This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
About Us | Contact Us | Print Page | Sign In | Join now
Anti racist library collection - case study
Group HomeGroup HomeGroup PagesDirectory & Features Join Group
CILIP Wales Logo  Eiriolaeth/Advocacy

lluniau gan/images by More than Minutes

Astudiaeth Achos

Cyfarfod Grŵp Llywio Bae Colwyn 21 Mawrth 2023

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i’r Grŵp Llywio sy’n ddaearyddol wasgaredig i gyfarfod yn bersonol ar ôl cynnal amryw o gyfarfodydd ar-lein a’r nod oedd meithrin hyder a chynnal perthnasoedd ar draws 3 cham y prosiect.

Defnyddiwyd prosiect The Fish Princess / Y Bysgodes a'r llyfr arfaethedig fel canolbwynt ar gyfer trafod cyfleoedd i ymgysylltu defnyddwyr newydd y llyfrgell â chasgliadau. Gwahoddwyd a thalwyd dau ymgynghorydd prosiect - o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Pontio - i siarad â ni am eu profiadau o'r prosiect a'r llyfr. Yn ogystal, gwahoddwyd Cyngor Llyfrau Cymru oedd wedi noddi’r prosiect, i siarad am eu gwaith Cynulleidfaoedd Newydd.

Roedd lleoliad y cyfarfod - Oriel Colwyn a oedd yn cynnal arddangosfa: Cartref: Mewn Tir Arall - Glenn Edwards (+Vanley Burke) - yn rhoi teimlad perthnasol ac ymdeimlad o bwysigrwydd cyfoes i’r drafodaeth wrth-hiliaeth ac roedd yn enghraifft dda o gydweithio â rhanddeiliaid lleol.

Comisiyniwyd Visual Minutetakers a ddarparodd destun trafod (a chofnodion, wrth reswm!) ond hefyd ymdeimlad o bwrpas ar y diwrnod - gan danlinellu bod yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn gwarantu gofal a chynhaliaeth - a byddwn yn gallu rhannu'r delweddau hardd hyn trwy’r prosiect a thu hwnt (gweler delweddau baneri tudalen we y prosiect).

I lawer ohonom, clywed gan Marie-Pascale, a siaradodd am ei phrofiad ar y prosiect fel ymgynghorydd hyfforddedig yn ogystal â phrofiad aelod o'r teulu, oedd y tro cyntaf i ni wahodd siaradwr i siarad â staff y llyfrgell am eu profiadau bywyd. Roedd Marie-Pascale yn hael iawn gyda’i hamser ac roedd yn gynnes, yn ddoniol, ac yn gyfforddus mewn ystafell yn llawn llyfrgellwyr (!), gan ein helpu i ddatblygu syniadau a strategaethau. Rhoddodd Manon, o Pontio, gefndir prosiect i ni ar gyfer Y Bysgodes a phrosiectau eraill Pontio, gyda llawer ohonynt yn arwain at lyfrau y gallwn eu defnyddio yn strategol mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn ein hymagweddau gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth ehangach o gasgliadau llyfrgelloedd. Trwy ddefnyddio’r llyfrau i ymgysylltu cymunedau â gyda gofodau ac arferion llyfrgell gallwn dynnu sylw at adnoddau eraill a theithiau posibl trwy ein casgliadau llyfrgelloedd cyhoeddus.

Roedd clywed am waith Cyngor Llyfrau Cymru wedyn yn dangos sut y gallwn gydweithio ar lefel genedlaethol os ydym yn gydlynus ac adnabod ffynonellau ariannu ar gyfer gwaith sy’n dechrau gydag awduraeth ond sy’n parhau ymhell ar ôl ei gyhoeddi, o fewn casgliadau llyfrgell deinamig.

Roedd y sesiwn olaf yn cynnwys rhannu yn Grwpiau ac adborth a thrafodaeth ar y cwestiwn:

Sut gallai archebu prosiectau fel The Fish Princess/Y Bysgodes helpu llyfrgelloedd cyhoeddus i ddatblygu arferion gwrth-hiliaeth?

  • Grŵp 1: archebu, dadansoddi casglu ac adnabod bylchau yn y stoc
    Awgrymodd y grŵp hwn y dylid datblygu rhestrau o gyflenwyr arbenigol, cydweithio (ar draws awdurdodau) ar ddadansoddi casgliadau (drwy’r LMS), mynd i’r afael â phroblem wirioneddol toriadau i gyllidebau llyfrau, ac adnabod cyfleoedd i gydweithio â sefydliadau fel CLlC ar brosiectau tebyg i Darllen yn Well. Buom yn trafod ystadegau a’r pwysau o wario arian ar adnoddau wrth feddwl am gyfri benthyciadau fesul eitem a gofyn, “sut gallwn fesur effaith prynu llyfr y gellir ei fenthyg unwaith yn unig, ond sy’n drawsnewidiol i’r unigolyn hwnnw?”

  • Grŵp 2: 'silffoedd' ffisegol ac ar-lein ac arddangosiadau
    Bu’r grŵp hwn yn sôn am fanteision symud stoc yn rheolaidd, defnyddio ‘categorïau’ yn yr LMS i amlygu llyfrau ledled Cymru, ac am y prosiect “Edrych i mewn - Edrych allan” y mae Llyfrgell Conwy yn ei dreialu (edrychwyd ar lyfrau a nodwyd fel rhai sy’n berthnasol i’r isadran hon o'r llyfrgell). Trafodwyd yr angen i gymryd rheolaeth dechnegol dros systemau llyfrgell fel y gallwn symud yn gyflym fel hyn pan ddaw anghenion newydd neu fylchau i'r amlwg.

  • Grŵp 3: ymgysylltu â'r gymuned o amgylch stoc
    Edrychodd y grŵp hwn ar adrodd straeon - yn amrywio o ymgysylltu â neiniau a theidiau (yn ôl awgrym Marie-Pascale) i ddefnyddio cyfryngau Rhithwir (VR) i ailadrodd straeon hen a newydd i gynulleidfaoedd sy'n newydd i lyfrgelloedd. Siaradwyd am ba mor anaml yr ydym yn darllen i oedolion ifanc ac oedolion, ac am fynd â llyfrau adref ar ôl eu profi trwy gyfryngau Rhithwir yn y llyfrgell.


Roedd yn wych bod y siaradwyr wedi dewis aros ar gyfer y gwaith grŵp oherwydd ar y naill law gallent synhwyro y gallai gweithio gyda llyfrgelloedd cyhoeddus fod o fudd iddynt, ac ar y llaw arall, cafodd llyfrgellwyr weld sut i ymgysylltu â chymunedau hen a newydd, yn ogystal ag ymgysylltu â phartneriaid mewn ffyrdd newydd, ac adfywio ein dulliau gweithredu.

Yn y pen draw, roedd y diwrnod yn llawer mwy na 'chyfarfod'. Roedd yn enghraifft o sut - o gael amser a lle i hyfforddi gyda'i gilydd - y mae llyfrgellwyr cyhoeddus mewn sefyllfa dda i adolygu arferion a gwasanaethau llyfrgelloedd ac i ddatblygu ymagwedd gwrth-hiliaeth broffesiynol ac arloesol.

Mae olion pwysig o'r profiadau a'r ffyrdd hyn o weithio i'w gweld yn adroddiadau'r prosiect a'r ffeithluniau a bydd y prosiect yn parhau i gael ei lunio gan ymagwedd hygyrch ond proffesiynol tebyg.



This event was an opportunity for the geographically disparate Steering Group to meet in person after many online meetings and the aim was to build confidence and relationships to be sustained across the 3 phases of the project.

We used The Fish Princess project and forthcoming book as a focal point for discussing opportunities for engaging new library users with collections. We invited and paid two project consultants - from the North Wales African Society and Pontio - to talk to us about their experiences of the project and the book. We also invited Books Council Wales (BCW), who sponsored the project, to talk about their New Audiences work.

The venue for the meeting - Oriel Conwy gallery which was hosting: Home: In Another Land – Glenn Edwards (+Vanley Burke) - leant a relevant and urgent feeling to the anti-racist discussion and was a good example of collaborating with local stakeholders.

We commissioned Visual Minute takers who provided both a talking point (and minutes, obviously!) but also a sense of purpose on the day – underlining that what we were doing warranted care and sustenance – and we will be able to share these beautiful images through-out and beyond the project (see our project webpage banner images).

Hearing from Marie-Pascale, who talked about her experience on the project as a trained consultant as well as family member, was for many of us the first time we’d invited a speaker to talk to library staff about their lived experiences. Marie-Pascale was very generous with her time and was warm, funny, and once comfortable in a room full of librarians (!) was able to help us develop ideas and strategies. Manon, from Pontio, gave us project background for The Fish Princess and other Pontio projects, many of which culminate in books that public libraries that we can use strategically in our anti-racist and broader diversity approaches to library collections. By using the books to engage communities with library spaces and practices we can highlight other resources and potential journeys through our public library collections.

Hearing about Books Council Wales’ work then illustrated how we can work together at a national level if we are joined up and pinpoint areas of funding for work that starts with authorship but continues long after publication, within dynamic library collections.

The final session involved Break Out Groups and feedback and discussion on the question:

It was great that the speakers chose to stay for the break out group work because on the one hand they could sense that working with public libraries could be beneficial to them, and on the other, librarians got to see how engaging with new communities and old partners in new ways, could rejuvenate our approaches.

Ultimately, the day ended up being much more than a ‘meeting’. It was an example of how - given some time and space for training together - public librarians are well placed to review library practices and services and to develop professional and innovative anti-racist approaches.

Important traces of these experiences and ways of working can be found in the project reports and infographics and the project will continue to be shaped by a similarly accessible yet professional approach.