This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
Llyfrgelloedd amgylcheddol gynaliadwy: mentrau cynaliadwyedd CILIP - Kate Robinson
Eisiau gwella arferion amgylcheddol cynaliadwy eich llyfrgell? Yn yr anerchiad agoriadol hwn, bydd Llywydd CILIP Kate Robinson yn archwilio’r rhan ganolog y mae llyfrgellwyr a gweithwyr proffesiynol gwybodaeth yn ei chwarae wrth
helpu eu sefydliadau a’u defnyddwyr i weithio tuag at gymdeithas fwy cynaliadwy. Bydd Kate yn rhannu uchafbwyntiau mentrau cynaliadwyedd CILIP gan gynnwys y Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd newydd.
Environmentally sustainable libraries: CILIP's sustainability initiatives - Kate Robinson
Looking to improve your library’s sustainable environmental practices? In this opening address, CILIP President Kate Robinson explores the central role that librarians and information professionals play in helping their organisations
and users work towards a more sustainable society. Kate shares highlights of CILIP’s sustainability initiatives including the new Green Libraries Partnership.
Yn y cyweirnod hwn mae Durre yn sôn am ei gwaith yn ymgysylltu â chymunedau a dangynrychiolir yn hanesyddol, ei hymchwil ar fenywod o liw a natur, a’i phrosiect Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol – cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau
Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd darlleniad o’i gwaith hefyd – ac yna sesiwn holi-ac-ateb.
Sustaining connections - Durre Shahwar
In this keynote Durre talks about her work engaging with historically underrepresented communities, her research on women of colour and nature, and her Future Wales Fellowship project – a collaboration between Arts Council Wales
and Natural Resources Wales. There will also be a reading of her work – followed by Q&A.
Agor y Drysau: Yr Alban yn symud Ymlaen mewn cydweithrediad - Martina McChrystal
Mae Prifysgol Glasgow, un o'r llyfrgelloedd prifysgol hynaf a mwyaf yn Ewrop, yn dal ystod eang o gasgliadau unigryw ac o bwysigrwydd rhyngwladol. Bydd Martina yn disgrifio tirlun ariannu’r Alban sy’n galluogi cydweithio rhwng
llyfrgelloedd ar draws sectorau, y datblygiadau arloesol o ran gwasanaethau hybrid y mae ei chydweithwyr yn Glasgow wedi’u rhoi ar waith ac yn archwilio rhai prosiectau cydweithredol diweddar ar draws yr Alban y maent wedi
cymryd rhan ynddynt.
Opening the Doors: Scotland moving Forward in collaboration - Martina McChrystal
The University of Glasgow, one of the oldest and largest university libraries in Europe, holds an extensive range of unique and internationally significant collections. Martina describes the Scottish funding landscape that enables
cross sectoral library collaboration, the hybrid service innovations that her colleagues at Glasgow have implemented and explores some recent Scotland-wide collaborative projects they have participated in.
Yn yr Alban mae dros 30 o sefydliadau amgylcheddol, treftadaeth a diwylliannol wedi cydweithio i greu canolfannau Bannau Hinsawdd. Yn y sesiwn hon bydd Llyfrgelloedd Ynysoedd y Gorllewin yn rhannu eu stori wrth ymgysylltu â chymunedau
i ystyried effaith heriau hinsawdd.
Climate Beacons in Scotland - Kathleen Milne
In Scotland over 30 environmental, heritage and cultural organisations have collaborated to create Climate Beacon hubs. In this session Western Isles Libraries share the story of their role in engaging communities to consider the
impact of climate challenges.
Ein lle mewn sefydliad sy’n gofalu am adnoddau naturiol Cymru - Kester Savage a Joanne Hindes
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgorffori egwyddorion cynaliadwy yn ei holl waith. Yn y sesiwn hon byddwn yn dysgu sut y mae gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yn cyd-fynd â nodau cynaliadwyedd ehangach y sefydliad a'r heriau a wynebir
wrth roi cynaliadwyedd ar flaen ac ynghanol eu gwaith.
Our place in an organisation that cares for the natural resources of Wales - Kester Savage and Joanne Hindes
Natural Resources Wales has embedded sustainable principles in all its work. In this session we learn how library and information services fit into the wider sustainability goals of the organisation and the challenges faced in putting
sustainability in front and centre of their work.
Tuag at Lyfrgell werdd: ymateb y Llyfrgell Brydeinig i newid hinsawdd - Blerina Hashani
Mae'r Llyfrgell Brydeinig wedi bod yn gweithio tuag at ddyfodol hinsawdd mwy disglair ers dros ddegawd. Yn y sesiwn hon cawn hanes taith y Llyfrgell tuag at ddatgarboneiddio a’u rôl fel partner sefydlu’r Bartneriaeth Llyfrgelloedd
Gwyrdd.
Towards a green Library: the British library’s response to climate change - Blerina Hashani
The British Library has been working towards a brighter climate future for over a decade. In this session we hear the story of the Library’s journey towards decarbonisation and their role as a founding partner of the Green Libraries
Partnership.
Cael effaith – datrysiadau storio oddi ar y safle ym Mhrifysgol Bangor (prosiect CAIA) - Marjan Baas-Harmsma, Christine Brennan
Cael effaith trwy wneud y mwyaf o’r gofod sydd ar gael: Sut i gadw golwg ar ddeunydd print mewn cyfleuster storio oddi ar y safle. Mae'r tri llyfrgell campws ym Mhrifysgol Bangor yn uno i greu un llyfrgell. Mae llawer o'r stoc print
yn cael ei symud i uned storio oddi ar y safle er mwyn delio â phroblemau gofod, cadw eitemau unigryw a diogelu casgliadau o ddiddordeb arbennig. Yn hytrach na defnyddio system ddosbarthu gonfensiynol, mae Prifysgol Bangor yn defnyddio
meddalwedd a datrysiadau Caia, datrysiad storio modern sy'n rhoi addewid 100% y gellir dod o hyd i ddeunydd a gwneud y mwyaf o'r gofod sydd ar gael.
Making an impact by optimising space: How to keep track of print material in an offsite storage facility (the CAIA project) - Marjan Baas-Harmsma, Christine Brennan
The three campus libraries at Bangor University are merging into a single library. Much of the print stock is being relegated to an offsite storage unit to deal with space issues, preserve unique items and safeguard collections of
special interest. Instead of using a conventional classification system, Bangor University uses Caia software and solutions, a modern storage solution that promises 100% discoverability and optimisation of available space.
Gweithdy - Owain Rhys Roberts: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yn ddiweddar mae llesiant a thraweffaith wedi dod yn dermau cyfarwydd iawn. Ers 2015 mae Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn rhoi dyletswydd ar nifer o gyrff cyhoeddus i ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy. Y bwriad yw gwella
llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno sut mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi mynd at i weithredu yn y modd hwn ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr i adlewyrchu ar y modd
y mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol i’w cyd-destun hwythau.
Everything about well-being - Owain Rhys Roberts: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Well-being and impact have become very familiar terms in recent times. Since 2015 many public bodies in Wales have a duty under the Well-being of Future Generations (Wales) Act to carry out sustainable development. This is about improving
the way that we can achieve our economic, social, environmental and cultural well-being. This workshop presents how this has been considered and applied at The National Library of Wales and gives participants the opportunity to
reflect and consider how this can be applied to their own context.
Sgiliau chwilio lefel uchel - Katrina Hall a Nia Morris
Mae chwilio lefel uchel am adnoddau meddygol ac iechyd yn sgil allweddol i Lyfrgellwyr GIG Cymru. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella sgiliau a gwasanaethau chwilio am lenyddiaeth i sicrhau safoni
ac ansawdd ar draws y sefydliad, a chanlyniad hynny drwy sefydlu tîm bach o chwilwyr arbenigol i gefnogi gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
High level search skills - Katrina Hall and Nia Morris
High level searching of medical and health related resources is a key skill for NHS Wales Librarians. In this session, we explore the work being done to improve literature searching skills and services to ensure standardisation and
quality across the organisation, and the resulting formation of a small team of expert searchers supporting the work of Health Education & Improvement Wales.
Dathlu ein daucanmlwyddiant gyda phrosiectau cynaliadwy a chydweithredol - Alison Harding
Sefydlwyd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1822. Fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant cychwynnodd Archifau’r Sefydliad ar nifer o brosiectau cynaliadwy a chydweithredol i amlygu’r casgliadau, yn ogystal ag archwilio ymhellach
yr unigolion a’r grwpiau hynny a chwaraeodd ran allweddol yn stori’r Sefydliad. Bydd y cyflwyniad yn archwilio'r prosiectau hyn a'r partneriaethau a ddatblygwyd drwy'r gwaith hwn.
Celebrating the story of where higher education began in Wales - Alison Harding
St David’s College, Lampeter was established in 1822. As part of the bicentenary celebrations the Special Collections and Archives embarked on several sustainable and collaborative projects to both highlight the collections, as well
as explore further those individuals and groups who played key parts in the narrative of the Institution. This presentation will explore these projects and the partnerships developed through this work.
Ailddyfeisio gwasanaethau ar-lein i bontio'r bwlch digidol - Ian Rennie a Ceri Powell
Yn ystod y cyfnod cloi, sefydlodd Gwasanaeth Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu Grŵp Llandrillo Menai dîm technoleg llyfrgell i gefnogi dysgwyr a staff. Creodd y tîm safle sgiliau astudio dwyieithog, canllawiau pwnc ar-lein a chydlynu prosiect
i gyflenwi dros fil o ddyfeisiau i fyfyrwyr i hwyluso dysgu gartref. Enillodd y fenter arian yng Ngwobrau Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru yn 2021.
Reinventing online services to bridge the digital divide - Ian Rennie and Ceri Powell
During lockdown the Library and Learning Technology Service at Grŵp Llandrillo Menai established a library technology team to support both learners and staff. The team created a bilingual study skills site, online subject guides and
coordinated a project to supply over a thousand devices to students to facilitate learning from home. The initiative won silver in the Welsh Library Team of the Year Awards in 2021.
Mae llawer o’r straeon a’r astudiaethau achos a rannwyd yn y gynhadledd hon yn amlygu pa mor bwysig yw’r grefft o gydweithio i yrru prosiectau a mentrau llwyddiannus. Yn y gweithdy hwn, bydd Mystery Beck yn archwilio’r grefft o gydweithio,
gan fynd i’r afael â’r cwestiynau allweddol y mae angen inni eu hystyried er mwyn cydweithio'n effeithiol.
The art of collaboration - Mystery Beck
Many of the stories and case studies shared at this conference highlight just how important the art of collaboration is to ensuring successful projects and initiatives. In this workshop, Mystery Beck explores the art of collaboration,
addressing the key questions we need to consider in order to collaborate effectively.