This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
About Us | Contact Us | Print Page | Sign In | Join now
Anti racist library collections - steering group
Group HomeGroup HomeGroup PagesDirectory & Features Join Group
CILIP Wales Logo  Eiriolaeth/Advocacy

lluniau gan/images by More than Minutes

Grŵp Llywio'r Prosiect

Mae datblygu’r prosiect ymchwil drwy gynhyrchu ar y cyd gyda’r Grŵp Llywio - sy’n cynnwys staff o bob rhan o Gymru - wedi ein helpu i ymgysylltu’n llwyddiannus â llyfrgellwyr sy’n aml yn rhy brysur neu’n rhy anghysbell yn ddaearyddol i gael eu cynnwys mewn cynllunio a thrafodaeth broffesiynol. Wrth i ddatblygu'r hyfforddiant fynd rhagddo, bydd y Grŵp Llywio yn gallu gweld eu casgliadau amrywiol fel arfau cymunedol pwerus ar gyfer ymgysylltu unigol a chymunedol ac ar gyfer cyd-gynhyrchu naratifau hanesyddol newydd.

Aelodau’r Grŵp Llywio:

  • Gabrielle Jenkins, Cyngor Abertawe
  • Sharon Pritchard, Cyngor Sir Ddinbych
  • Nia Gruffydd, Cyngor Gwynedd
  • Anthony Sprouse, Llyfrgelloedd Blaenau Gwent (Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin)
  • Nicola James, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
  • Cal Burns, AYmddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
  • Laurence E. Batten, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cheryl Hesketh, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Sarah Mears, Libraries Connected
  • Amy Staniforth, CILIP
  • Yvonne Morris, CILIP
  • , Coleg Milton Keynes yn y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM - CEM Aylesbury
  • Anoush Simon, Prifysgol Aberystwyth

Gweithgareddau Grŵp Llywio:

  • Cefnogi'r ymgynghorwyr ymchwil
  • Trosolwg o'r prosiect
  • Cyfraniad o safbwynt proffesiynol
  • Adborth ar allbynnau Cam 1
  • Lledaenu allbynnau

Yn ogystal â bwydo i mewn i’r modelau hyfforddi ac ymchwil cynnwys, ymgymerodd y Grŵp Llywio â hyfforddiant ar-lein pwrpasol gan Marian Gwyn. Aeth yr hyfforddiant, 'Cefnogi Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru mewn llyfrgelloedd yng Nghymru', â ni drwy hanes y fasnach gaethweision ar draws Môr yr Iwerydd a'i chysylltiadau â Chymru, gan ysgogi sgyrsiau am wrth-hiliaeth a chymunedau a chasgliadau llyfrgell. Disgrifiwyd yr hyfforddiant gan un cyfranogwr fel rhywbeth “gwirioneddol werthfawr, ac yn gwbl addas ac ymarferol i lyfrgelloedd”.

Yn ogystal, trefnwyd cyfarfod Grŵp Llywio wyneb yn wyneb ym Mae Colwyn lle roeddem yn gallu arbrofi gyda'r syniadau a'r arferion gorau y byddem yn awr yn disgwyl i'r hyfforddiant a gomisiynwyd gennym i'w ddatblygu. Drwy ymgysylltu â grwpiau a sefydliadau lleol, a chyrff strategol cenedlaethol yng Nghymru, cawsom i gyd ymdeimlad o'r dulliau a'r cydweithio gwrth-hiliol posibl y gall llyfrgelloedd eu gwneud.