|

- Plymiwch i mewn i'r ystod hynod ddiddorol o gyhoeddiadau sydd yn yr adnodd hanfodol hwn.
- Darganfyddwch yr ymdrechion sy'n mynd i mewn i gynnal yr archif a'r grymoedd y tu ôl i sicrhau mynediad cyhoeddus ac ail-ddefnydd hirdymor o wybodaeth y llywodraeth.
- Clywch sut mae Gwasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru wedi ymuno â’u cyflenwr LMS a’u tîm digidol mewnol i uwchraddio’r Archif Cyhoeddiadau.
- Dysgwch am y safonau sy'n ofynnol gan wasanaethau'r sector cyhoeddus a'r camau a gymerwyd i'w bodloni.
Mae Archif Cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn darparu mynediad i eitemau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ei rhagflaenwyr a chyrff cyhoeddus Cymreig cysylltiedig drwy gydol y cyfnod datganoli. Mae’n drysorfa wirioneddol o wybodaeth y llywodraeth,
sy’n gartref i ddeunydd digidol anedig a deunydd digidol, yn ogystal â metadata ar gyfer eitemau a gedwir mewn fformat ffisegol yn unig.
Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno Archif Cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ac yn amlinellu gwaith diweddar a wnaed i’w drawsnewid i fod yn wasanaeth llywodraeth sy’n haws ei ddefnyddio, sy’n hygyrch ac sy’n cydymffurfio.
Bydd y gweminar hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Cyflwynwyr:
Siobhan McNally
Mae Siobhan wedi gweithio i Lywodraeth Cymru ers 2004. Gan ddechrau yn y Swyddfa Rheoli Rhaglenni, symudasant i’r llyfrgell, gan ddod yn llyfrgellydd yn 2012 tra’n astudio yn Aberystwyth. Ar hyn o bryd, maent yn helpu i weinyddu’r System Rheoli Llyfrgelloedd
ac wedi cyfrannu at ailddatblygu Archif Cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru.
Maria Nagle
Mae Maria wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru ers pedair blynedd, y rhan fwyaf o'r rhain fel Rheolwr Casgliadau Llyfrgell. Mae ei gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys arwain ar gatalogio cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru, prosiectau rheoli casgliadau a throsolwg
LMS. Ar hyn o bryd mae'n byw yn Abertawe ac wedi gweithio yn y gorffennol mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, academaidd ac eglwysi cadeiriol.
Jamie Finch
Jamie yw Cadeirydd presennol CILIP Cymru Wales, yn eirioli ac yn dathlu llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae’n falch o fod yn Gymrawd Siartredig o CILIP gyda 28 mlynedd o brofiad yn y sector llyfrgelloedd a gwybodaeth, gyda’r 16 mlynedd diwethaf mewn addysg uwch a thrawswladol. Aelod o fwrdd CILIP, gyda diddordebau proffesiynol cryf mewn gwybodaeth busnes a llyfrgellyddiaeth fyd-eang.
|