This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
About Us | Contact Us | Print Page | Sign In | Join now
Tir na n-Og Past Winners
Group HomeGroup HomeGroup PagesDirectory & Features Join Group
CILIP Wales Logo Enillwyr y Gorffennol/Past Winners Gwobrau Tir na n-Og Awards


2024

Yr awdur Lesley Parr yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024 yda’r gyfrol Where the River Takes Us – stori antur gyffrous wedi ei lleoli mewn cwm yng Nghymru yn y 1970au ac wedi’i chyhoeddi gan Bloomsbury. Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni dydd Gwener 17 Mai yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales yng Nghaerdydd, gan y gantores, actor a chyflwynydd Miriam Isaac.

Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod, mewn seremoni arbennig amser cinio ddydd Mercher 29 Mai. Llongyfarchiadau i enillydd y categori cynradd ydy Jac a’r Angel gan Daf James, ac enillydd y categori uwchradd ydy Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter – dwy nofel sydd yn dathlu pŵer y dychymyg i’n helpu i ymdopi ag amseroedd a phrofiadau anodd.



 

2024

Author Lesley Parr has won the Tir na n-Og English-language Award with Where the River Takes Us (Bloomsbury), a pacy 1970s adventure set in a Welsh valley, published by Bloomsbury. The winning book was announced at a lunchtime ceremony on Friday 17 May, at the CILIP Cymru Wales conference in Cardiff, by singer, actor and presenter Miriam Isaac.

The winners in the Welsh-language categories of the 2024 Tir na n-Og Awards were announced on 29 May in a special lunchtime ceremony at the Urdd Eisteddfod Maldwyn in Meifod.Congratulations to the winner in the primary age category, Jac a’r Angel by Daf James (Y Lolfa), and the winner in the secondary age category, Astronot yn yr Atig by Megan Angharad Hunter (Y Lolfa). The two winning novels celebrate the power of imagination to help us navigate difficult times and experiences.


2023

Llyfrau llawn hwyl a sbri, ynghyd â negeseuon cryf, wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2023. Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron a Manawydan Jones (Atebol): Y Pair Dadeni gan Alun Davies (Yr Lolfa) – yn dathlu pa mor unigryw yw bob plentyn, a’r pwysigrwydd o dderbyn yr hyn sy’n eich gwneud chi’n rhyfeddol. The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones (Hodder & Stoughton) enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. 


 

2023

Books full of fun and excitement, together with strong messages, won the Tir na n-Og Awards 2023. Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor by Luned Aaron and Huw Aaron (Atebol), and Manawydan Jones: Y Pair Dadeni by Alun Davies (Y Lolfa) – celebrate each child’s uniqueness, and the importance of accepting what makes you amazing. The Drowned Woods by Emily Lloyd-Jones (Hodder & Stoughton) was the winner of the Tir na n-Og English-language Award for children and young people’s literature.                

2022

Cymeriadau cofiadwy a nofel dwymgalon am adeg y rhyfel ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2022. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y Gwobrau Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych ar ddydd Iau, 2 Mehefin 2022 a’r Wobr Saesneg ar raglen y Radio Wales Arts Show ar nos Wener, 20 Mai 2022.

Y tri llyfr a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2022 oedd Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (Atebol), Y Pump, gol. Elgan Rhys (Y Lolfa) a The Valley of the Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury).


TNNA enillwyr/winners


2022

Strong characters and a heartfelt wartime novel were the winners of the 2022 Tir na n-Og Awards. The winners of the Welsh-language category were announced on Thurday, 2 June at the Urdd Eisteddfod in Denbighshire and the English-language category was announced on Radio Wales Arts Show on Friday, 20 May 2022.

The three winning novels in the 2022 Tir na n-Og Awards were Gwag y Nos by Sioned Wyn Roberts (Atebol), Y Pump, ed. Elgan Rhys (Y Lolfa) and The Valley of the Lost Secrets by Lesley Parr (Bloomsbury).



2021

Dwy nofel gyfoes ac un hanesyddol ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021, gyda merched dewr yn serennu ymhob un o’r tri llyfr buddugol.

Y tri llyfr ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021 oedd Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa), #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwlach) a The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press).

Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa, 2020) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd yn 2021. Stori gyfoes yw hon am ferch naw oed o’r enw Sara Mai sy’n byw yn sw ei rhieni ac sy’n ei chael hi’n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol.

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yn 2021 oedd #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2020). Mae’r nofel yn adrodd stori merch yn ei harddegau o’r Rhyl a’r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli’r bws i’r ysgol un bore – digwyddiad digon cyffredin ond un sydd yn newid cwrs ei bywyd.

The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – nofel bwerus a chyffrous i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.




Two contemporary and one historical novels were the winning titles in the 2021 Tir na n-Og Awards for children and young people’s literature, with all three books featuring strong girls facing tough challenges.

The three winning novels in the 2021 Tir na n-Og Awards were Sw Sara Mai by Casi Wiliam (Y Lolfa), #helynt by Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwlach) and The Short Knife by Elen Caldecott (Andersen Press).

Sw Sara Mai by Casia Wiliam (Y Lolfa, 2020) won the Welsh-languge primary age catetory in 2021. It’s a contemporary story about a girl aged around 9 called Sara Mai who grows up on her parents’ zoo, and who finds it easier to understand the behaviour of the remarkable creatures who live there than the other girls in her class.

The secondary age category was won by a novel aimed at older teenagers. #helynt by Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2020) tells the story of a teenage girl and what happens to her after she misses the school bus one morning – a commonplace event but one that changes the course of her life.

The Short Knife by Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – a powerful and exciting YA novel set during the early Middle Ages – triumphed in the English-language category of the Tir na n-Og Awards 2021.

 

2020


Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni.

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd oedd Byw yn fy Nghroen, a olygwyd gan Sioned Erin Hughes. Casgliad yw’r llyfr o brofiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, sy’n trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

Nofel Storm Hound gan Clare Fayers a gipiodd y brif wobr yn y categori cyfrwng Saesneg, stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.


Rhestr fer - Short list


Books tackling some of the big issues of the day won the 2020 Tir na n-Og Awards for children’s and young people’s literature in Welsh.

Pobol Drws Nesaf (‘The People Next Door’) by author Manon Steffan Ros and illustrator Jac Jones took the prize for the best title in the Welsh-language primary age category. Aimed at readers aged 3–7, this picture book urges us to respect each other and not judge someone who looks or behaves differently to us.

The prize for the best Welsh-language book in the secondary age category was won by Byw yn fy Nghroen (‘Living in my Skin’), edited by Sioned Erin Hughes. The book collates the difficult experiences of twelve young people who have had to struggle with long-term illness and health conditions. Aged between 10 and 26, the contributors discuss their mental and physical illnesses in detail, including cancer, epilepsy, Crohn’s disease, spina bifida, visual impairment, OCD, depression and anxiety.

Claire Fayers novel Storm Hound took the main prize in the English-language category with its wonderful fantasy adventure story steeped in Norse legend and Welsh mythology.