This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
About Us | Contact Us | Print Page | Sign In | Join now
Statement on Cardiff Libraries
Group HomeGroup HomeGroup PagesDirectory & Features Join Group
CILIP Wales Logo  Eiriolaeth/Advocacy


Llun o Gaerdydd



Please scroll down for English

Datganiad par: Arolwg Ymgynghoriad Cyllideb 2023/24 Cyngor Caerdydd

Diweddariad 17 Mawrth 2023:

Postio gan: Amy Staniforth

Mae CILIP yn falch o ddarllen bod Cyngor Dinas Caerdydd wedi gwrando ar drigolion ac wedi cytuno i beidio â lleihau oriau agor llyfrgelloedd. Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:

Rydym wedi myfyrio ar farn ein trigolion wrth benderfynu pa opsiynau ymgynghori i'w datblygu. O ran Hybiau a Llyfrgelloedd, nid yw cynigion i leihau oriau agor a/neu gau ar benwythnosau wedi cael eu datblygu.

Mae’r Cynghorydd Huw Thomas yn mynd ymlaen i ddweud, fodd bynnag:

Mae unrhyw newidiadau yn cael eu cyfyngu i ddileu nifer fach o swyddi gwag hirdymor yn y gwasanaeth. (1)

Mae'r frawddeg fer hon yn dweud cymaint wrth gydweithwyr sy'n gweithio yn llyfrgelloedd Caerdydd. Tra'n osgoi'r profiad ofnadwy o ddiswyddiadau a'r gostyngiad gweladwy yn y gwasanaeth y byddai toriadau i oriau agor yn ei achosi, nid yw cael gwared ar swyddi gwag hirdymor yn wastraff naturiol.

Fel y gŵyr llawer ohonom, gall recriwtio gymryd amser hir a gellir ei orfodi i gymryd amser hir pan fo cyllidebau’n dynn. Mae yna lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru gyda chyn lleied o staff fel nad oes modd i weithwyr llyfrgell gael amser cinio os bydd rhywun i ffwrdd yn sâl. Mae canghennau'n cael trafferth cadw drysau ar agor a 'drysau ar agor' yw'r elfen fwyaf sylfaenol o wasanaeth llyfrgell. Sut mae staff i fod i gyflawni addewidion Llywodraeth Cymru – cynnig arweiniad ar y dreth gyngor, cadw pobl yn gynnes, datblygu llythrennedd, dysgu sgiliau digidol, datblygu casgliadau cynhwysol – os mai dim ond un person sydd yno i ‘agor y drysau’?

Os byddwn i bob pwrpas yn parhau i gwtogi niferoedd staff cyflogedig rydym yn gadael ein staff llyfrgell a'n cymunedau defnyddwyr i lawr. Rydym yn lleihau cyfleoedd staff i ddatblygu sgiliau a gwasanaethau.

Dyma ddyfynnu Oliver Roeder ar lyfrgelloedd cyhoeddus unwaith eto:

Maent yn darparu llyfrau, cyfnodolion, adnoddau digidol - gwybodaeth! — wedi'i churadu a'i stiwardio gan arbenigwyr. Ac maen nhw'n codi’r slac o raglenni cymdeithasol di-ri sydd wedi'u tanariannu neu sydd wedi diflannu. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn athrawon Saesneg, pobl sy'n chwilio am waith, gweinyddwyr ar ôl ysgol, hyfforddwyr technoleg ac addysgwyr dinasyddiaeth. Maent yn ganolfannau cadw’n gynnes ac yn llefydd i gael lloches rhag gwres uchel. Maent yn gwasanaethu'r ifanc iawn a'r hen iawn. Maent, i bob pwrpas, yn beiriannau deuol hanfodol ar gyfer democratiaeth a thwf economaidd.

Nid yw'n ddigon i gael y drysau ar agor. Er mwyn i lyfrgelloedd cyhoeddus allu cyflawni’n llawn, mae angen llyfrgellwyr hyfforddedig, hyderus, sy'n gallu gadael y ddesg ac ymgysylltu â chymunedau defnyddwyr, a chymryd cinio a gwyliau blynyddol.

Gofynnwn i Gyngor Dinas Caerdydd ailystyried dileu'r swyddi hyn a chysylltu â CILIP i drafod opsiynau ar gyfer datblygu staff llyfrgelloedd.


Diweddariad at: Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor, Cyngor Caerdydd

1 Cardiff News Room (22 February 2023) "Datgelu cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd" https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/30813.html [Cyrchwyd 10 Mawrth 2023]



13 Ionawr 2023

Postio gan: Amy Staniforth

Rwy’n ysgrifennu atoch ar ran CILIP Cymru Wales, Cymdeithas Llyfrgelloedd Cymru, i annog Cyngor Caerdydd i beidio â gwneud toriadau i Lyfrgelloedd Caerdydd.

Mewn dim ond yr wythnos ddiwethaf, mae Llyfrgelloedd Caerdydd wedi hyrwyddo: ymgynghoriad ar gyfer gofalwyr di-dâl; poster ar gyfer Bore Coffi Balch, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Pride Cymru; hysbyseb ar gyfer digwyddiad 'In Conversation' gyda'r awdur Hammad Rind, a diweddariad ar y Prosiect Ysgrifennu Am Popeth a drefnwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.(1) Ni allaf feddwl am ffordd well o ddarlunio'r grymp sydd yn rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.

Byw yng Nghymru

Rwy’n cyfrif fy hun yn ffodus i gael byw yng Nghymru, lle mae’r Rhaglen Lywodraethu yn blaenoriaethu iechyd, gwasanaethau i bobl agored i niwed, egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, datgarboneiddio, diwygio addysg, amrywiaeth, dileu anghydraddoldeb, datblygu’r Gymraeg, gwneud ein lleoedd yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, a chynnwys ei dinasyddion mewn sgyrsiau am ein dyfodol cyfansoddiadol.(2) Ni allaf feddwl am un ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu na’r 10 amcan llesiant cysylltiedig nad yw llyfrgelloedd cyhoeddus yn eu cyflawni’n uniongyrchol.

Mae llawer ohonom yn canmol llyfrgelloedd cyhoeddus am 'ddarparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel yng nghalon y gymuned' ond fel y mae datganiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLlCC) Llyfrgelloedd Caerdydd yn ei amlinellu, mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn troi'r Rhaglen Lywodraethu yn wasanaethau lleol cyflawnadwy. Maent yn:

…datblygu casgliadau, ysgogi darllen, cefnogi plant a phobl ifanc, cynhwysiant digidol, trechu tlodi, hybu iechyd a llesiant, dod â chymunedau ynghyd a dathlu treftadaeth a diwylliant.(3)

Ar yr un diwrnod yr wythnos diwethaf, darllenais hefyd erthygl gan Oliver Roeder yn y Financial Times am lyfrgelloedd cyhoeddus Efrog Newydd. Eglura Roeder fod “llyfrgelloedd yn cyflawni swyddogaeth amrywiol”:

Maent yn darparu llyfrau, cyfnodolion, adnoddau digidol - gwybodaeth! — wedi'i churadu a'i stiwardio gan arbenigwyr. Ac maen nhw'n codi’r slac o raglenni cymdeithasol di-ri sydd wedi'u tanariannu neu sydd wedi diflannu. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn athrawon Saesneg, pobl sy'n chwilio am waith, gweinyddwyr ar ôl ysgol, hyfforddwyr technoleg ac addysgwyr dinasyddiaeth. Maent yn ganolfannau cadw’n gynnes ac yn ooches rhag wres uchel. Maent yn gwasanaethu'r ifanc iawn a'r hen iawn. Maent, i bob pwrpas, yn beiriannau deuol hanfodol ar gyfer democratiaeth a thwf economaidd.(4)

Rydym ni yn Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth (CILIP) a CILIP Cymru Wales yn gwerthfawrogi bod Cyngor Caerdydd mewn sefyllfa ariannol anodd. Byddem yn croesawu'r cyfle i weithio gyda'n gilydd lle y gallwn, i amddiffyn gweithwyr a gwasanaethau. Ond hoffem hefyd atgoffa'r Cyngor na fydd unrhyw wasanaeth arall yn ymladd ar eich rhan ym mhob un o'r meysydd hyn, gan ddarparu gwasanaethau trwy weithwyr proffesiynol dibynadwy sydd eisoes yn gweithio yng nghanol eich dinasoedd, trefi, pentrefi a chymunedau ar-lein.

Caerdydd

Dylai mwy o bobl olygu mwy o lyfrgelloedd

Cynyddodd poblogaeth Caerdydd 4.7% rhwng 2011 a 2021 gyda chynnydd o 15.3% mewn pobl 65 oed a hŷn ac, yn groes i’r gostyngiad welwyd ledled Cymru, cafwyd cynnydd o 5.3% mewn plant o dan 15 oed.(5) Efallai nad yw’n gyd-ddigwyddiad, fel y mae Cyngor Caerdydd wedi ein hatgoffa, fe wnaeth ymgynghoriad blaenorol yn glir fod gan drigolion dair blaenoriaeth glir:

  • Ysgolion ac Addysg gan gynnwys Gwasanaethau Ieuenctid.
  • Cefnogi plant a theuluoedd bregus.
  • Cefnogi oedolion bregus a phobl hŷn.(6)

Mae peidio â phenodi staff yn lle staff llyfrgell a thorri'n ôl ar oriau agor llyfrgelloedd yn effeithio'n anghymesur ar y grwpiau hyn.

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn darparu ystod enfawr o fanteision

Mae Llyfrgelloedd Cyhoeddus yn wasanaeth statudol ond maent yn llawer mwy na hynny hefyd. Yn ei adroddiad “Pa mor dda yw eich gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus?” mae Llywodraeth Cymru yn diffinio gwasanaeth llyfrgell fel:

    darparu mynediad addas a phriodol i'r gwasanaeth (yr adeiladau ac ar-lein)
  • darparu gwasanaethau ar gyfer y rhai mewn cymdeithas ag anghenion penodol (deunyddiau arbennig, offer arbennig a gwasanaethau dosbarthu arbennig)
  • darparu ystod addas o ddeunyddiau darllen a gwybodaeth mewn fformatau traddodiadol a newydd sy'n adlewyrchu ieithoedd cymunedol a gofynion gwahanol grwpiau oedran
  • sicrhau bod lefelau buddsoddi digonol mewn deunyddiau, staff ac adeiladau
  • sicrhau bod ymateb i farn ac anghenion defnyddwyr yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y ffyrdd y caiff y gwasanaeth ei reoli a'i ddatblygu.(7)

Mae Llyfrgelloedd Caerdydd yn boblogaidd

Roedd yr asesiad blynyddol o Lyfrgelloedd Caerdydd ar gyfer 2019/20 yn dangos defnydd uchel a boddhad defnyddwyr ac roedd yn llwyddo i ddarparu’r ystod lawn o wasanaethau iechyd a lles ym mhob un o’u mannau gwasanaeth.(8) Ond maent hefyd yn gwybod y gallent wneud yn well gyda buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol.

Mae llyfrgelloedd yn cyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru yn gwasanaethu'r poblogaethau bregus y mae trigolion Caerdydd wedi dweud eu bod yn poeni fwyaf amdanynt. Mae llawer o'r gwaith hwn yn mynd yn ddisylw i raddau helaeth, sef prosiectau adeiladu cymunedol fel 'Lleoedd i Gysylltu' a 'Heneiddio'n Dda gyda Llyfrgelloedd Cymru', Sialens Ddarllen yr Haf a 'Darllen yn Well' lle gall gweithwyr meddygol proffesiynol gyfeirio defnyddwyr at gasgliadau arbenigol wedi'u curadu ar ddementia, iechyd meddwl ac iechyd i blant a phobl ifanc.(9) Mae Llyfrgelloedd Caerdydd bob amser wedi croesawu pobl fregus a digartref ac yn yr argyfwng ariannol presennol mae hyn wedi’i ffurfioli gyda phob Hyb wedi’i gofrestru fel man cynnes.(10)

Rwy’n annog Cyngor Caerdydd i beidio â gwneud toriadau i Lyfrgelloedd Caerdydd. Byddai'r effaith ar eich cymuned yn cael effaith negyddol ac anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed, a byddech yn colli llyfrgelloedd fel darparwr gwasanaethau lleol hanfodol. Os hoffech drafod unrhyw un o’r materion hyn, cysylltwch â ni.

Yn gywir

Amy Staniforth

Dr Amy Staniforth, MCLIP. Rheolwr Cysylltiadau, CILIP Cymru Wales

Llythyr at: Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor, Cyngor Caerdydd



1. Facebook: https://www.facebook.com/cardifflibraryservice/ Twitter: https://twitter.com/cdflibraries

2. Llywodraeth Cymru (7 Rhagfyr 2021) “Rhaglen lywodraethu: diweddariad" https://www.llyw.cymru/rhaglen-lywodraethu-2021-i-2026-html [fel ar 6 Ionawr 2023]

3. Cyngor Caerdydd “Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-2020: Adroddiad Asesu Blynyddol 2019/20” https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-04/adroddiad-blynyddol-gwasanaethau-y-llyfrgelloedd-cyhoeddus-2019-i-2020-caerdydd.pdf [Cyrchwyd 6 Ionawr 2023]

4. Oliver Roeder (6 Ionawr 2023) “Mae bygythiadau niferus i gyllid llyfrgelloedd yn rhwystro ein dinasoedd gwych” Financial Times [Cyrchwyd 6 Ionawr 2023]

5. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (28 Mehefin 2022) sut y newidiodd y boblogaeth yng Nghaerdydd: Cyfrifiad 2021 https://www.ons.gov.uk/visualisations/censuspopulationchange/W06000015/ [Cyrchwyd 6 Ionawr 2023]

6. Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2023/24 Cyngor Caerdydd https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Cyllid-y-cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Pages/default.aspx [Cyrchwyd 6 Ionawr 2023]

7. & 8. Cyngor Caerdydd “Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-2020: Adroddiad Asesu Blynyddol 2019/20” https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-04/adroddiad-blynyddol-gwasanaethau-y-llyfrgelloedd-cyhoeddus-2019-i-2020-caerdydd.pdf [ Cyrchwyd 6 Ionawr 2023] t.1 a:
a) ymweliadau y pen 6,874* (gan gynnwys Hybiau)
b) ymweliadau rhithwir y pen 2,131* cododd hyn yn ddramatig yn y cyfnodau clo.
c) benthycwyr gweithredol y pen 244
b) QI 1 Gwneud gwahaniaeth a) % yr oedolion sy'n meddwl bod defnyddio'r
llyfrgell wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd 91%
c) iechyd a llesiant 95%
d) pleserus, diogel a chynhwysol 94%

9. Llyfrgelloedd Cymru. Byw'n Dda yng Nghymru https://llyfrgelloedd.cymru/byw-yn-dda-yng-nghymru/ [Cyrchwyd 6 Ionawr 2023 ] a Sialens Ddarllen yr Haf https://llyfrgelloedd.cymru/sialens-ddarllen-yr-haf/ [Cyrchwyd 12 Ionawr 2023]

10. Croeso Cynnes https://www.warmwelcome.uk/



Image of Cardiff



Statement re: Cardiff Council Budget Consultation Survey 2023/24

Update 17th March 2023:

Posted by: Amy Staniforth

CILIP is pleased to read that Cardiff City Council have listened to residents and agreed not to reduce library opening hours. Cardiff Council Leader Cllr Huw Thomas said:

We have reflected on our residents' views when deciding which consultation options to take forward. In respect of Hubs and Libraries, proposals to reduce opening hours and/or close on weekends have not been taken forward.

Cllr Huw Thomas goes on to say, however:

Any changes are being limited to removing a small number of long-term vacant posts in the service. (1)

This short sentence says so much to colleagues working in Cardiff’s libraries. While avoiding the awful experience of redundancies and the visible reduction of service that cuts to opening hours would cause, the removal of long term vacant posts is not the natural wastage it might sound like.

As many of us know, recruitment can take a long time and can be made to take a long time when budgets are tight. There are public libraries in Wales with so few staff that a lunch break can’t be covered if someone is off sick. Branches are struggling to keep doors open and ‘doors open’ is the most basic element of a library service. How are staff supposed to deliver on Welsh Government promises – offering guidance on council tax, keeping people warm, developing literacy, teaching digital skills, developing inclusive collections – if there is one person to ‘open the doors’?

If we continue to effectively cut paid staffing we are letting down our library staff and our user communities. We are reducing staff opportunities to develop skills and services.

I’ll quote Oliver Roeder on public libraries again:

They provide books, periodicals, digital resources — information! — curated and stewarded by experts. And they take up the slack of countless underfunded or disappeared social programmes. Public libraries are English teachers, job hunters, after-school administrators, technology trainers and citizenship educators. They are cooling and heating centres and refuges. They serve the very young and the very old. They are, in effect, crucial twin engines of democracy and economic growth. (4)

It isn’t enough to have the doors open. For public libraries to deliver we need librarians who are trained, confident, able to leave the desk and engage with user communities, and to take lunch and annual leave.

We ask that Cardiff City Council reconsiders the removal of these posts and gets in touch with CILIP to discuss options for library staff development.


Update to: Councillor Huw Thomas. Leader of the Council. Cardiff Council

1 Cardiff News Room (22 February 2023) "Cardiff Council's Budget Proposals Revealed" https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/30813.html [accessed 10 March 2023]



13 January 2023

Posted by: Amy Staniforth

I am writing on behalf of CILIP Cymru Wales, the Welsh Library Association, to urge Cardiff Council not to make cuts to Cardiff Libraries. In just the last week, Cardiff Libraries have promoted: a consultation for unpaid carers; a poster for a Proud Coffee Morning, held in partnership with Pride Cymru; an advert for an ‘In Conversation’ event with author Hammad Rind, and an update on the Write About Everything Project organised in partnership with Cardiff Metropolitan University.(1) I can’t think of a better way to illustrate the power that lies in the Welsh public library network.

Living in Wales

I count myself lucky to live in Wales, where the Programme for Government prioritises health, services for vulnerable people, the principles of fair work and sustainability, decarbonisation, education reform, diversity, eliminating inequality, the development of the Welsh language, making our places better places to live and work, and engaging its citizens in conversations about our constitutional future.(2) I can’t think of one Programme for Government commitment or the accompanying 10 well-being objectives that public libraries do not directly deliver on.

Many of us praise public libraries for ‘delivering high quality services and support in the heart of the community’ but as Cardiff Libraries’ Welsh Public Library Standards (WPLS) return outlines, public libraries turn the Programme for Government into deliverable local services. They are:

…developing collections, encouraging reading, supporting children and young people, digital inclusion, tackling poverty, promoting health and wellbeing, bringing communities together and celebrating heritage and culture.(3)

On the same day last week, I also read an article by Oliver Roeder in the Financial Times about New York public libraries. Roeder explains that “libraries serve a manifold role”:

They provide books, periodicals, digital resources — information! — curated and stewarded by experts. And they take up the slack of countless underfunded or disappeared social programmes. Public libraries are English teachers, job hunters, after-school administrators, technology trainers and citizenship educators. They are cooling and heating centres and refuges. They serve the very young and the very old. They are, in effect, crucial twin engines of democracy and economic growth.(4)

We at the Chartered Institute for Library and Information Professionals (CILIP) and CILIP Cymru Wales appreciate that Cardiff Council are in a difficult financial position. We would welcome the chance to work together where we can, to protect employees and services. But we would also like to remind the Council that no other service will fight for you on all these fronts, delivering services via trusted professionals who already work at the heart of your cities, townscapes, villages and online communities.

Cardiff

More people should mean more libraries

Cardiff’s population increased by 4.7% between 2011 and 2021 with an increase of 15.3% in people aged 65 years and over and, unlike a drop across Wales as a whole, experienced an increase of 5.3% in children aged under 15 years.(5) Perhaps not coincidentally, as Cardiff Council reminds us, a previous consultation made it clear that residents had three clear priorities:

  • Schools and Education including Youth Services.
  • Supporting vulnerable children and families.
  • Supporting vulnerable adults and older people.(6)

Not replacing library staff and cutting back on library opening hours disproportionately affects these groups.

Public libraries deliver a huge range of benefits

Public Libraries are a statutory service but they are much more than this too. In its “How good is your public library service?” report the Welsh Government defines a library service as:

  • providing suitable and appropriate access to the service (both the buildings and on-line)
  • providing services for those in society with particular needs (special materials, special equipment and special delivery services)
  • providing a suitable range of reading and information materials in traditional and new formats reflecting community languages and the requirements of different age groups
  • ensuring that levels of investment are adequate in materials, staff and buildings
  • ensuring that responding to users’ views and needs is properly reflected in the ways the service is managed and developed (7)

Cardiff Libraries are popular

The annual assessment of Cardiff Libraries for 2019/20 illustrated high usage and user satisfaction and was managing to provide the full range of health and wellbeing services at all of its service points. Yet they also know that with investment in professional development they could do better.(8)

Libraries reach the most vulnerable

Public libraries in Wales serve the vulnerable populations that Cardiff’s residents have said they care about most. A lot of this work goes largely unnoticed, community building projects like ‘Places to Connect’ and ‘Age Well with Welsh Libraries’; like the Summer Reading Challenge and ‘Reading Well’ where medical professionals can direct users to expert curated collections on dementia, mental health and health for children and teens.(9) Cardiff Libraries have always welcomed vulnerable and homeless people and in the current financial crisis this has been formalised with each Hub registered as a warm space.(10)

I urge Cardiff Council not to make cuts to Cardiff Libraries. The impact on your community would negatively and disproportionately impact the most vulnerable, and you would lose libraries as a deliverer of essential local services. If you would like to discuss any of these issues, please get in touch.

Yours sincerely

Amy Staniforth

Dr Amy Staniforth, MCLIP. Relationship Manager, CILIP Cymru Wales

Letter to: Councillor Huw Thomas. Leader of the Council. Cardiff Council



1. Facebook: https://www.facebook.com/cardifflibraryservice/ Twitter: https://twitter.com/cdflibraries

2. Welsh Government (7th December 2021) “Programme for government: update" https://www.gov.wales/programme-for-government-2021-to-2026-html [accessed 6th January 2023]

3. Cardiff Council “Welsh Public Library Standards 2017-2020: Annual Assessment Report 2019/20” https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2021-04/public-library-service-annual-report-2019-to-2020-cardiff.pdf [Accessed 6th January 2023]

4. Oliver Roeder (6th January 2023) “Perennial threats to library funding stunt our great cities” Financial Times [Accessed 6th January 2023]

5. Office for National Statistics (28th June 2022) How the population changed in Cardiff: Census 2021 https://www.ons.gov.uk/visualisations/censuspopulationchange/W06000015/ [Accessed 6th January 2023]

6. Consultation on Cardiff Council’s 2023/24 Budget Proposals https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Your-Council/Council-finance/Council-Budget/Documents/Budget%20consultation%2023%20i%2024_Cymraeg.pdf [Accessed 6th January 2023]

7. & 8. Cardiff City Council. Welsh Public Library Standards 2017-2020: Annual Assessment Report 2019/20 https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2021-04/public-library-service-annual-report-2019-to-2020-cardiff.pdf [Accessed 6th January 2023] p.1 and:

a) visits per capita 6,874* (including Hubs)
b) virtual visits per capita 2,131* this rose dramatically in lockdown.
c) active borrowers per capita 244
b) QI 1 Making a difference
a) % of adults who think that using the library has helped them develop new skills 91%
c) health and well-being 95%
d) enjoyable, safe and inclusive 94%

9. Libraries Wales. Living Well in Wales https://libraries.wales/living-well-in-wales/ [Accessed 6th January 2023] and Summer Reading Challenge https://libraries.wales/the-summer-reading-challenge-and-schools/ [Accessed 12th January 2023]

10. Warm Welcome https://www.warmwelcome.uk/