
Gwobrau Tir na n-Og 2025
The Twelve gan Liz Hyder (Pushkin Children’s Books) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2025 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd ar 21ain Mai yn Ysgol Penglais,
Aberystwyth gan y cyflwynydd Sara Gibson, gyda chynulleidfa o ddysgwyr o'r ysgol yn cael y cyfle i gwrdd â rhai o'r awduron oedd ar y rhestr fer.
Mae The Twelve yn stori freuddwydiol dywyll, hudolus i oedolion ifanc. Pan mae
Libby, chwaer Kit, yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear yn ystod gwyliau teuluol, a does neb arall i’w weld yn ei chofio, mae Kit yn cychwyn ar daith beryglus i ddarganfod y gwir. Mae’r stori hon yn lapio’r darllenydd mewn hud a lledrith
a llên gwerin hynafol – yn eich llusgo i ddyfnderoedd eich dychymyg ac yn eich swyno gyda’i hysgrifennu telynegol.
Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2025 yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam mewn seremoni arbennig ar 27ain Mai.
Enillydd y categori cynradd yw Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts, darluniwyd gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn). Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy’n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau’n
ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo’i thaid, Taidi. Ond diolch i’r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i’r dre a’i phobl...
Enillydd y categori
uwchradd yw Cymry Balch Ifanc gan awduron amrywiol, golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter, darluniwyd gan Mari Philips (Rily). Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 13 o gyfranwyr LHDTCRA+ gyda gwybodaeth ffeithiol
am Pride Cymru. Mae’r gyfrol yn anelu at hybu dealltwriaeth ac empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+ drwy rannu profiadau personol.
Wedi eu sefydlu yn 1976, mae Gwobrau Blynyddol Tir na n-Og yn dathlu’r llyfrau gorau i blant ac oedolion ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, cymdeithas y llyfrgellwyr. Mae’r
enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 trwy nawdd gan CILIP Cymru.
Tir na n-Og Awards 2025
The Twelve by Liz Hyder (Pushkin Children's Books) is the 2025 winner of the Tir na n-Og English-language Award for children and young people’s literature. The winning title was announced at a special ceremony on the 21st May at Penglais School
in Aberystwyth. The ceremony was hosted by presenter Sara Gibson, with an audience of learners from the school who had the opportunity to meet some of the shortlisted authors.
The Twelve is a deeply captivating, darkly magical
Young Adult offering. When Kit’s sister, Libby, vanishes into thin air on a family holiday and no one else seems to remember her, Kit embarks on a dangerous journey to discover the truth. This book wraps you up in ancient magic and folklore,
drags you to its rich depths and consumes you with its lyrical and haunting writing.
The winners in the Welsh-language categories of the 2025 Tir Na n-Og Awards were announced on the 27th May in a special ceremony at the Urdd Eisteddfod Dur a Môr, Margam Park.
The winner in the primary age category was Arwana Swtan a’r Sgodyn Od by Angie Roberts and Dyfan Roberts, illustrated by Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn), a short and very funny novel from an author who knows how to amuse and entertain children.
When Arwana Swtan arrives in the town of Caernarfon in the middle of a big storm to stay with her grandad, Taidi, things are looking very bleak for the town. But once the inimitable mermaid Swigi Dwgong makes an appearance, things
start to look up...
The winner in the secondary age category was Cymry Balch Ifanc by various authors, edited by Llŷr Titus and Megan Angharad Hunter, illustrated by Mari Philips (Rily). An honest and deeply personal anthology collecting real-life stories
from 13 young LGBTQIA+ contributors, with information about Welsh Pride. The book aims to increase understanding and empathy towards people in the LGBTQIA+ community by sharing personal experiences.
The annual Tir na n-Og Awards, established in 1976, celebrate the best books for children and young in Wales. They are arranged by the Books Council Wales with sponsorship by CILIP
Cymru Wales, the Chartered Institute of Library and Information Professionals in Wales. The winners receive a financial prize of £1,000, sponsored by CILIP Wales.