This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
About Us | Contact Us | Print Page | Sign In | Join now
Green Libraries Wales
Group HomeGroup HomeGroup PagesDirectory & Features Join Group
CILIP Wales Logo  Eiriolaeth/Advocacy



Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru - Green Libraries Wales. Llun o mynyddoedd. Image of mountains.



Please scroll down for English

Mae prosiectau arloesol Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru a gyhoeddwyd gan CILIP Cymru Wales yn cynnwys tyfu bwyd mewn gofodau creu mewn llyfrgelloedd, hyfforddiant llythrennedd carbon staff, arddangosiadau planhigion gyda thema, a meithrin sgyrsiau cenedlaethol newydd am newid hinsawdd.

Sefydlwyd Cronfa Grantiau Bach Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru i sbarduno twf prosiectau yng Nghymru fel rhan o’r Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd (am fanylion, ewch i www.cilip.org.uk/GreenLibraries ). Nod y gronfa oedd cefnogi rhaglenni archwiliol ar raddfa fach, gweithgareddau a rhannu gwybodaeth o fewn llyfrgelloedd yng Nghymru i geisio gwella dealltwriaeth gyffredinol a chymryd camau i ddangos Cyfrifoldeb Amgylcheddol.

Gwnaeth y ceisiadau gymaint o argraff ar Banel Kathleen Cooks fel eu bod wedi cytuno i ariannu'r tri phrosiect yn llawn er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae CILIP Cymru wrth ei fodd yn rhoi gwybod i chi am y prosiectau hynod amrywiol hyn ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r proffesiwn ehangach ar eu heffaith hirdymor ar y sector yng Nghymru.

Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd – dyfarnwyd £2500

Cynyddu llythrennedd carbon staff a gwelededd prosiectau cynaliadwy

Mae prosiect Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd yn rhaglen mewn dwy ran. Bydd rhan gyntaf y prosiect yn cynyddu llythrennedd carbon ac ymwybyddiaeth hinsawdd ymhlith staff llyfrgelloedd trwy hyfforddiant llythrennedd carbon a ddarperir gan Cynnal Cymru. Ar ddechrau'r prosiect llunnir arolwg i fesur gwybodaeth staff y llyfrgell a'u hagweddau tuag at faterion amgylcheddol. Bydd tîm yr Eco-hyrwyddwyr yn defnyddio canlyniadau’r arolwg a’r hyfforddiant a dderbyniwyd i ddatblygu pecyn hyfforddi llythrennedd carbon pwrpasol ar gyfer holl staff y llyfrgell, gan fynd i’r afael yn benodol â bylchau mewn gwybodaeth a gafodd eu canfod yn yr arolwg.

Bydd ail ran y prosiect yn cynnwys adeiladu arddangosfeydd gyda thema o blanhigion yn y llyfrgelloedd. Bydd yr arddangosfeydd hyn yn ymgysylltu ag ymchwil gyfredol sy'n ymwneud â phynciau ecolegol, dinistr amgylcheddol, cynaliadwyedd a diwylliant. Bydd yr arddangosfeydd yn ddatganiad gweladwy o ddiddordeb staff y llyfrgell mewn ymgysylltu myfyrwyr â phynciau amgylcheddol a hyrwyddo ymchwil Prifysgol Caerdydd yn y maes hwn.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn her fawr sy’n wynebu cymdeithas heddiw. Bydd ein prosiect yn gam tuag at gefnogi cenhadaeth ddinesig sy'n cofleidio trawsnewidiad gwyrdd mewn cymdeithas. Bydd y prosiect yn rhoi cyfleoedd i staff ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn ymwneud â'r pynciau cynyddol bwysig hyn ac i rannu'r rhain gyda staff a myfyrwyr y brifysgol, a chyda'r proffesiwn llyfrgellyddol ehangach.


Llyfrgelloedd Bro Morgannwg - £1400

Lle i Dyfu

Bydd prosiect Lle i Dyfu yn addysgu defnyddwyr gwasanaeth a staff y llyfrgell am elfennau ymarferol a hwyliog o dyfu llysiau gwyrdd micro ac yn dod â phobl ynghyd mewn gweithdai creadigol i gefnogi meddwl cymunedol ac archwilio syniadau am faterion amgylcheddol.

Mae’r cylch tyfu cyflym a’r swm bach o le sydd ei angen yn golygu bod tyfu eich llysiau gwyrdd eich hun dan do gartref yn ateb cadarnhaol a maethlon i’r angen am ddarparu bwyd fforddiadwy. Dylai unrhyw un allu dod o hyd i le bach i ddechrau tyfu eu llysiau gwyrdd micro eu hunain.

Bydd y gweithdai'n dogfennu'r prosiect yn greadigol trwy bosteri, ffeithluniau a chynnwys digidol. Bydd Lle i Dyfu yn defnyddio ffotograffiaeth, a recordiadau sain a fideo i ddod o hyd i ffyrdd clir, dealladwy o gyfleu gwerthoedd maethol, technegau tyfu a manteision cynhyrchu bwyd lleol, cymunedol.

Bydd modd ailddefnyddio'r offer fferm microwyrdd ar gyfer gweithdai parhaus gan gynnal y cysylltiad rhwng themâu amgylcheddol a gweithgareddau llyfrgell yn y dyfodol. Bydd staff y llyfrgell a gwirfoddolwyr cymunedol yn defnyddio'r prosiect fel templed; mynd â gwybodaeth a ddysgwyd ac offer i safleoedd eraill fel gweithgareddau allgymorth i barhau i hyrwyddo ac ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae Llyfrgell Penarth yn llyfrgell ffyniannus yng nghanol y dref, gyda defnyddwyr a staff y llyfrgell ymroddedig. Rydym am ddefnyddio’r prosiect Lle i Dyfu hwn i wreiddio’r syniad o lyfrgelloedd fel safleoedd ar gyfer arloesi a syniadau cadarnhaol sy’n cyfrannu at fwy o ymwybyddiaeth gymdeithasol ac amgylcheddol.

Gwasanaeth Gwybodaeth a Llyfrgelloedd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llyfrgelloedd Gwynedd - £2,500

Gwirionedd Cyfleus

Bydd y prosiect hwn yn archwilio rôl llyfrgelloedd cyhoeddus wrth hwyluso mynediad y cyhoedd at wybodaeth ddibynadwy, awdurdodol, a diddorol am y pwnc hanfodol hwn, er mwyn helpu defnyddwyr i werthuso'n feirniadol wybodaeth sy'n gwrthdaro, ac yn ei dro, rhoi'r gallu i bobl weithredu.

Bydd y prosiect yn creu ac yn hyrwyddo casgliad o ddeunydd cyfoes, awdurdodol – gyda chyfran o’r deunydd hynny yn ymdrin yn benodol â’r cyd-destun Cymreig, gan gynnwys deunydd yn y Gymraeg – er mwyn hysbysu’r cyhoedd am yr agweddau niferus o’r argyfyngau natur a hinsawdd, byd natur a bioamrywiaeth, gan helpu i rymuso pobl i wneud newidiadau yn eu bywydau eu hunain.

Bydd y prosiect hefyd yn hyrwyddo’r casgliad llyfrgell sydd gan CNC fel adnodd dysgu gwerthfawr ar gyfer myfyrwyr, gwyddonwyr sy’n ddinasyddion ac eraill sydd â diddordeb byw yn y maes a’i nod yw hwyluso’r gwaith o greu grŵp darllen, neu grwpiau i gyfarfod mewn llyfrgelloedd cyhoeddus a llyfrgell CNC ym Maes y Ffynnon.

Mewn partneriaeth â Llyfrgelloedd Gwynedd bydd prosiect Gwirionedd Cyfleus yn hwyluso digwyddiadau mewn llyfrgelloedd cyhoeddus a gynhelir gan amrywiaeth o arbenigwyr, arbenigwyr lleol a grwpiau cymunedol i hwyluso trafodaeth fywiog, a rhoi llwyfan i wahanol safbwyntiau o fewn ffrâm tystiolaeth glir.

Bydd prosiect Gwirionedd Cyfleus yn creu cysylltiadau cryf rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a llyfrgelloedd cyhoeddus gogledd Cymru i greu llwyfan ar gyfer gwaith allgymorth CNC ac i gynnwys y cyhoedd mewn sgyrsiau. Yn yr un modd, bydd y prosiect yn hyrwyddo llyfrgelloedd cyhoeddus fel canolfannau cymunedol hanfodol a chanolfannau dysgu ar y cyd am yr argyfyngau natur a hinsawdd.



Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru - Green Libraries Wales. Llun o mynyddoedd. Image of mountains.

Ground breaking Green Libraries Wales projects announced by CILIP Cymru Wales include growing food in library makerspaces, staff carbon literacy training, themed plant displays, and nurturing new national conversations about climate change.

The Green Libraries Wales Small Grant Fund was sent up to seed fund projects in Wales as part of the Green Libraries Partnership (for details, visit www.cilip.org.uk/GreenLibraries ). The fund aimed to support small-scale exploratory programmes, activities and knowledge-sharing within libraries in Wales seeking to improve overall understanding and take actions to demonstrate Environmental Responsibility.

The Kathleen Cooks Panel were so impressed by the applications that they agreed to fund the three projects in full to ensure success. CILIP Cymru Wales is thrilled to tell you about these incredibly diverse projects and looks forward to engaging with the wider profession on long term impact for the sector in Wales.

Cardiff University Library Service – awarded £2500

Increasing staff carbon-literacy and sustainable project visibility

Cardiff’s University Library Service’s project is a two-part programme. The first part of the project will increase carbon literacy and climate awareness among library staff through carbon-literacy training delivered by Cynnal Cymru. At the project outset a survey gauging library staff knowledge and attitudes towards environmental issues will be designed. The Eco-champion team will use the survey results and the training received to develop a bespoke carbon-literacy training package for all library staff, specifically addressing gaps in knowledge identified through the survey.

The second part of the project will involve building themed displays of plants in the libraries. These displays will engage with current research related to topics of ecology, environmental destruction, sustainability, and culture. The displays will be a visible statement of library staff interest in engaging students with environmental topics and promoting Cardiff University research in this field.

The climate crisis is a major challenge facing society today. Our project will be a step towards supporting a civic mission which embraces a green transition in society. Our project will provide staff with opportunities to develop skills and knowledge related to these increasingly important topics and to share these with university staff and students, and with the wider library profession.

Vale of Glamorgan Libraries - £1400

Lle i Dyfu - Space to Grow

The Lle I Dyfu project will educate service users and library staff about the practical and fun elements of microgreens and bring people together in creative workshops to support community thinking and explore ideas around environmental issues.

The project revolves around a tabletop microgreens farm set up in Penarth Library. Free arts workshops themed around sustainable food production will engage participants with the benefits of microgreens and with the idea of growing their own nutritious food.

The workshops will creatively document the project via posters, infographics and digital content and at the end of the sessions, participants will be offered free microgreen kits for use in homes and be encouraged to share photo and video diaries of their own home-grown projects.

The microgreens farm equipment will be reusable for ongoing workshops maintaining the link between environmental themes and future library activities. Library staff and community volunteers will use the project as a template; taking knowledge learnt and equipment to other sites as outreach activities to continue promotion and awareness of environmental sustainability.

Penarth Library is a thriving library at the heart of the town, with committed and engaged library users and staff. The Lle i Dyfu project will promote the notion of libraries as sites for innovation and positive ideas that contribute to increased social and environmental awareness.

Natural Resources Wales Information and Library Service & Gwynedd Libraries - £2,500

Convenient Truth

This project will explore the role of public libraries in facilitating public access to reliable, authoritative, and engaging information about this crucial subject, to help them to critically evaluate conflicting information as they encounter it, and in turn, give people agency to take action.

The project will create and promote a collection of contemporary, authoritative material – with a proportion specific to the Welsh context, including material in the Welsh language – to inform the public about the many aspects of the nature and climate emergencies, natural history and biodiversity and to help empower people to make changes in their own lives.

The project will also promote the library collection held by NRW as a valuable learning resource for students, citizen scientists and other enthusiasts and aims to facilitate the creation of a reading group, or groups, to meet at public libraries and NRW’s library at Maes y Ffynnon.

In partnership with Gwynedd Libraries the Convenient Truth project will facilitate events in public libraries hosted by a variety of specialists, local experts and community groups to facilitate vibrant discussion, and a platform for different perspectives within a clear evidence framing.

The Convenient Truth project will create strong links between Natural Resources Wales (NRW) and public libraries in North Wales to create a platform for NRW’s outreach work and to engage the public in conversations. Equally, the project will promote public libraries as vital community hubs and centres of shared learning about the nature and climate emergencies.