About Us | Contact Us | Print Page | Sign In | Join now
Library Team of the Year 2022
Group HomeGroup HomeGroup PagesDirectory & Features Join Group
CILIP Wales Logo  CILIP Cymru Wales Awards



Please scroll down for English

Enwi enillwyr Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru ar gyfer 2022

Mae CILIP Cymru Wales yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru 2022: Grŵp hyfforddi, Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru/e-lyfrgell GIG Cymru. Gwnaeth Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru, y cyhoeddiad yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CILIP Cymru Wales ac achlysur gwobrwyo Tîm y Flwyddyn ar ddydd Iau 10 Tachwedd 2022. Dyfarnwyd yr ail safle i dîm Ymgysylltu Academaidd Prifysgol Aberystwyth.

Bod yn ystwyth yn llyfrgelloedd y GIG ledled Cymru

Grŵp hyfforddi, Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru/e-lyfrgell GIG Cymru, a enwebwyd gan Susan Prosser, yw enillydd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru 2022. Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru (NHS WLKS) yn rhwydwaith o 24 o lyfrgelloedd wedi'u lleoli mewn ysbytai ledled Cymru sy'n gwasanaethu pob disgyblaeth a sector iechyd.

Fel llawer o bobl, mae staff llyfrgelloedd GIG Cymru wedi bod yn gweithio dan amodau anodd yn ystod pandemig COVID-19. Roedd angen cyfleoedd hyfforddi mwy hyblyg ar lawer o staff gofal iechyd gan nad oeddent yn gallu gadael eu gweithleoedd. Ymatebodd Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru (NHS WLKS) i’r her gan ddatblygu rhaglen hyfforddi genedlaethol o bell newydd ar gyfer eu defnyddwyr amrywiol. Gyda'i hagwedd hyblyg yn cydnabod bod yn rhaid i glinigwyr ganfod lle ar gyfer yr hyfforddiant yn eu hamserlen feichus, cafodd y rhaglen hyfforddi lefel uchel o ganmoliaeth ac adborth gan y rhai a’i mynychodd.

Dyfyniad gan arweinydd y prosiect neu Susan Prosser: Rwy’n falch iawn o glywed bod y cydweithio rhwng Llyfrgelloedd GIG Cymru a’r e-lyfrgell wedi’i gydnabod gyda’r wobr hon am eu rhaglen arloesol o hyfforddiant byw a ddarparwyd i staff y GIG ledled Cymru. Gweithiodd y tîm yn hynod o galed i sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno ac roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol. Mae'r wobr yn hwb mawr i forâl!

Cyflwynwyd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru gan Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Niwrnod Agored a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CILIP Cymru Wales ar ddydd Iau 10 Tachwedd 2022 oedd yn dathlu llwyddiannau proffesiynol eithriadol gan dimau sy’n gweithio o fewn gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yng Nghymru.

Fel cyflwynydd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru , dywedodd Jason: “ “Roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad i gyhoeddi enillwyr Gwobrau Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i holl staff y llyfrgell sy'n gweithio'n hynod o galed i ddarparu gwasanaethau gwych i unigolion a chymunedau. Rwy'n gweld yr ymroddiad hwn drosof fy hun yn fy llyfrgell leol a gwn ei fod hynny’n cael ei ailadrodd ledled y wlad.

Mae’r rhaglen hyfforddi a ddarperir gan Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru yn enghraifft wych o sut mae llyfrgellwyr yn chwarae rhan mor werthfawr wrth gefnogi unigolion yn eu dysgu proffesiynol. Fe wnaeth y fenter ragorol hon helpu clinigwyr sy’n gweithio ar draws GIG Cymru i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau ar adeg dyngedfennol. Dangosodd staff llyfrgelloedd y GIG ystwythder, dyfeisgarwch, ac ymrwymiad mawr i'w defnyddwyr wrth ddatblygu'r rhaglen arloesol yma. Maent yn llwyr deilyngu’r wobr hon”

Ychwanegodd Cadeirydd CILIP Cymru Wales, Lou Peck, “Bob blwyddyn rwy'n cael fy atgoffa am y gymuned lyfrgell anhygoel a gwerthfawr sydd gennym yma yng Nghymru.

Mae Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru yn gyfle i dimau llyfrgelloedd ledled Cymru dynnu sylw at eu llwyddiannau ac unrhyw wersi a ddysgwyd. Mae'n gyfle gwych i gael cipolwg ar brosiectau sy'n mynd rhagddynt, na fyddem yn clywed amdanynt fel arall.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran yn y Wobr eleni gan ddangos ystwythder, arloesedd a dulliau cynaliadwy o sicrhau gwasanaethau llyfrgell hanfodol ar gyfer y dyfodol”.

Panel beirniaid Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru Wales 2022

Gwnaeth y pedwar enwebiad argraff ar feirniaid 2022, gan amlygu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws llyfrgelloedd Cymru:

  • Robin Armstrong Viner, Cyfarwyddwr Cyswllt: Pennaeth Llyfrgelloedd, Prifysgol Abertawe
  • Andrew Eynon, Rheolwr Llyfrgell a TGD, Grŵp Llandrillo Menai
  • Helgard Krause, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru

Sylw’r beirniaid: “Mae staff llyfrgelloedd y GIG yng Nghymru wedi bod yn gweithio dan amodau heriol yn ystod pandemig COVID-19 ac roedd hwn yn enwebiad cryf yn cyflwyno achos cadarn iawn dros pam mae’r tîm yn haeddu’r wobr hon. Datblygodd y tîm raglen hyfforddi newydd gan ddechrau o’r dechrau, yn ystod cyfnod heriol i staff y GIG, a chyflwynwyd y rhaglen i grŵp amrywiol o ddefnyddwyr. Roedd yr enwebiad yn cynnwys enghreifftiau o adborth defnyddwyr a oedd yn dangos bod cynnwys yr hyfforddiant a'r dull cyflwyno yn bodloni anghenion defnyddwyr ac wedi arwain at lefelau uchel o foddhad ymhlith y rhai a’i mynychodd. Llwyddiant y rhaglen oedd hyblygrwydd yr amseriad a'r dyddiadau gan gydnabod yr angen i glinigwyr ganfod lle ar gyfer yr hyfforddiant mewn amserlen brysur, yn ogystal â'r arddangosiadau byw a rhyngweithio gyda'r mynychwyr.


Uwchsgilio myfyrwyr gydag adnoddau dwyieithog cryno sy'n rhwydd i fyfyrwyr eu defnyddio

Dyfarnodd y beirniaid yr ail safle a gwobr ariannol o £350 i dîm Ymgysylltu Academaidd Prifysgol Aberystwyth, a enwebwyd gan Lloyd Roderick.

Gall yr arfer o ddarparu dyfyniadau a chyfeirnodi cywir ar gyfer aseiniadau prifysgol fod yn brofiad sy’n peri braw i lawer o fyfyrwyr. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o theori ac arfer dyfynnu a chyfeirnodi cywir, adeiladodd y tîm Ymgysylltu Academaidd ganllaw llyfrgell dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) oedd yn cynnwys amrywiaeth gynhwysfawr o adnoddau cryno sy’n addas i fyfyrwyr gyda’r nod o geisio lleihau’r pryder sy’n aml yn gysylltiedig â chyfeirnodi.

Dyfyniad gan Lloyd Roderick: “Bu’r Tîm Ymgysylltu Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio’n galed i ddatblygu, adeiladu, profi, lansio, a hyrwyddo’r Canllaw a Chwis ar Ymwybyddiaeth Cyfeirnodi a Llên-ladrad, ac rydym wedi bod yn falch iawn o’r ymateb iddo gan fyfyrwyr a staff ar draws y brifysgol. Mae cael y gwaith hwn wedi’i gydnabod gan wobr gan CILIP Cymru Wales yn benllanw gwych i’r prosiect.”

Dywedodd y beirniaid: “Cynlluniodd y tîm adnodd hyfforddi newydd ar gyfer cyfeirnodi. Mae'r adnodd yn rhyngweithiol ac yn gwbl ddwyieithog, wedi'i integreiddio i systemau dysgu myfyrwyr a gellir ei deilwra i wahanol anghenion myfyrwyr. Roedd llwyddiant datblygiad yr adnoddau hyfforddi newydd hyn yn cydnabod bod cyflwyno llwyddiannus yn dibynnu ar gael y defnyddwyr i gymryd rhan. Roedd yn amlwg bod gan y tîm ddealltwriaeth wirioneddol o sut y byddai myfyrwyr yn ymwneud â'r cynnwys a beth fyddai'n lleihau pryder wrth gyfeirnodi. Mae'r enwebiad yn disgrifio sut y bu i'r tîm gydweithio'n dda ar draws y brifysgol. Roedd yr adnodd newydd yn allbwn prosiect llwyddiannus, ond y canlyniad cadarnhaol arall oedd y partneriaethau a ddatblygwyd ar draws y brifysgol a fydd yn codi proffil y llyfrgell”.



Welsh Library Team of the Year Award winner named for 2022

CILIP Cymru Wales is delighted to announce the winner of the Welsh Library Team of the Year Award 2022: Training group, NHS Wales Library & Knowledge Service/NHS Wales e-library. Jason Thomas, Director, Culture, Sport & Tourism, Welsh Government, made the announcement during the CILIP Cymru Wales AGM and Team of the Year Award event on Thursday 10 November 2022. Second place was awarded to the Academic Engagement team at Aberystwyth University.

Being agile in NHS libraries across Wales

Training group, NHS Wales Library & Knowledge Service/NHS Wales e-library, nominated by Susan Prosser, is the winner of the Welsh Library Team of the Year Award 2022. The NHS Wales Library & Knowledge Service (NHS WLKS) is a network of 24 libraries based in hospitals across Wales serving all disciplines and health sectors.

Like many, NHS Wales library staff have been working under difficult conditions during the COVID-19 pandemic. Many healthcare staff needed more flexible training opportunities as they were unable to leave their workplaces. The NHS Wales Library & Knowledge Service (NHS WLKS) rose to the challenge and developed a new remote national training programme from scratch for their diverse users. With its flexible approach recognising that clinicians have to fit the training around their demanding schedule, the training programme received a high level of attendee satisfaction and feedback.

Susan Prosser said:”I am delighted to learn that the collaboration between NHS Wales Libraries and the e- library has been recognised with this award for their innovative programme of live training delivered to NHS staff across Wales. The team worked incredibly hard to get these delivered and feedback was extremely positive. The award is a great boost to morale!”.

The Welsh Library Team of the Year Award was presented by Jason Thomas, Director, Culture, Sport & Tourism at CILIP Cymru Wales’ Open Day and AGM on Thursday 10 November 2022 celebrating outstanding professional achievements by teams working within library and information services in Wales.

As a presenter of the Welsh Library Team of the Year Award, Jason comments: “I was delighted to be asked to announce the winners of the Welsh Library Team of the Year Awards. I want to say a big thank you to all the library staff working incredibly hard to deliver fantastic services to individuals and communities. I see this dedication first-hand at my own local library and I know it is replicated all over the country.

The training programme provided by NHS Wales Library & Knowledge Service is a great example of how librarians play such a valuable role in supporting individuals in their professional learning. This excellent initiative helped clinicians working across NHS Wales to improve their knowledge and skills at a critical time. The NHS library staff demonstrated agility, resourcefulness, and great commitment to their users in developing this innovative programme. They are very worthy recipients of this award”.

CILIP Cymru Wales Chair Lou Peck adds “Every year I am reminded what an incredible and valuable library community we have here in Wales.

The Welsh Library Team of the Year Award is an opportunity for library teams across Wales to shout about their successes and even lessons learned. It’s an amazing opportunity to have a peep into projects that go on, that we otherwise would not hear about.

Huge congratulations to all taking part in this year’s Award demonstrating agility, innovation and sustainable approaches to future-proof essential library services”.

The 2022 CILIP Cymru Wales Welsh Library Team of the Year Award judging panel

The 2022 judges were impressed by all four nominations, demonstrating excellent work across libraries in Wales:

  • Robin Armstrong Viner, Associate Director: Head of Libraries, Swansea University
  • Andrew Eynon, Library & ILT manager, Grŵp Llandrillo Menai
  • Helgard Krause, Chief Executive, Books Council of Wales

The judges commented “NHS libraries staff in Wales have been working under challenging conditions during the COVID-19 pandemic and this was a strong nomination making a compelling case for why the team deserve this award. The team developed a new training programme from scratch, during challenging times for NHS staff, and delivered this to a diverse group of users. The nomination included examples of user feedback demonstrating that the training content and mode of delivery met user needs and resulted in high satisfaction from attendees. The success of the programme was the flexibility of the timing and dates recognising the need for clinicians to fit the training into a busy schedule, as well as the live demos and interaction with attendees.


Upskilling students with bite-sized student friendly bilingual resources

The judges awarded second place to the Academic Engagement team at Aberystwyth University, nominated by Lloyd Roderick, who will receive £350.

The practice of providing accurate citations and references for university assignments can be a daunting prospect for many students. To raise awareness of both the theory and the practice of proper citation and referencing, the Academic Engagement team has built a bilingual (Welsh and English) library guide where a comprehensive array of bite-sized, student-friendly resources aims to take some of the anxiety out of referencing.

Lloyd Roderick said: ”The Academic Engagement Team at Aberystwyth University worked hard to develop, build, test, launch, and promote the Referencing and Plagiarism Awareness Guide and Quiz, and we have been delighted by the response to it from students and staff across the university. To have this work recognised by an award from CILIP Cymru Wales is a fantastic culmination to the project.”.

The judges commented “The team designed a new training resource on referencing. The resource is interactive and fully bilingual, is integrated into student learning systems and can be tailored to different student needs. The success of the development of these new training resources was the recognition that successful delivery relied on getting the users involved. It was clear that the team had a real understanding how students would relate to the content and what would reduce referencing-anxiety. The nomination describes how the team collaborated well across the university. The new resource was a successful project output, but the other positive result was the partnerships that were developed across the university which will raise the profile of the library”.