Casgliadau Llyfrgell Gwrth-hiliaeth yng Nghymru
Gweithredu a Menter
Mae’r prosiect hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gyfle i gydnabod pŵer gwario llyfrgelloedd sy’n buddsoddi’n barhaus mewn asedau diwylliannol cynaliadwy y gellir eu hailddefnyddio. Mae'r prosiect hwn yn cyflawni yn erbyn nod Ariannu Cynllun
Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru drwy sicrhau bod llyfrgelloedd cyhoeddus yn defnyddio'r pŵer gwario hwn i ymgorffori arferion gwrth-hiliol ac i hwyluso mynediad a chanlyniadau cyfartal.
Yng Ngham 1 fe wnaethom benodi cwmni ymgynghori i gyflwyno adroddiadau ar fodelau hyfforddi priodol a chynnwys hyfforddiant ar gyfer staff llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru.
Mae ein canllawiau Dyfodol Cynhwysol yn defnyddio’r ymchwil hwn a gwaith y Grŵp Llywio yng Ngham 1 i gynnig cyfleoedd ymarferol i’r sector diwylliannol ddatblygu dulliau gwrth-hiliol o ymdrin â chasgliadau llyfrgelloedd cyhoeddus mewn ffyrdd
ystyrlon, proffesiynol a chynaliadwy ar draws y gweithlu llyfrgelloedd.
Darganfyddwch fwy am y prosiect trwy glicio ar y dolenni uchod, neu cymerwch ran ar hyn o bryd a dechrau drwy lawrlwytho'r ffeithluniau ar gyfer eich llyfrgell.
Pecyn Ffeithluniau
Troi dealltwriaeth yn weithredu
Mae'r pecyn ffeithluniau yn rhoi trosolwg cryno i chi a'ch cydweithwyr o ganlyniadau Casgliadau Gwrth-hiliaeth y Llyfrgell a'u goblygiadau ar gyfer gwasanaethau llyfrgell, ac yn cynnig cipolwg ar waith y prosiectau a'u rôl wrth hyrwyddo
gwrth-hiliaeth, i droi dealltwriaeth yn gamau gweithredu cadarnhaol.