Click here for the English version
Fy mhrofiad o #GynhadleddCILIP25

Roeddwn yn ffodus iawn i dderbyn bwrsariaeth lawn gan CILIP Cymru i fynychu Cynhadledd Genedlaethol CILIP yn Birmingham. Er fy mod wedi gweithio mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ers dros 15 mlynedd, nid wyf erioed wedi mynychu'r gynhadledd genedlaethol.
Dim ond llond llaw o ddyddiau rydw i wedi eu mynychu yng Nghynhadledd CILIP Cymru dros y blynyddoedd, felly roedd hwn yn brofiad hollol newydd i mi. Pan ddarllenais gylchlythyr CILIP Cymru a gweld cyfle i ennill lle yn y gynhadledd, roedd
yn rhaid i mi roi cynnig arni! Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n llwyddo, felly mi wnes i ei roi yng nghefn fy meddwl, ond fel rydych chi’n gweld, fe wnes i ennill!
Rwy'n cyfaddef, nid wyf yn dod o gefndir llyfrgell draddodiadol, mae fy ngradd mewn Archaeoleg, ond fel plentyn roeddwn i’n ymweld â'm llyfrgell gyhoeddus leol ym Maesteg yn wythnosol. Pan hysbysebwyd cyfle am swydd mewn llyfrgell hanes lleol
newydd sbon yn fy nhref enedigol, fi oedd y cyntaf i gwblhau cais. Roedd yn gyfle i gyfuno'r ddau beth roeddwn i'n eu caru, llyfrau a hanes, doeddwn i ddim yn gallu methu'r cyfle. Fel Aelod o CILIP, rwy'n mynychu gweminarau CILIP yn rheolaidd,
gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd, a dyna pam y dewisais ymgymryd â fy Siarteriaeth trwy Gofrestriad Proffesiynol.
Roeddwn i'n nerfus am fynychu, a fyddwn i'n teimlo allan o'm dyfnder gyda llond catalog o lyfrgellwyr? A fyddai fy syndrom imposter yn codi ei ben? Roeddwn i'n ffodus i gael rhai cydweithwyr o fy ngwasanaeth llyfrgell hefyd yn mynychu felly roedd
gen i rywfaint o gefnogaeth foesol, ond nid oedd angen i mi boeni. Roedd gorfod teithio o Sir Pen-y-bont ar Ogwr i Birmingham yn golygu dechrau'n gynnar i osgoi traffig, ac fe wnaethon ni wneud amser ardderchog, gan gyrraedd ychydig cyn cofrestru.
Roedd hyn yn golygu bod gennym ddigon o amser ar gyfer coffi haeddiannol! Fe wnaethom trwy gyd-ddigwyddiad ddiweddu i fyny yng nghwmni mynychwyr eraill o Lyfrgelloedd Cymru, a ffurfio criw hwyliog o amgylch y bwrdd am gyfnod y gynhadledd,
ond roedd digon o gyfle i gwrdd â pobl o wasanaethau llyfrgell eraill hefyd.
Roeddwn wedi gallu archebu seminarau ymlaen llaw, felly ar ôl cofrestru mi wnes i ddod o hyd i ba ystafelloedd y byddai angen i mi fynd iddynt ar gyfer y sesiynau grŵp cyn i'r gynhadledd ddechrau’n ffurfiol, ac roeddwn i'n gweld hyn yn hynod o
ddefnyddiol. Roedd sawl seminar yn seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial, y moeseg a'r heriau y mae hynny'n eu cyflwyno i sefyllfaoedd modern. Mae hyn wedi bod yn destun trafod gyda chydweithwyr, pwnc llosg o gwmpas y bwrdd yn y gwaith, ac
wrth gwrs yng nghynhadledd CILIP.
Rhaglen Diwrnod 1:
Pŵer Eiriolaeth – Sebastian Cuttill
Diweddariad Rheoleiddiol ar Ddeallusrwydd Artiffisial a Hawlfraint - Naomi Korn, Jane Secker, a Sebastian Cuttill
Delio â Heriau a Dadleuon Moesegol – Dr David McMenemy
Mewnwelediadau Arweinyddiaeth – Rebcca Lawrence (Prif Swyddog Gweithredol y Llyfrgell Brydeinig)
Brandio 101: Cynyddu Ymgysylltiad Defnyddwyr - Suzie Henderson a Hayley Chevell
Sgyrsiau Arweinyddiaeth Lles – Helen Rimmer
Cinio’r Llywydd
Ar ôl agoriad swyddogol y Gynhadledd, a chlywed cerdd wych Rishi Dastidar, "The Way, The Deep", y mae copi ohoni bellach yn eistedd yn swyddfa ein llyfrgell, gwrandawodd y mynychwyr yn astud ar y prif siaradwr Sebastian Cuttill. Mae'r pwnc yn
ymdrin ag eiriolaeth a'r gwelliannau diweddar i'r Bil Data. Roedd hon yn sesiwn ddiddorol oedd yn gosod y cywair ar gyfer y ddau ddiwrnod nesaf. Yn ddiweddarach yn rhai o'r sesiynau eraill oedd yn gysylltiedig â Deallusrwydd Artiffisial, teimlais
bod gen i fwy o ddealltwriaeth o'r materion rydyn ni'n eu hwynebu gyda datblygu gwasanaethau Deallusrwydd Artiffisial ac efallai na fyddwn wedi cael hynny heb y sesiwn gychwynnol hon.
Roedd gweddill fy niwrnod yn cynnwys llawer gormod o baneidiau coffi, lot o fwyd, ceisio cwblhau'r Library Quest newydd trwy ymweld â chymaint o'r stondinwyr â phosib, teimlo’r angen i ymweld â'r Llyfrgell Brydeinig a'r Storyhouse yr eiliad honno,
ac yna fy Llesiant fy hun. Ni allwn gredu bod diwrnod cyntaf y gynhadledd drosodd yn barod. Mynychais Ginio’r Llywydd y noson honno, a oedd yn noson wych gyda hyd yn oed mwy o fwyd, adloniant, rhwydweithio, a dawnsio.
Rhaglen Diwrnod 2:
Prosiectau Arloesi Deallusrwydd Artiffisial: Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Llyfrgelloedd a Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol -Gene Tan (Llyfrgell Gen AI Singapore)
Iechyd mislif a menopos yn y gweithle – Vanessa Beck
Grym y Gair Ysgrifenedig – Michael Rosen
Gwneud y mwyaf o LinkedIn – Simon Burton
Ennill Calonnau a Meddyliau : Adrodd Straeon ar gyfer Eiriolaeth - Barbara Schleihagen
Trafodaeth Panel: Eirioli dros y Sector
Roedd y diwrnod canlynol yr un mor amrywiol o ran pynciau. Cafodd cyflwyniad Gene Tan ei ddangos i ni ar y sgrin fawr. Roedd y prosiectau gan GenAI yn edrych yn anhygoel, fel rhywbeth allan o ffilm Hollywood, felly wrth gwrs roedden ni'n meddwl
tybed sut y gallem berswadio ein gwaith i drefnu taith hollol ffantastig i ni.
Roeddwn i wedi bwriadu myfyrio ar un sesiwn yn unig, ond gallaf ddweud yn onest bod gan bob un ei werth ei hun ac nid wyf yn gallu penderfynu pa un oedd fy ffefryn. Roedd dagrau yn llygaid pawb wrth wrando ar Michael Rosen yn traddodi ei araith
ddydd Iau. Roedd y geiriau a ddarllenodd gan staff y Gwasanaeth Iechyd, yn anhygoel o deimladwy, rolercoster llwyr o emosiynau. Wrth gwrs, roedd ciw mawr ar gyfer cael ei lofnod wedyn, ac mae'n ddiogel dweud ein bod ni i gyd wedi cyffroi ac
wrth ein boddau i gael ein llyfrau wedi'u llofnodi ganddo.
Un o agweddau mwyaf gwerthfawr y gynhadledd oedd y cyfle i adeiladu cysylltiadau newydd gyda gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau llyfrgelloedd cyhoeddus, llyfrgelloedd iechyd a llyfrgelloedd academaidd ledled y Deyrnas Unedig. Yn dilyn y
sesiwn LinkedIn, sylweddolais gyn lleied rydw i'n defnyddio'r platfform, felly efallai fy mod wedi cael fy ysbrydoli i ychwanegu sawl person at fy rhwydwaith. Mae'r sgyrsiau a gafwyd gyda phawb wedi sbarduno syniadau ar gyfer cydweithio yn
y dyfodol ac wedi cyflwyno safbwyntiau sydd wedi cyfoethogi fy agwedd at gyflawni fy swydd ac wedi fy annog i ysgrifennu fy eitem nesaf ar gyfer fy Siarteriaeth. Roedd hefyd yn wych rhoi wynebau i'n cyflenwyr presennol, fel Bolinda a Civica,
a sgwrsio am ein defnydd ohonynt a sut i gael y gorau o'u gwasanaethau, ond hefyd i weld beth mae cyflenwyr eraill yn ei wneud y tu allan i'n gwasanaeth llyfrgell ar gyfer y dyfodol. Ac os ydych chi eisiau gwybod, do fe wnes i orffen Library
Quest.
Mi wnaeth mynychu cynhadledd CILIP agor toreth o gyfleoedd addawol gyda’r gweithwyr proffesiynol y gwnes i gysylltu â nhw, ac rwy'n hynod ddiolchgar i CILIP Cymru am y cyfle i fynychu. Nid oedd llawer o staff llyfrgelloedd cyhoeddus yn bresennol
a dim ond nifer fach o gynrychiolwyr o Gymru oedd yno, gan fod y pris mynychu yn gallu bod yn anodd i lyfrgelloedd cyhoeddus ei ariannu, felly roedd y cyfle i fod yno diolch i’r fwrsariaeth yn wych. Rhoddodd y gynhadledd ddealltwriaeth newydd
i mi o'r technolegau sy'n dod i'r amlwg mewn llyfrgelloedd a chryfhau fy ngwybodaeth ar themâu allweddol fel deallusrwydd artiffisial, moeseg a sensoriaeth; pynciau sy'n fwyfwy perthnasol i lyfrgellyddiaeth fodern.
Anna Rankin, Cynorthwy-ydd Astudiaethau Cyfeirio a Lleol, Llyfrgelloedd Awen, Pen-y-Bont ar Ogwr
My #CILIPConf25 experience
I was extremely fortunate to receive a full CILIP Conference bursary for the national conference in Birmingham, from CILIP Wales. Despite being in public libraries for over 15 years, I have never attended the national conference. I have only attended
a handful of days at the CILIP Cymru Conference over the years, so this was a completely new experience for me. When the CILIP Wales newsletter with the opportunity to win a funded place at the conference fell into my inbox, I had to try!
I did not think I would win, so put it to the back of my mind, but as you already know, I did.
I confess, I have not come from a traditional library background, my degree is in Archaeology, but as a child I visited my local public library in Maesteg weekly. When an opportunity for role in a brand-new local history library in my hometown
was advertised, I was the first to complete an application. The opportunity to blend the two things I loved, books and history, I just could not pass on the opportunity. As a CILIP Member, I regularly attend CILIP webinars, taking the opportunities
to develop new skills, which is why I chose to undertake my Chartership through Professional Registration.
I was nervous about attending, would I feel out of my depth with a catalogue of librarians? Would my imposter syndrome raise its head? I was fortunate to have some colleagues from my library service also attending so I had some moral support,
but I need not have worried. Having to travel from Bridgend County to Birmingham meant an early start to avoid traffic, and we made excellent time, arriving just before registration. This meant we had enough time for a well-earned coffee!
We unintentionally gravitated to the other Welsh Libraries attendees, and made a merry band around the table for the duration of the conference, but there was plenty of opportunity to meet with other library services too.
I had been able to pre-book seminars in advance, so following registration I was able to find which rooms I would need to attend for the breakout sessions before the conference began proper, and I found this extremely helpful. There were several
seminars based around AI, the ethics and challenges it brings to modern day situations. This has been a debate with colleagues, a hot topic around the table at work, and of course the CILIP conference.
Day 1 Programme:
The Power of Advocacy – Sebastian Cuttill
AI & Copyright Regulatory Update – Naomi Korn, Jane Secker, and Sebastian Cuttill
Dealing with Ethical Challenges & Controversies – Dr David McMenemy
Leadership Insights – Rebcca Lawrence (CEO British Library)
Branding 101: Increasing User Engagement – Suzie Henderson & Hayley Chevell
Leadership Talks Wellbeing – Helen Rimmer
Presidential Dinner
Following the official opening of the Conference, and the premier of the wonderful “The Way, The Deep” by Rishi Dastidar, a copy of which now sits in our library office, the attendees listened intently to keynote speaker Sebastian Cuttill. The
subject cover advocacy and the recent amendments to the Data Bill. I found this an interesting session and it set the tone for the next two days. Later in some of the other AI related sessions, I feel I had a greater understanding of the issues
we are facing with the development of AI services which I might not have had this without this initial session.
The remainder of my day consisted of far too many cups of coffee, a lot of food, trying to complete the new Library Quest by visiting as many of the exhibitors as possible, needing to visit the British Library and Storyhouse that very second,
and then my own Wellbeing. I could not believe the first day of the conference was already over. I attended the Presidential Dinner that evening, which was a wonderful evening of even more food, entertainment, networking, and dancing.
Day 2 Programme:
AI Innovation Projects : The Vision for the Future of Libraries and Generative AI -Gene Tan (Gen AI Library Singapore)
Menstrual & Menopausal Health in the Workplace – Vanessa Beck
The Power of the Written Word – Michael Rosen
Maximising LinkedIn – Simon Burton
Winning Over Hearts & Minds : Storytelling for Advocacy - Barbara Schleihagen
Panel Discussion: Advocating for The Sector
The following day was just as varied in terms of subject matter. Gene Tan was projected to us over the large screen. The projects from GenAI looked amazing, like something from a Hollywood blockbuster, so of course we were wondering how we could
convince work to organise a completely fantastical trip.
I had planned to reflect on just one session, but I can honestly say that each one held its own value and I am unable to decide which was my favourite. There was not a dry eye in the house when Michael Rosen gave his keynote speech on Thursday.
The words he read from the NHS staff, were incredibly moving, a complete rollercoaster of emotions. There was of course, a large queue for book signings afterwards, and it is safe to say we were all in awe and excited to be getting our books
signed.
One of the most valuable aspects of the conference was the opportunity to build new connections with professionals across public, health, and academic library sectors across the UK. Following the LinkedIn session, I realised how little I use the
platform, so I may have been inspired to add several people to my network. The conversations had with everyone has sparked ideas for future collaborations and introduced perspectives that have enriched my approach to delivering my role and
encouraged me to write up my next item for my Chartership. It was also great to put faces to our current suppliers, such as Bolinda and Civica, and to converse about our usage and how to get the most out of their services, but also to see
what other suppliers are doing outside of our library service for the future. If you are wondering, yes I did complete the Library Quest.
Attending the CILIP conference opened promising opportunities with the professionals I connected with, and I am immensely grateful to CILIP Wales for the opportunity to attend. There were not many public libraries staff and only a small number
of Welsh delegates in attendance, as the price can be inaccessible for public libraries to fund, so the opportunity for a bursary was fantastic. The conference provided me with fresh insights into the emerging technologies in libraries and
strengthened my knowledge on key themes such as artificial intelligence, ethics, and censorship; topics that are increasingly relevant to modern librarianship.
Anna Rankin, Reference and Local Studies Assistant, Awen Libraries Bridgend