
Please scroll down for English
Mae prosiectau arloesol Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru a gyhoeddwyd gan CILIP Cymru Wales yn cynnwys tyfu bwyd mewn gofodau creu mewn llyfrgelloedd, hyfforddiant llythrennedd carbon staff, arddangosiadau planhigion gyda thema, a meithrin sgyrsiau
cenedlaethol newydd am newid hinsawdd.
Sefydlwyd Cronfa Grantiau Bach Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru i sbarduno twf prosiectau yng Nghymru fel rhan o’r Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd (am fanylion, ewch i www.cilip.org.uk/GreenLibraries ).
Nod y gronfa oedd cefnogi rhaglenni archwiliol ar raddfa fach, gweithgareddau a rhannu gwybodaeth o fewn llyfrgelloedd yng Nghymru i geisio gwella dealltwriaeth gyffredinol a chymryd camau i ddangos Cyfrifoldeb Amgylcheddol.
Gwnaeth y ceisiadau gymaint o argraff ar Banel Kathleen Cooks fel eu bod wedi cytuno i ariannu'r tri phrosiect yn llawn er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae CILIP Cymru wrth ei fodd yn rhoi gwybod i chi am y prosiectau hynod amrywiol hyn ac yn edrych
ymlaen at ymgysylltu â’r proffesiwn ehangach ar eu heffaith hirdymor ar y sector yng Nghymru.
Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd – dyfarnwyd £2500
Cynyddu llythrennedd carbon staff a gwelededd prosiectau cynaliadwy
Mae prosiect Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd yn rhaglen mewn dwy ran. Bydd rhan gyntaf y prosiect yn cynyddu llythrennedd carbon ac ymwybyddiaeth hinsawdd ymhlith staff llyfrgelloedd trwy hyfforddiant llythrennedd carbon a ddarperir gan
Cynnal Cymru. Ar ddechrau'r prosiect llunnir arolwg i fesur gwybodaeth staff y llyfrgell a'u hagweddau tuag at faterion amgylcheddol. Bydd tîm yr Eco-hyrwyddwyr yn defnyddio canlyniadau’r arolwg a’r hyfforddiant a dderbyniwyd i ddatblygu pecyn
hyfforddi llythrennedd carbon pwrpasol ar gyfer holl staff y llyfrgell, gan fynd i’r afael yn benodol â bylchau mewn gwybodaeth a gafodd eu canfod yn yr arolwg.
Bydd ail ran y prosiect yn cynnwys adeiladu arddangosfeydd gyda thema o blanhigion yn y llyfrgelloedd. Bydd yr arddangosfeydd hyn yn ymgysylltu ag ymchwil gyfredol sy'n ymwneud â phynciau ecolegol, dinistr amgylcheddol, cynaliadwyedd a diwylliant.
Bydd yr arddangosfeydd yn ddatganiad gweladwy o ddiddordeb staff y llyfrgell mewn ymgysylltu myfyrwyr â phynciau amgylcheddol a hyrwyddo ymchwil Prifysgol Caerdydd yn y maes hwn.
Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu bod planhigion gwyrdd gweladwy mewn mannau dan do fel swyddfeydd ac ystafelloedd dosbarth yn gwella ansawdd aer, yn lleihau gorbryder a straen, ac yn gwella’r gallu i ganolbwyntio. Yn ogystal â bod yn
adnodd addysgol, bydd yr arddangosfeydd planhigion o fudd i les staff a myfyrwyr.
Nod y prosiect yw ysgogi mwy o ddiddordeb mewn ymdrechion cynaliadwy (o ailgylchu i brosiectau mwy fel adeiladu llyfrgell werdd newydd) trwy gynyddu ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr. Bydd y prosiect yn annog cynaliadwyedd fel agwedd gyffredinol
o fewn diwylliant y gwasanaeth llyfrgell ac yn asesu ac yn mynd i'r afael â heriau i gynnwys staff mewn prosiectau cynaliadwy.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn her fawr sy’n wynebu cymdeithas heddiw. Bydd ein prosiect yn gam tuag at gefnogi cenhadaeth ddinesig sy'n cofleidio trawsnewidiad gwyrdd mewn cymdeithas. Bydd y prosiect yn rhoi cyfleoedd i staff ddatblygu sgiliau a
gwybodaeth yn ymwneud â'r pynciau cynyddol bwysig hyn ac i rannu'r rhain gyda staff a myfyrwyr y brifysgol, a chyda'r proffesiwn llyfrgellyddol ehangach.

Ground breaking Green Libraries Wales projects announced by CILIP Cymru Wales include growing food in library makerspaces, staff carbon literacy training, themed plant displays, and nurturing new national conversations about climate change.
The Green Libraries Wales Small Grant Fund was sent up to seed fund projects in Wales as part of the Green Libraries Partnership (for details, visit www.cilip.org.uk/GreenLibraries ). The fund aimed
to support small-scale exploratory programmes, activities and knowledge-sharing within libraries in Wales seeking to improve overall understanding and take actions to demonstrate Environmental Responsibility.
The Kathleen Cooks Panel were so impressed by the applications that they agreed to fund the three projects in full to ensure success. CILIP Cymru Wales is thrilled to tell you about these incredibly diverse projects and looks forward to engaging
with the wider profession on long term impact for the sector in Wales.
Cardiff University Library Service – awarded £2500
Increasing staff carbon-literacy and sustainable project visibility
Cardiff’s University Library Service’s project is a two-part programme. The first part of the project will increase carbon literacy and climate awareness among library staff through carbon-literacy training delivered by Cynnal Cymru. At the project
outset a survey gauging library staff knowledge and attitudes towards environmental issues will be designed. The Eco-champion team will use the survey results and the training received to develop a bespoke carbon-literacy training package
for all library staff, specifically addressing gaps in knowledge identified through the survey.
The second part of the project will involve building themed displays of plants in the libraries. These displays will engage with current research related to topics of ecology, environmental destruction, sustainability, and culture. The displays
will be a visible statement of library staff interest in engaging students with environmental topics and promoting Cardiff University research in this field.
A growing body of evidence suggests that visible greenery in indoor spaces such as offices and classrooms improves air quality, deceases anxiety and stress, and improves concentration. As well as being an educational resource, the plant displays
will benefit the wellbeing of staff and students.
The project aims to stimulate greater interest in sustainable efforts (from recycling to larger projects like a new green library build) by increasing staff and student awareness. The project will encourage sustainability as an overall attitude
within the culture of the library service and assess and address challenges to engaging staff in sustainable projects.
The climate crisis is a major challenge facing society today. Our project will be a step towards supporting a civic mission which embraces a green transition in society. Our project will provide staff with opportunities to develop skills and knowledge
related to these increasingly important topics and to share these with university staff and students, and with the wider library profession.