martin Pollard:
CEO, Learned Society of Wales
Chair
- Wyn Thomas:
University Librarian, American University of Phnom Penh, Cambodia
From Carmarthenshire to Cambodia Knowledge and the transmission of knowledge in Cambodia was closely linked to religion and kingship. The temples and the royal court were repositories of information, religious
texts and annals. Much was lost during the reign of the murderous Khmer Rouge regime, a regime which annihilated education and learning. After 1979 much has been rebuilt but it is a slow process which started from nothing
and encounters many challenges and issues not encountered in the western world.
- Sarah Sparham:
Prison Librarian, HMP Northumberland
Just lock them up! Prisons have hidden libraries. This talk will explore a day in the life of a Prison Librarian from Wales, from literacy and education to setting up social and cultural activities. Hear
about the impact of our profession in an invisible community. Should we just lock them up?
-
Sian Williams:
Head of Special Collections and Librarian, Swansea University
Workers of the World Unite: South Wales Miners’ Library and global impact Partnerships with the South Wales Miners’ Library across libraries and community organisations in Australia and the USA over the past
40 years, exploring past, current and future potential for collaboration.
-
Alan Vaughan Hughes:
Head of Special Collections and Archives, Cardiff University
Global Adventures of a Welsh Librarian: From Caernarfon to the Library of Congress, Ljubljana, Istanbul, Paris and Madrid A whistlestop tour of international collaboration. This talk will touch on metadata
projects with the Library of Congress, digital collaboration with Europeana, participation in the LIBER Emerging Leaders Programme, and a digital literacy project with Syrian academic exiles in Istanbul.
|
|
|
12:35-12:50 (PM) - Wales Library Team of the Year
|
|
|
12:50-13:00 (PM) - Wrap Up and Close
Lou Peck: (Chair, CILIP Cymru Wales)
|
Speakers
Mererid Boswell
Belrina is the Public Policy and Campaigns Manager at the British Library. She is currently co-leading the Library's COP 26 campaign and its response to climate change. Prior to joining the Library in December 2019, she was
a parliamentary adviser in the House of Commons and supported the All Party Parliamentary Group on Libraries.
Daniel Dyboski-Bryant
Daniel was Project Lead of Immersive Technologies at Coleg Menai where he set up and ran an Immersive VR Lab and a Virtual College training program with Staff from several North Wales Libraries.
Short bio
Kristine Chapman
Kristine is Principal Librarian at the National Museum Wales. She is a WHELF Board Rep & member of the working group for Equality, Diversity & Inclusion
Short bio
Bethan Hughes
Bethan is Principal Librarian at Denbighshire Libraries
Short bio
Alan Hughes
Alan Vaughan Hughes is Head of Special Collections and Archives at Cardiff University.
Short bio
Alan's main interests include leadership, global and national collaborative networks, civic interaction with heritage content, resource discovery and everything digital.
Sara Huws
Sara Huws is the Civic Engagement Officer for Cardiff University Libraries and Archives.
Short bio
She is the co-founder of East End Women’s Museum, England’s only museum dedicated to women’s history, and at the moment she is studying for a PhD in activism and collections.
Kerry Pillai
Kerry is Operations Manager, Product and People at Swansea Libraries and Estyn Allan Project Co-ordinator
Short bio
Jennie Roe
Jennie Roe is a Clinical Librarian at Swansea Bay University Health Board.
Short bio
Norena Shopland
Norena Shopland is an author/historian specialising in the history of sexual orientation and gender identity.
Short bio
Norena's most recent book is A Practical Guide to Searching LGBTQIA Historic Records (Routledge, Nov. 2020).
Anoush Simon
Anoush Simon is a Senior Lecturer in the Department of Information Studies at Aberystwyth University.
Short bio
Anoush's research interests include the impact of technology on society, the information society, social digital inclusion.
Sarah Sparham
Sarah Sparham grew up in Pembrokeshire and is the Prison Librarian at HMP Northumberland.
Short bio
Sarah started her library career as a school librarian in the South East of England. On moving to the North East, many years ago, she has worked for Northumberland Public libraries, HMYOI Castington and Northumberland Schools
Library Service.
Amy Staniforth
Amy is CILIP Cymru Wales' Relationship Manager, supporting the volunteer committee as it delivers CILIP's offer to members in Wales.
Short bio
Amy is Relationship Manager three days a week and a metadata librarians at Aberystwyth University the other two days a week.
Wyn Thomas
Wyn was born and raised in Carmarthenshire and graduated from the University of Trinity St Davids, The Welsh College of Librarianship, the Pontifical Gregorian University in Rome, and the Paris Lodron University of Salzburg.
Short bio
He has worked as a professional librarian in Wales (Trinity St Davids, Carmarthen, National Library of Wales), Italy, Austria and is currently University Librarian at the American University in Phnom Pen, Cambodia.
Scott Waby
Head of Digitisation Services, National Library of Wales
Short bio
Sian Williams
Sian is Head of Special Collections and Librarian at Swansea University
Short bio
Pricing
ALL - Meet the Authors - Tir na n-Og Children's Book Awards 2021
Includes: Conference Opening: Celebrating the Tir na n-Og Children’s Book Award 2021 shortlists 12:00 (PM)
FREE (but you must register)
CILIP Member - Full Delegate
Includes full conference attendance on Thursday 20th May and Friday 21st May.
£15 + VAT
CILIP Member - afternoon 20th May or morning 21st May
Conference attendance on Thursday 20th May or Friday 21st May.
£10 + VAT
Non CILIP Member - Full Delegate
Includes full conference attendance on Thursday 20th May and Friday 21st May.
£30 + VAT
Non CILIP Member - afternoon 20th May or morning 21st May
Conference attendance on Thursday 20th May or Friday 21st May.
£20 + VAT
Exhibitors
CILIP Cymru Wales are pleased to announce that our postponed 2020 conference will be at Bangor University, 19th-20th May 2022.
We are excited to report, however, that we will be hosting this year's annual conference online 20th-21st May 2021. We are thrilled to announce that we will also be launching our Library Team of the Year Award and celebrating the Tir Na
N’og Welsh Children’s book awards which we sponsor.
This year we would like to offer exhibitors the opportunity to sponsor this year’s online conference and have your logo on our webpages for £100+VAT
This is an important time for library and information professionals and we are finding colleagues are engaging with us more than ever via our online events. We are able now to reach much of our sector (and the aligned sectors of archives,
museums, and publishing) across Wales and beyond and we are really excited to be able to bring people together to inspire and learn from each other this year.
Please consider joining us and if you would like to sponsor CILIP Cymru Wales Conference 2021 for £100 please reply by email to the CILIP Cymru Wales Treasurer Dylan Hughes and enquiries
can be sent to Dylan or Amy, the CILIP Cymru Wales Relationship Manager
|