Y Sylfaen Gwybodaeth a Sgiliau Proffesiynol
Description |
Mae'r PDF rhyngweithiol hwn y gellir ei lawrlwytho yn rhoi mynediad i gynnwys llawn y Sylfaen Gwybodaeth a Sgiliau Proffesiynol cyfrwng Cymraeg at ddefnydd unigolion ac mae'n cynnwys cynllun asesu. Mae'r PDF rhyngweithiol hwn yn caniatáu i chi hunanasesu'ch sgiliau a’ch gwybodaeth yn ogystal â chofnodi sylwadau. Ar gael yn Saesneg hefyd. Mae telerau ac amodau defnydd unigol yn berthnasol (mae’r telerau ac amodau yn Saesneg yn unig*).
Sylfaen Gwybodaeth a Sgiliau Proffesiynol CILIP (PKSB) yw safon sgiliau'r sector ar gyfer proffesiynau sy’n ymwneud â gwybodaeth, llyfrgelloedd a data. Fe'i ddatblygwyd drwy ymgynghori â chyflogwyr, ymarferwyr, arbenigwyr sector a darparwyr dysgu. Mae'n cael ei gydnabod fel sylfaen dysgu a datblygu sgiliau ar gyfer y proffesiwn ac yn aml, bydd y gymuned yn cyfeirio ato fel y “PKSB”.
Mae'r Sylfaen Gwybodaeth a Sgiliau Proffesiynol yn amlinellu'r sbectrwm eang o wybodaeth a sgiliau sy'n ofynnol ar draws y proffesiwn. Gellir ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd gan unigolion a sefydliadau i ddatblygu sgiliau ar gyfer llwyddiant, fel offeryn hunanasesu ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) eich hun neu i ddangos eich gwerth i gyflogwyr. Gall cyflogwyr hefyd ei ddefnyddio fel fframwaith ar gyfer dadansoddi sgiliau, hyfforddi staff a datblygu.
|
Other Products of Interest |
|
|